6 Mai 2022

Cyngor i lywodraeth y DU ar lwyfannau digidol a chyhoeddwyr newyddion

Heddiw, mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyngor gan Ofcom a'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar sut y gellir gwneud y berthynas ariannol rhwng y llwyfannau digidol mawr a chyhoeddwyr newyddion yn fwy teg.

Mae mynediad at amrywiaeth o safbwyntiau am newyddion a materion cyfoes yn hanfodol i weithrediad ein democratiaeth. Mewn blynyddoedd diweddar mae pobl wedi troi fwyfwy at ffynonellau ar-lein ar gyfer eu newyddion, naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio neu'r apiau a ddarperir gan ddarparwyr newyddion megis papurau newydd.

Mae'r newid hwn wedi cael effaith arwyddocaol ar fusnesau papurau newydd, sy'n gynyddol ddibynnol ar y cwmnïau technoleg mawr. Ym mis Gorffennaf 2021 gofynnodd llywodraeth y DU i Ofcom a'r CMA am ein cyngor ar sut y gallai defnyddwyr a darparwyr cynnwys, gan gynnwys papurau newydd, fod ar eu hennill pe bai pŵer bargeinio'r cwmnïau technoleg mwyaf yn cael ei reoli'n briodol.

Mae gwasanaethau ar-lein newydd yn caniatáu i bobl ddod o hyd i amrywiaeth o newyddion a chynnwys arall a chael mynediad atynt. Fel rheoleiddiwr cystadleuaeth a chynnwys sydd â diddordeb penodol mewn hyrwyddo plwraliaeth y cyfryngau, rydym am sicrhau nad yw'r gwasanaethau hyn yn tarfu ar argaeledd y cynnwys sydd ar gael yn awr neu'n ei ystumio - neu'n tanseilio buddsoddiad mewn cynhyrchu cynnwys a newyddiaduraeth.

Fel y nodwyd ym mhapur gwyn darlledu diweddar Llywodraeth y DU, mae'r ffordd y mae pobl yn defnyddio sianeli digidol i gael gwybodaeth yn newid yn gyflym. Mae ffyrdd newydd o gysylltu, megis taclau cymorth digidol a setiau teledu cysylltiedig, yn codi pryderon newydd am fynediad i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ac ynghylch sut mae gwasanaethau'n cystadlu â'i gilydd. Bydd Ofcom yn mynd i’r afael â'r materion hyn wrth symud ymlaen.

Rydym hefyd yn ymwybodol bod sicrhau plwraliaeth y cyfryngau yn mynd y tu hwnt i delerau defnyddio cynnwys teg ar lwyfannau digidol mawr. Felly, rydym yn edrych yn fanylach ar y bygythiadau a'r manteision posib i blwraliaeth y cyfryngau a byddwn yn dweud mwy am hyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mae cael ystod eang o ffynonellau newyddion a barn yn gonglfaen i'n democratiaeth, ein gwerthoedd a'n cymdeithas. Mae heddiw'n gam pwysig tuag at sicrhau canlyniad teg yn y berthynas rhwng llwyfannau ar-lein a chyhoeddwyr newyddion.

Mae'r ffordd y mae pobl yn defnyddio sianeli digidol i gyfathrebu a dod o hyd i wybodaeth yn newid yn gyflym. Rydym yn edrych yn fanylach ar y manteision a'r bygythiadau posib i blwraliaeth y cyfryngau, a byddwn yn dweud mwy am hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Related content