22 Medi 2022

Rhaid i ddarparwyr feddwl yn ofalus am godi prisiau

Cyflwynwyd yr araith hon gan Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom, yn y gynhadledd Connected Britain yn gynharach yr wythnos hon.

Bore da. Mae’n bleser eich gweld chi i gyd eto.

Wrth ddod i’r lleoliad hwn, rwy’n rhyfeddu bob amser at ei hanes trawiadol ac amrywiol. Dros y 160 mlynedd diwethaf, mae’r waliau hyn wedi bod yn dyst i arddangosfeydd da byw, sioeau modur a thwrnamentau milwrol – heb sôn am y gystadleuaeth Crufts cyntaf erioed. Gwahanol iawn i farchnad telathrebu heddiw, mae’n debyg.

Neu efallai ddim. Yn wir, dim ond tri o’r meysydd yw amaethyddiaeth, trafnidiaeth ac amddiffyn lle mae technolegau di-wifr yn cael eu rhoi ar waith heddiw – gan lawer ohonoch chi, gyda chefnogaeth Ofcom drwy ein gwaith sbectrwm.

Mae bron pob un o sectorau cyhoeddus, preifat a hamdden y DU yn defnyddio dulliau cyfathrebu mewn rhyw ffordd i wella effeithlonrwydd, costau is, gwella gwasanaethau neu agor cyfleoedd newydd. Ein sector ni yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n sbarduno twf yn economi’r DU.

Nid yw Prydain erioed wedi bod yn fwy cysylltiedig. Ac eto, mae rhagor o waith i’w wneud.

Heddiw, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith mae Ofcom yn ei wneud i sicrhau bod cyfathrebu yn gweithio i bawb. I ni, mae hynny’n cynnwys ysgwyddo dyletswyddau newydd ac ymateb i newidiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen yn ein marchnadoedd – o dechnoleg sy’n tarfu, i newidiadau radical yn ymddygiad ac anghenion defnyddwyr.

Wrth i aelwydydd ar hyd a lled y wlad wynebu pwysau ariannol, rydym yn poeni na fydd prisiau’n dal yn fforddiadwy.

Wrth i’n seilwaith telathrebu wynebu bygythiad ymosodiadau seiber, mae gennym ddyletswyddau newydd i gadw rhwydweithiau’n ddiogel.

Ac wrth i’r sector telathrebu traddodiadol ddod yn un â’r byd ar-lein, rydym yn paratoi i edrych ar rai meysydd newydd lle gallai fod angen rheoleiddio.

Diweddariad ar delathrebu

Ond cyn i mi droi at y materion hynny, gadewch i ni ddechrau gyda nod hirdymor: cael band eang cyflymach a mwy dibynadwy i bob cartref a swyddfa.

Mae buddsoddi mewn rhwydweithiau ffeibr llawn sy’n gallu delio â gigabits wedi bod yn flaenoriaeth i Ofcom. Y llynedd, fe wnaethom ddadorchuddio fframwaith newydd i’w hyrwyddo. Fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, roedd hyn yn symudiad mawr i ffwrdd oddi wrth reoleiddio traddodiadol yn seiliedig ar gostau. Yn hytrach, fe wnaethom roi hyblygrwydd prisio i gwmnïau ar gynnyrch band eang cyflymder uwch, er mwyn iddynt allu sicrhau enillion teg ar eu buddsoddiad.

Yn hollbwysig, ar gyfer pob buddsoddwr, gwnaethom egluro ein bwriad i lynu wrth y fframwaith newydd am o leiaf ddeng mlynedd. Ein nod yw caniatáu i bob cwmni sicrhau elw teg ar eu buddsoddiad. Nid ydym yn disgwyl cyflwyno prisiau yn seiliedig ar gostau ar gyfer gwasanaethau ffeibr tan 2031 ar y cynharaf.

Dyna oedd ein neges i gwmnïau a buddsoddwyr y llynedd, ac rydym yn glynu wrthynt.

Felly a yw’n gweithio? Wel, rwy’n meddwl bod yr arwyddion yn gadarnhaol iawn.

Ers i’n rheolau ddod i rym, mae cyfran y cartrefi yn y DU sydd â band eang ffeibr llawn eisoes wedi mwy na dyblu, er mwyn cyrraedd dros un o bob tri.

Nod BT yw cysylltu 25 miliwn o gartrefi â ffeibr llawn o fewn tair blynedd. Mae Virgin Media yn bwriadu cyrraedd hyd at 23 miliwn yn ddiweddarach yn y degawd. Mae CityFibre yn targedu 8 miliwn erbyn 2025. Ac mae darparwyr llai yn gorchuddio miliynau yn fwy.

Ond mae’r gwaith ymhell o fod wedi’i wneud. Mae angen i adeiladwyr rhwydwaith allu cyrraedd eu targedau, ac mae gan Ofcom rôl barhaus i sicrhau bod pawb yn gallu cystadlu. Gallai hynny olygu helpu i gael gwared ar rwystrau rhag defnyddio, neu sicrhau bod pob cwmni’n dilyn y rheolau. Fel rhan o hynny, bydd ein huned fonitro yn parhau i adrodd ar rôl y darparwr mwyaf, sef Openreach.

Felly, yn fyr, mae angen amgylchedd iach a chystadleuol arnom, gyda rheolau clir.

Mae hynny’n cadw prisiau’n fforddiadwy i gartrefi a busnesau ledled y DU.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cwsmeriaid band eang a ffonau symudol wedi bod yn cael mwy am eu harian.

Fel y gwyddom, mae’r defnydd yn ffynnu. Dros y pum mlynedd diwethaf yn unig, mae faint o ddata sy’n cael ei ddefnyddio mewn cartref cyffredin y DU wedi treblu a mwy. Mae’r cyflymder llwytho i fyny cyfartalog, sy’n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer gwasanaethau fel galwadau fideo, wedi mwy na dyblu yn ystod yr un cyfnod. Ac mae faint o ddata sy’n dod o fastiau symudol yn dyblu bob blwyddyn.

Ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb wariant cyfalaf mewn rhwydweithiau. Felly, wrth i economi ddigidol y DU barhau i ddatblygu, mae’n hanfodol bod buddsoddiad yn parhau er mwyn i gwsmeriaid gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, a bod ein sector yn parhau i sbarduno twf ac elwa ohono.

Rwy’n cydnabod bod hyn yn gofyn am ymrwymiad. Mae buddsoddwyr yn disgwyl enillion cadarnhaol, ac mae’r costau’n codi mewn rhai meysydd.

Felly, lle bynnag y gallwn, byddwn yn parhau i ddarparu cymorth rheoleiddio. Er enghraifft, cyn bo hir byddwn yn nodi cynlluniau i ddiweddaru ein canllawiau ar niwtraliaeth y rhyngrwyd. Rydym yn deall bod eglurder yn y maes hwn yn bwysig er mwyn rhoi hyder i’r rheini sy’n buddsoddi mewn 5G.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r angen i brisiau adlewyrchu’r buddsoddiad hwnnw. Ond rwyf am fod yn glir yma: dylai’r prisiau hynny fod yn deg.

Gwasanaethau fforddiadwy

Dros y ddwy flynedd diwethaf, fe wnaeth ein diwydiant telathrebu ymateb i’r her o gadw pobl mewn cysylltiad yn ystod argyfwng eithriadol ym maes iechyd y cyhoedd. Nawr, rydym yn wynebu argyfwng o genhedlaeth i genhedlaeth yng nghyllidebau cartrefi a busnesau ledled y wlad.

Ac er mai dim ond ffracsiwn o gostau ynni’r cartref y gall biliau telathrebu ei gynrychioli, mae pob bil yn cyfrif. Mae miliynau o bobl yn dioddef.

Dyma rai ffyrdd y gall cwmnïau band eang a symudol helpu. Yn gyntaf, drwy barhau i gynnig bargeinion da. Mae’r bargeinion band eang cyflym iawn rhataf, er enghraifft, yn fforddiadwy i’r rhan fwyaf o bobl, sef tua £22 y mis.

Yn ail, drwy hyrwyddo ‘tariffau cymdeithasol’ rhatach ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ariannol. Rwy’n falch, ers i ni dynnu sylw at y mater hwn yn ôl ym mis Chwefror, fod nifer y bobl sy’n cofrestru wedi mwy na dyblu. Ond mae hynny’n dal i olygu bod miliynau o gartrefi, sy’n gymwys i gael budd-daliadau, yn colli allan ar arbedion band eang o tua £150 bob blwyddyn. Gall pawb wneud mwy i wneud y cynigion hyn yn weladwy ac yn hawdd manteisio arnynt. Credaf fod gennym gyfrifoldeb moesol i wneud hynny.

Ac yn drydydd, rydw i eisiau trafod codiadau blynyddol mewn prisiau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod chwyddiant yn broblem ehangach, macro-economaidd sy’n effeithio ar rai costau cyfanwerthol, yn ogystal â chwsmeriaid. Ond er nad yw Ofcom yn rheoleiddio prisiau manwerthu, rydym am i gwmnïau feddwl yn ofalus iawn am yr hyn y gellir ei gyfiawnhau yn ystod cyfnod eithriadol o galedi i lawer o bobl.

Rydym yn credu bod gan gwmnïau ddyletswydd tuag at eu cwsmeriaid, i gydnabod ac ymateb i hinsawdd economaidd unigryw. Disgwyliwn iddynt gyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw. Gallant wneud hynny o fewn eu modd, a heb gyfaddawdu ar enillion teg na buddsoddiad parhaus.

Diogelwch rhwydweithiau

Hoffwn symud ymlaen nawr i sôn am bwysigrwydd sicrhau bod ein rhwydweithiau’n ddiogel ac yn gadarn.

Wrth i werth dynol rhwydweithiau – a’r gwasanaethau sy’n dibynnu arnynt – gynyddu, maent yn dod yn darged mwy deniadol i ymosodwyr. Felly wrth i dechnoleg esblygu, rhaid i ni sicrhau bod ein rhwydweithiau’n aros yn ddiogel, ac atal tarfu a allai effeithio ar sectorau eraill hefyd.

Mae digwyddiadau diweddar yn atgyfnerthu’r angen hwnnw. Mae cyflenwyr mawr fel SolarWinds a Syniverse wedi cael eu tanseilio. Mae gwendidau meddalwedd newydd yn dod i’r amlwg, fel log4j. Rydym wedi gweld galwadau am feddalwedd wystlo, ac ymosodiadau wedi’u targedu sy’n cael eu noddi gan wladwriaethau gelyniaethus.

Dyma rai o’r rhesymau pam mae arnom angen fframwaith diogelwch cryf sy’n edrych tua’r dyfodol. A’r llynedd, daeth y Ddeddf Diogelwch Telegyfathrebiadau i rym, gan osod fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer rheoleiddio.

O dan y Ddeddf, rhaid i gwmnïau telathrebu gymryd camau i adnabod a lleihau’r risg y bydd eu rhwydweithiau’n cael eu tanseilio. Os bydd digwyddiad yn digwydd, dylai fod yn barod i drwsio’r broblem a chyfyngu ar unrhyw ddifrod.

Gwaith Ofcom, o’r cyntaf o Hydref ymlaen, fydd goruchwylio hyn a sicrhau bod gan ddarparwyr fesurau priodol ar waith. Byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn gwella eu diogelwch, ac yn monitro eu cydymffurfiad yn erbyn y fframwaith diogelwch newydd.

Mae hyn yn dipyn o her i’r diwydiant erbyn hyn. Mae’n golygu buddsoddi i uwchraddio diogelwch, gan wybod y bydd data cwsmeriaid yn fwy diogel, ac felly busnes ac enw da’r darparwr hefyd. Wrth i ni symud tuag at ddyfodol 5G a Gigabit, nawr yw’r amser i wneud y buddsoddiadau hyn er mwyn i rwydweithiau newydd gael eu dylunio gyda diogelwch mewn golwg, yn hytrach na gorfod cael eu hôl-osod. Os byddwn yn gwneud hyn yn iawn, bydd pawb yn elwa.

Mae seiberddiogelwch yn daith barhaus. Wrth i natur y bygythiadau rydym yn eu hwynebu barhau i esblygu, felly bydd angen i’n diwydiant gadw’n effro i’r risgiau hynny a gwarchod yn eu herbyn.

Yn y farchnad ehangach, rydym yn cefnogi cynllun y Llywodraeth i amrywio’r gadwyn gyflenwi, fel bod y DU yn llai dibynnol ar nifer fach o werthwyr. Er mwyn helpu’r diwydiant i gyflawni hyn, rydym yn cefnogi profion labordy yn y byd go iawn drwy’r rhaglen labordai SONIC.

Rydym hefyd yn deall bod gwydnwch seiber yn rhoi costau i’n cwmnïau telathrebu. Felly, rydym yn gofalu ein bod yn monitro cydymffurfiad mewn ffordd na fydd yn creu beichiau diangen. Pan fyddwn yn gweld meysydd sy’n peri pryder, byddwn yn gweithio’n adeiladol gyda darparwr i’w datrys. Ond yn yr un modd, dylai cwmnïau fod yn glir ein bod yn barod i gymryd camau gorfodi lle mae angen hynny.

Yn gryno, mae hwn yn gyfnod prysur ar gyfer rheoleiddio – ac mae ar fin prysuro hyd yn oed. Oherwydd, wrth i’n sectorau barhau i ddod yn un, mae’r ffiniau’n cymylu rhwng rhwydweithiau traddodiadol a gwasanaethau ar y rhyngrwyd.

Marchnadoedd digidol

Gyda phob wythnos sy’n mynd heibio mae’r gwasanaethau, y sgriniau a’r safleoedd sy’n rhoi gwybodaeth ac adloniant i bobl, ac sy’n ein helpu ni i weithio a chysylltu, yn datblygu ac yn cynyddu mewn nifer.

Mae'r byd go iawn a'r byd ar-lein yn dod ynghyd. Mae elfennau ffisegol rhwydweithiau telathrebu, fel gwifrau a mastiau, bellach yn cynnal elfennau ar-lein fel cyfrifiadura cwmwl a gweithio o bell. Mae pobl yn newid yn rhwydd rhwng darllediadau traddodiadol neu alwadau ffôn symudol, i wasanaethau ar y rhyngrwyd fel Netflix, YouTube, Zoom a WhatsApp, yn aml ar yr un ddyfais.

Mae gwaith Ofcom yn datblygu hefyd. Yn ystod y flwyddyn diwethaf rydym wedi dechrau rheoleiddio safleoedd fideo ac apiau fel TikTok a Snapchat. Ac rydym yn paratoi i oruchwylio’r cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio o dan y Bil Diogelwch Ar-lein, gyda’r dasg o sicrhau eu bod yn diogelu eu defnyddwyr yn well.

Felly, mae’n bwysig iawn bod rheoleiddwyr yn deall yr economeg, y technolegau a’r ymddygiad y tu ôl i’r marchnadoedd newidiol hyn. Mae hynny’n cynnwys y berthynas rhwng pris, preifatrwydd a data; effeithiau pŵer y farchnad; rôl gynyddol deallusrwydd artiffisial; a dyfodiad cyflym gwasanaethau ariannol digidol.

I’w roi mewn ffordd arall, nid yw ‘digidol’ yn sector o’r economi gydag un rheoleiddiwr i gyfateb iddo. Fwyfwy, dyma’r union ffordd rydym yn byw ein bywydau.

I ragweld y newidiadau hyn, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl ymunodd Ofcom â’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac yn ddiweddarach â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i ffurfio’r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol, neu DRCF.

Mae’r Fforwm yn ymwneud â sicrhau rheoleiddio clir, cyson a chydlynol. Mae’n ein helpu i lunio barn gyfunol am dueddiadau a datblygiadau arloesol pwysig yn y diwydiant. Ac mae’n ein galluogi i gronni adnoddau, osgoi dyblygu ac ymateb yn gyflym i newidiadau yn y farchnad.

Mae angen rheoleiddiwr cyfunol fel Ofcom ar delathrebu a marchnadoedd digidol sy'n dod yn un hefyd, er mwyn i ni ragweld a chadw ar y blaen i newidiadau. Felly, yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn cyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer marchnadoedd digidol, gyda’r nod o wneud union hynny.

O dan y strategaeth newydd, rydym yn bwriadu defnyddio amrywiaeth o bwerau sydd ar gael i ni – gan gynnwys cyfraith cystadleuaeth a defnyddwyr, a’r pŵer i gynnal astudiaethau marchnad.

Ochr yn ochr â’n strategaeth, byddwn yn nodi’r marchnadoedd penodol rydym yn bwriadu eu harchwilio eleni ac yn nes ymlaen. Cadwch lygad am hynny yn ystod y dyddiau nesaf.

Casgliad

Mae’r rhain, felly, yn gyfnodau o newid mawr – i’r diwydiant telathrebu, ac i’w reoleiddiwr.

Bob dydd, mae’r ddarpariaeth o rwydweithiau cyflymach a mwy dibynadwy yn cynyddu.

Mae cwmnïau’n buddsoddi mewn cysylltiadau mwy diogel a chadarn, sy’n gallu gwrthsefyll amrywiaeth o fygythiadau sy’n newid.

Mae rhwydweithiau ffisegol a gwasanaethau ar-lein yn dod yn un i greu economi ddigidol newydd.

Mae rôl Ofcom yn newid, gyda dyletswyddau newydd a strategaeth newydd ar gyfer y dyfodol.

Ac eto, yng nghanol yr holl newid ac addasu hwnnw, mae ein nodau canolog yn aros yr un fath: marchnadoedd iach a chystadleuol, prisiau teg, buddsoddiad cryf ac arloesedd flaengar.

Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r holl bethau hynny, gan weithio gyda phob un ohonoch yn y diwydiant i helpu i sicrhau Prydain Gysylltiedig go iawn.

Efallai fod y dyfodol yn edrych yn wahanol iawn i’r gorffennol; ond nid yw mor gyffrous.

Diolch.

See also...