16 Medi 2021

Rhowch eich barn i ni ar ddyfodol BBC Three

Heddiw, mae Ofcom yn ceisio eich barn am ein penderfyniad dros dro i ganiatáu i'r BBC ail-lansio BBC Three fel sianel deledu ddarlledu.

Fel rheoleiddiwr cyfathrebu, rhan o rôl Ofcom yw sicrhau nad yw unrhyw newidiadau y mae'r BBC yn eu gwneud i'w gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein a ariennir yn gyhoeddus yn rhoi mantais annheg iddi dros ddarlledwyr eraill. I wneud hyn, mae angen i ni farnu a yw gwerth cyhoeddus unrhyw newid arfaethedig yn cyfiawnhau unrhyw effaith negyddol y gallai ei chael ar y farchnad.

Mae'r BBC wedi cynnig ail-lansio BBC Three fel sianel ddarlledu. Rydym wedi dadansoddi'r cynnig hwn yn fanwl a dod i'r casgliad dros dro fod gwerth cyhoeddus dod â BBC Three yn ôl fel sianel ddarlledu yn cyfiawnhau'r effaith andwyol gyfyngedig ar y farchnad a allai godi ohono.

Rydym hefyd wedi canfod dros dro y byddai ail-lansio BBC Three fel sianel ddarlledu yn cynyddu ei hargaeledd a'i chyrhaeddiad i bobl nad oes ganddynt fynediad iddi ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cynnwys pobl o gartrefi incwm is a'r rhai sy'n byw y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr.

Yng ngoleuni ein penderfyniad dros dro, rydym hefyd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i'n Cod Ymarfer ar Ganllawiau Rhaglenni Electronig.

Yn amodol ar ein penderfyniad terfynol ar BBC Three, byddai'r newidiadau hyn yn sicrhau bod y sianel yn ymddangos o fewn 24 slot cyntaf y canllawiau rhaglenni electronig.

Mae'r ddau ymgynghoriad yn rhedeg tan 14 Hydref 2021, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol cyn diwedd y flwyddyn.

Ein penderfyniad dros dro yw caniatáu i'r BBC fwrw ymlaen â'r cynnig i ail-lansio BBC Three. Rydym yn disgwyl cyhoeddi casgliad terfynol erbyn mis Rhagfyr. Os byddwn yn cadarnhau ein penderfyniad dros dro, rydym ar ddeall fod y BBC yn dymuno lansio'r gwasanaeth newydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

See also...