14 Ebrill 2022

Pum munud gyda… Kerri-Ann O’Neill, ein Cyfarwyddwr Pobl a Thrawsnewid

Kerri-Ann O'Neill

Bob hyn a hyn rydym yn hoffi rhoi mewnwelediad i'r bobl sy'n gwneud rhywfaint o'r gwaith sy'n bwysig er mwyn i Ofcom ffynnu. Rydym yn sefydliad amrywiol ac mae ein pobl yn gweithio ar draws ystod eang o feysydd. Rydym eisiau gwybod beth maen nhw'n ei fwynhau am weithio yn Ofcom a'r hyn a ddaeth â nhw yma, yn ogystal â chael cipolwg i'w cefndir.

Yma rydyn ni'n siarad â Kerri-Ann ONeill, cyfarwyddwr pobl a thrawsnewid Ofcom.

Beth yw cefndir eich gyrfa chi?

Rwyf wedi gweithio yn y maes adnoddau dynol ers dechrau'r 2000au a'm tasg gyntaf oedd helpu cydweithwyr i ddeall pŵer y rhyngrwyd yn eu rôl – mewn cwmni yswiriant mawr. Rydyn ni wedi dod yn bell ers y dyddiau hynny! Rwyf wedi gweithio ledled y byd gan gynnwys yn Singapore ac ar draws y marchnadoedd Asiaidd ac mae fy mhrofiad yn rhychwantu gwasanaethau ariannol, manwerthu a rheoleiddio'r sector cyfathrebu.

Beth ddaeth â chi i Ofcom?

Y genhadaeth anhygoel sydd gan Ofcom. Llunio'r stori twf, pobl Ofcom, ei hannibyniaeth a sut mae'n mynd ati i reoleiddio diwydiant drwy lens y bobl sy'n defnyddio'r cynhyrchion a'r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio.

Beth yw natur eich swydd?

Rwy'n arwain ein swyddogaeth pobl a thrawsnewid yn Ofcom ac rwy'n aelod o'r uwch dîm rheoli – fy ngwaith i yw pweru Ofcom i fod y lle gorau posib i weithio dros ein doniau anhygoel ac i wneud yn siŵr y gall pawb gyrraedd eu potensial drwy sicrhau bod y bobl iawn yn y swyddi iawn ar yr amser iawn!

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich rôl?

Rwyf wrth fy modd pan fyddwn yn gwneud rhywbeth beiddgar ac yn gwneud newid er gwell.

Y peth gorau am weithio i Ofcom? Yr her a'r cyfle a'r ymdeimlad rhyfeddol o gryf o bwrpas sy'n rhedeg drwy Ofcom.

Oes gennych chi unrhyw hoff gyflawniadau o'ch gwaith yn Ofcom?

Llawer, 'dw i ddim yn gwybod ble i ddechrau! Ein strategaeth lles Thrive, ein polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac ar gyfer addasiadau yn y gweithle, ein hymateb i'r pandemig Covid-19, y rhaglen Rise, ein gwaith datblygol ar symudedd cymdeithasol – ac mae helpu i sefydlu ein gwaith a'n tîm diogelwch ar-lein hefyd wedi bod yn werth chweil tu hwnt.

Yn eich barn chi, beth mae'r dyfodol yn ei argoeli ar gyfer y sectorau rydym yn eu rheoleiddio?

Cynnwrf yw'r gair allweddol. Gallwn ddisgwyl i lawer iawn o newid ac arloesedd ddigwydd, sy'n golygu bod angen i ni allu newid ein hunain i gadw i fyny. Credaf hefyd y bydd pynciau fel moeseg, hawliau dynol a chynaladwyedd yn mynd yn fwyfwy pwysig fel themâu ystafell fwrdd.

Beth fyddech chi'n ei ddweud i annog pobl i ddilyn gyrfa fel eich un chi?

Mae gwybod beth rydych chi am ei gyflawni yn ystod y chwe mis a thair blynedd nesaf yn eich helpu i hidlo allan unrhyw sŵn di-fudd ac i fod yn garedig. Mae'n fyd bach.

Related content