16 Tachwedd 2022

148 o orsafoedd ar y tonnau awyr digidol diolch i chwyldro radio lleol

Bron i flwyddyn ers lansio'r amlblecs DAB graddfa fach cyntaf yn Tynemouth a South Shields, mae 148 o orsafoedd bellach yn darlledu ar draws y DU, gan gynyddu'r dewis i wrandawyr lleol.

Mae DAB graddfa fach yn dechnoleg flaengar sy'n darparu ffordd gost isel i wasanaethau radio masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol ddarlledu ar radio digidol.

Rhai o'r gorsafoedd diddordeb lleol newydd sbon sy'n gwasanaethu eu cymunedau yw Salisbury Radio, Winchester Today, Rother Radio (Sheffield a Rotherham), Radio West Norfolk (King's Lynn) a Central Radio (Blackpool).

Mae gorsafoedd cymunedol nid-er-elw a oedd gynt ond yn gallu darlledu ar AM neu FM hefyd wedi dechrau darlledu ar ddigidol. Mae'r rhain yn cynnwys Radio Cardiff, Drive 105 (Derry/Londonderry), Radio Tyneside, Cambridge 105, Switch Radio (Birmingham), Black Country Radio, Future Radio (Norwich) ac Akash Radio (Leeds).

Mae gorsafoedd sydd wedi'u hanelu at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol hefyd yn manteisio ar DAB graddfa fach. Mae'r rhain yn cynnwys Gorgeous Radio (sy'n darlledu i'r gymuned LHDT+ mewn sawl ardal wahanol), Spice Radio, sy'n gwasanaethu'r gymuned Asiaidd leol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, gorsaf radio myfyrwyr o Birmingham, Scratch Radio, a Celtic Music Radio yn Glasgow a Chaeredin, i'r rhai sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth a diwylliant cyfoes a thraddodiadol o'r Alban.

Ac rydym wedi gweld amrywiaeth o wasanaethau cerddoriaeth arbenigol yn mynd ar yr awyr gan gynnig dawns, soul, Afrobeat, albymau roc, gwrando esmwyth, hiraeth a cherddoriaeth amgen.

Sut mae Ofcom yn helpu'r gorsafoedd hyn i fynd ar yr awyr

Mae gorsafoedd DAB graddfa fach yn cael eu trawsyrru o amlblecs (gwasanaeth trawsyrru radio digidol). Gellir darlledu sawl gorsaf o bob amlblecs.

Mae amlblecsau wedi'u trwyddedu gan Ofcom. Rydym wedi gwneud dyfarniadau trwydded i 59 o amlblecsau radio graddfa fach hyd yma, ac mae 20 o'r rhain yn weithredol, gan ddod â mwy o radio i wrandawyr lleol.

Rydym yn rhedeg ein rhaglen drwyddedu amlblecsau DAB graddfa fach mewn rowndiau. Ac rydym newydd gwblhau'r drydedd rownd o drwyddedu gyda'r dyfarniadau'n cynnwys Milton Keynes, Rutland a Stamford, Swindon a Marlborough, Wetherby a Harrogate, ac Arfordir Swydd Efrog.

Mae disgwyl i fwy o orsafoedd mewn mwy o ardaloedd fynd ar yr awyr yn ddiweddarach eleni ac yn ystod 2023. Ar hyn o bryd rydym yn asesu ceisiadau amlblecs a dderbyniwyd mewn 24 o'n hardaloedd trwydded Rownd Pedwar. Yng ngwanwyn 2023, byddwn yn agor ceisiadau ar gyfer Rownd Pump a fydd yn cynnwys Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Related content