14 Hydref 2022

Ydych chi'n 'uwchledwr’? Datgelu arferion gwrando di-glustffonau'r DU

Mae bron i hanner y bobl bellach yn uwchledu o'u ffôn yn gyhoeddus – ond mae wyth o bob deg yn ei chael hi'n annifyr.

Bydd llawer ohonom wedi clywed sŵn cerddoriaeth neu fideo rhywun arall pan fyddwn allan, a hynny o ganlyniad i'r arfer sydd gan rai pobl o ddefnyddio eu dyfais heb glustffonau.

Gyda 90% o'r DU bellach yn berchen ar ffonau clyfar ac yn manteisio ar fynediad cyffredinol i'r we symudol, mae pobl sy'n gwylio cynnwys wrth symud wedi mynd yn gyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond sut mae ymateb i eraill yn gwneud hyn heb glustffonau a gyda'r sain wedi troi i fyny – sef 'uwchledu’.

Efallai eich bod chi wedi profi hyn ar gludiant cyhoeddus, wrth fachu tamaid i'w fwyta - neu hyd yn oed wrth gerdded i lawr y stryd. Neu efallai eich bod chi'n uwchledwr eich hun?

Fel rhan o rôl Ofcom o dracio sut mae pobl yn defnyddio technoleg, bu i ni ymchwilio i ymddygiadau ac agweddau pobl o ran yr hyn a elwir yn uwchledu.

Fe wnaethon ni ofyn iddynt os gwnaethon nhw hynny a ble, a sut maen nhw'n teimlo am bobl eraill yn ei wneud.

Gwylio fideos

Mae ychydig o dan hanner (46%) o bobl yn dweud eu bod yn gwylio fideos heb glustffonau mewn lle cyhoeddus, ond mae hynny'n amrywio llawer iawn yn ôl oedran. Mae pobl ifanc yn eu harddegau tua phedair gwaith yn fwy tebygol o uwchledu fideos na phobl dros 55 oed - tra bod 21% yn unig o bobl dros 55 oed sy'n ei wneud, mae'n codi i 83% ymhlith y rhai 13-17 oed.

Mae hefyd yn fwy cyffredin ymhlith dynion (52%) na menywod (40%).

Dywed

46%

o bobl iddynt wylio fideos heb glustffonau mewn man cyhoeddus

Gwneud galwadau fideo

Yn yr un modd, mae ychydig llai na hanner (45%) o bobl yn dweud eu bod yn gwneud galwadau fideo heb glustffonau. Ac, mae rhaniad oedran mawr yma: dim ond 23% o bobl 55+ oed sy'n dweud eu bod yn uwchledu galwadau fideo yn gyhoeddus, ond mae hynny'n codi i 69% o bobl 13-17 oed.

Gwrando ar gerddoriaeth

O'i gymharu â fideos a galwadau llais, mae llai o bobl yn dweud eu bod yn gwrando ar gerddoriaeth mewn mannau cyhoeddus heb glustffonau.  Dywedodd ychydig dros draean o bobl yn gyffredinol (36%) eu bod yn gwneud hyn, ac unwaith eto, roedd hyn yn fwy cyffredin ymhlith pobl iau ac ymatebwyr o gefndiroedd BAME.

Mae lleoliad yn bwysig

Fe ofynnon ni i bobl a oedden nhw'n credu ei bod yn dderbyniol i uwchledu mewn amryw o lefydd cyhoeddus. Bws/trên ac mewn bwyty neu gaffi yw'r lleoliadau mwyaf cyffredin, y cawsant eu nodi gan 17% a 15% o'n hymatebwyr yn y drefn honno.

Ar y cyfan, fodd bynnag, nid yw bron i chwech o bob deg o'r bobl y gwnaethom siarad â nhw yn credu ei bod yn dderbyniol i uwchledu mewn unrhyw le cyhoeddus (58%), a dywedodd pedwar o bob deg (42%) iddynt wneud hynny mewn o leiaf un o'r lleoedd cyhoeddus y gwnaethom ofyn amdanynt.

Sut mae pobl yn ymateb?

Mae wyth o bob deg o bobl yn cael eu cythruddo gan uwchledu.

Ac mae'n ymddangos po fwyaf hen yr ydym, y mwyaf tebygol yr ydym o gael ein blino gan yr ymddygiad hwn. Dywedodd ychydig dros hanner (52%) o bobl ifanc wrthym eu bod yn ymateb yn negyddol i uwchledu, ac mae hyn yn codi i naw o bob deg o bobl (89%) 55 oed a throsodd.

Gall hyd yn oed y rhai sy'n uwchledu ei chael yn annifyr pan fydd pobl eraill yn ei wneud - gyda bron i dri chwarter o uwchledwyr yn cyfaddef bod clywed eraill ar eu dyfeisiau'n peri rhwystredigaeth iddynt.

Cymryd camau

Felly sut ydyn ni'n ymateb pan fyddwn ni'n profi eraill yn gwrando ar eu ffonau a'u dyfeisiau eraill yn gyhoeddus? Mae tua hanner y bobl yn ffrwyno'u teimladau yn y dull Prydeinig ac yn gwneud dim. Yr ymateb mwyaf cyffredin i'r rhai sy'n gwneud rhywbeth (a ddyfynnwyd gan 44% o ymatebwyr) yw symud i ffwrdd o'r ardal. Dim ond tua un o bob 10 (9%) sy'n gofyn i'r person stopio. Fodd bynnag, mae rhieni dros ddwywaith yn fwy tebygol (14%) o ofyn i rywun stopio uwchledu na'r rhai nad ydynt yn rhieni (6%).

Gan adlewyrchu eu tebygolrwydd cynyddol o ymateb yn negyddol i uwchledu, mae pobl hŷn 55+ oed yn fwy tebygol o wneud rhywbeth na phobl mewn grwpiau oedran eraill.

Dysgwch fwy am arferion y cyfryngau

Daw'r canfyddiadau hyn yn sgil adroddiad Cyfryngau'r Genedl diweddar Ofcom, sy'n bwrw golwg ar sut mae pobl yn defnyddio ystod o gyfryngau a thechnoleg i gyfathrebu, aros yn hyddysg a diddanu eu hunain.

Related content