19 Tachwedd 2021

Sut rydym yn cefnogi ein cydweithwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, menter a lansiwyd ym 1999.

Yn fyd-eang, mae yna rhai materion penodol a brofir gan ddynion - gan gynnwys y rhai sy'n rhieni yn y gweithle. Er enghraifft, gall y ffordd y mae systemau gofal plant wedi'u trefnu ei gwneud yn fwy anodd i ddynion gael yr hyblygrwydd sydd ei angen arnynt gan gyflogwyr pan fyddant yn mynd yn rhieni - yn enwedig pan fydd eu plant yn ifanc iawn.

Yma yn Ofcom rydym yn ymroddedig i fod yn gyflogwr o ddewis ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n gweithio.

I gefnogi hyn, heddiw rydym wedi dyblu ein cynnig absenoldeb tadolaeth i wyth wythnos ar gyflog llawn.

Ac i roi cyfle tecach i rieni gael mwy o hyblygrwydd i benderfynu sut y maent am rannu gofal i'w plentyn yn y flwyddyn gyntaf, mae gennym bolisi absenoldeb rhiant a rennir gwell o 20 wythnos ar gyflog llawn ac yna 19 wythnos ar hanner cyflog, heb gyfnod cymhwyso.

Dyma newid cadarnhaol iawn ac yn un a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rwy'n cofio pa mor anodd oedd mynd yn ôl i'r gwaith bythefnos ar ôl i fy merch gael ei geni ac felly mae'n gyffrous iawn gwybod y bydd gennym wyth wythnos o amser o safon gyda'n gilydd fel teulu y tro 'ma.

- Calum Gruer, ymgynghorydd economaidd, Ofcom

Mae cydnabod y rôl bwysig y mae Dadau a Chyd-Rieni yn ei chwarae ym mywyd y teulu yn allweddol i sicrhau gwir gydraddoldeb rhwng y rhywiau – ac mae bod yno yn ystod wythnosau cynnar bywyd plentyn yn amhrisiadwy. Mae gennym set wych o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd yn Ofcom ac rydym yn falch o wneud y cam hwn heddiw i ddyblu absenoldeb tadolaeth i 8 wythnos. Diwrnod Rhyngwladol y Dynion Hapus!

Kerri-Ann O'Neill, cyfarwyddwr pobl a thrawsnewid, Ofcom

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag Ofcom, edrychwch y swyddi sydd ar gael gyda ni ar hyn o bryd.

Related content