7 Medi 2022

Ydych chi wedi arbed arian drwy newid i dariff band eang cymdeithasol?

Ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, wedi elwa o dariff cymdeithasol i gael gwell bargen symudol neu fand eang? Os felly, hoffem glywed oddi wrthoch.

Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn gostyngol yn arbennig, sydd ar gael i gwsmeriaid sy'n derbyn budd-daliadau. Gall pobl sy'n cymryd tariff cymdeithasol arbed tua £144 y flwyddyn ar eu biliau band eang.

Ond er bod nifer o gwmnïau'n cynnig y pecynnau hyn, mae ein hymchwil yn dangos nad yw miliynau o gwsmeriaid cymwys wedi cofrestru eto. Felly rydyn ni'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol, fel rhan o'n gwaith i helpu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw.

A dyna lle mae angen eich mewnbwn chi. Un o'r ffyrdd rydyn ni'n ceisio codi ymwybyddiaeth yw drwy dynnu sylw at y gwahaniaeth y gall tariff cymdeithasol ei wneud i aelwydydd a allai fod yn cael trafferth gyda'u biliau. Felly os ydych chi wedi arbed arian drwy newid i un o'r pecynnau hyn, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych.

Llenwch y ffurflen isod gyda'ch manylion i'n helpu ni i ledaenu'r gair am dariffau cymdeithasol.

Related content