13 Mehefin 2022

Gwella ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein mewn cymunedau lleol

Dyma Claire Levens, Pennaeth Polisi Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau Ofcom, yn amlinellu pam mae ein hymchwil i'r ffyrdd pwysicaf o roi hwb i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn cymunedau lleol yn hollbwysig

Ni fu teimlo'n hyderus a medru ffynnu ar-lein erioed yn bwysicach. Rydym yn credu ei fod yn hanfodol i bobl yn y DU feddu ar y sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i fyw eu bywydau - ond ar hyn o bryd mae sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau wedi'u gwasgaru'n anwastad ar draws y boblogaeth.

Dyna pam rydym wedi rhoi cynlluniau ar waith i wella ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn cymunedau lleol. Y llynedd, bu i ni amlinellu ein nod o gomisiynu mentrau cymunedol i wella ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ymysg grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol.

I ddeall pa adnoddau sydd eu hangen i wella ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ymysg y rhai sydd eu hangen fwyaf, bu i ni gynnal ymchwil i fentrau cymunedol yn y DU sy'n taclo amrywiaeth eang o faterion rhwng misoedd Ionawr a Mawrth eleni. Bu i ni gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda staff a defnyddwyr gwasanaeth deg o fentrau. Mae'r mentrau y gwnaethom eu dewis yn helpu unigolion fel pobl hŷn, defnyddwyr banciau bwyd, dioddefwyr trais domestig a phobl anabl gyda phethau fel sgiliau digidol.

Daethom o hyd i waith gwych a wnaed gan y sefydliadau hyn. Mae'n hanfodol i ni ddeall pa ymagweddau sy'n helpu pobl o ddifri cyn i ni gomisiynu prosiectau i wella ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ein hunain. Yn ein dogfen ymchwil ddiweddaraf, rydym yn cydgrynhoi ein dysgu i saith egwyddor ac argymhelliad arfer gorau ar y ffordd orau o gyflwyno rhaglenni addysg ar lefel leol.

Yr edefyn sy'n dal yr egwyddorion hyn ynghyd yw hyblygrwydd. Bydd ein gweithgareddau'n gynlluniau peilot, sydd wedi'u dylunio i archwilio beth sy'n gweithio ac i fod yn onest ynghyd yr hyn nad yw'n gweithio. Bydd pob prosiect a gomisiynwn yn cael ei werthuso a byddwn yn rhannu ein mewnwelediad i adeiladu gwybodaeth ymysg y gymuned ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Dim ond trwy greu partneriaethau gyda sefydliadau yr ymddiriedir ynddynt gan y cymunedau yr ydym yn ceisio ymgysylltu â nhw y gallwn fod yn effeithiol wrth wella prosiectau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau lleol. Ein tasg gyntaf yw cyrraedd nhw a rhannu ein cynlluniau comisiynu. Cydnabyddwn na fyddant efallai yn ddilynwyr rheolaidd sianeli cyfryngau cymdeithasol Ofcom nac yn ymwelwyr rheolaidd â'n gwefan. Felly rydym yn falch iawn o fod yn rhoi sbardun i'r gwaith hwnna yr wythnos hon trwy gyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, Manceinion, Caeredin a Belfast.

Dengys ein hymchwil fod angen adnoddau ar gymunedau, boed y rheiny'n seiliedig ar leoliad neu brofiad a rennir, a fydd yn helpu i wella eu bywydau mewn gwirionedd Felly, mae angen i gymunedau fod yn rhan o ddysgu'r sgiliau hyn i'w gilydd. Mae'n hanfodol bod yr amodau cywir yn bodoli er mwyn i hynny ddigwydd - a dyna ein rôl ni fel comisiynydd. Dyna ein huchelgais, ac edrych ymlaen at weithio i gyflawni'r nod hwnnw.

See also...