20 Mai 2021

Ofcom yn cyhoeddi diweddariad ar hygyrchedd canllawiau rhaglenni electronig

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar hygyrchedd canllawiau rhaglenni electronig (EPG).

Mae EPG yn ganllaw teledu ar y sgrîn sy'n helpu pobl i gynllunio'r hyn y byddant yn ei wylio ac i ddarganfod rhaglenni newydd. Ond gall pobl sydd â namau gweledol eu cael nhw'n anodd neu'n amhosib ei ddefnyddio, gan olygu y cyfyngir yn ddiangen ar eu dewisiadau gwylio ac y gallent golli allan ar ddod o hyd i raglenni.

I helpu pobl sydd â namau ar y golwg i lywio rhwng sianeli teledu'n fwy hwylus, gwnaethom gyflwyno newidiadau i'n cod EPG fel bod nodweddion penodol yn cael eu hymgorffori fel rhai safonol.

  • Testun i leferydd – mae gwybodaeth am sianeli, a'r testun y mae ei angen i lywio, ar gael fel lleferydd.
  • Hidlo ac uwcholeuo – rhestrir rhaglenni sydd â disgrifiadau sain, a'r rhai gydag arwyddo, ar wahân neu maent yn cael eu huwcholeuo.
  • Chwyddo – gall defnyddwyr chwyddo neu ehangu'r wybodaeth ar yr EPG.
  • Cyferbyniad uchel – gall defnyddwyr newid rhwng y wedd ddiofyn a gwedd cyferbyniad uchel.

Ein canfyddiadau

Mae'r adroddiad heddiw yn dangos y cynnwys a wnaed gan bob darparwr EPG wrth weithredu'r nodweddion hyn.

Gwnaethom nodi, er bod pandemig y coronafeirws (Covid-19) wedi effeithio ar ddatblygu cynnyrch, bod rhai darparwyr wedi gwneud cynnydd da wrth wella hygyrchedd eu gwasanaethau. Er hynny, mae gan rai eraill fwy i'w wneud o hyd.

Mae Digital UK wedi datblygu datrysiad sy'n defnyddio EPG a gyrchir trwy sianel ar wahân. Yn ddiweddar mae Sky wedi cyflwyno testun i leferydd, a sgriniau cyferbyniad uchel, ar holl fodelau Sky Q ei flychau pen set. Mae Virgin Media, fodd bynnag, yn dal i aros am gyflwyno'r rhan fwyaf o'r nodweddion ar eu llwyfan cenhedlaeth nesaf.

Rydym yn disgwyl yn awr y bydd darparwyr EPG nad ydynt wedi gweithredu'r nodweddion gofynnol yn llunio cynlluniau pendant i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi ein disgwyliadau ynglŷn â'r cynnydd rydym yn disgwyl ei weld cyn adroddiad y flwyddyn nesaf.

tabl sy’n dangos nodweddion hygyrchedd canllawiau rhaglen fesul darparwr.

Related content