30 Mawrth 2021

Ydych chi'n mynd â'ch ffôn i'r tŷ bach? Datgelu canlyniadau 'cyfrifiad amgen' Ofcom

Os ydych chi'n un o'r bobl hynny sy'n mynd â'u ffôn i'r tŷ bach, rydych chi mewn cwmni da - gyda bron dau draean o bobl yn cyfaddef eu bod yn gwneud e.

Mae hyn yn ôl canlyniadau 'cyfrifiad amgen' y gwnaethom ei bostio'n ddiweddar ar Twitter ar yr un pryd â chyfrifiad swyddogol 2021 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd llai nag un o bob pump o bobl wrthym fod yn well ganddynt adael eu ffonau y tu allan i'r tŷ bach, tra y dywedodd un y cant sy'n swil fod yn well ganddynt beidio â dweud.

Gofynnon ni gyfres o gwestiynau i gael gwybod mwy am eich profiadau o rai o'r cynhyrchion a gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio - gyda rhai o'r pynciau'n ffocysu ar sut mae ymddygiadau o bosib wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod y cyfnod clo.

Rhoddodd yr atebion awgrym i ni o sut mae cysylltiadau a thechnoleg yn helpu i siapio'ch bywydau bob dydd.

Codi'n braf o'r gwely?

Er enghraifft, dywedodd mwy na hanner o bobl wrthym mai'r peth cyntaf maen nhw'n gwneud yn y bore yw gwirio eu ffôn symudol - dros ddwywaith y nifer sy'n codi o'r gwely cyn gwneud hynny. Hefyd un yn unig allan o ddeg sydd â greddf fwy rhamantaidd, gan ddweud wrthym mai'r peth cyntaf maen nhw'n gwneud yn y bore yw cusanu eu partner.

Yn yr un modd, dywedodd fwy na hanner o bobl wrthym nad ydynt BYTH yn diffodd eu ffonau symudol yn gyfan gwbl, tra bod 13% a naw y cant yn dweud eu bod yn diffodd eu ffonau bob dydd a bob wythnos, yn y drefn honno.

Ac efallai mai presenoldeb cynyddol ein ffonau symudol yw'r hyn sy'n esbonio pam y dywedodd y mwyafrif helaeth a atebodd ein harolwg - mwy na naw o bob deg - iddynt 'ddwbl-sgrinio' yn rheolaidd - sef defnyddio ffôn, gliniadur neu lechen ar yr un pryd â gwylio'r teledu.

Wrth fwrw golwg ar arferion ffôn mwy traddodiadol, gofynnon ni i bobl a ydynt yn siarad mwy, llai neu'r un peth ar y ffôn o'i gymharu â deng mlynedd yn ôl.

Dywedodd dros hanner o bobl wrthym eu bod yn siarad ar y ffôn yn llai aml nad yr oeddent yn arfer gwneud, a dywedodd un o bob tri eu bod yn siarad mwy nag yr oeddent yn y gorffennol. Dywedodd un o bob deg nad ydynt wedi newid faint maen nhw'n siarad ar y ffôn.

Arferion yn y cyfnod clo

Yn y cyfnod clo roedd rhaid i lawer ohonon ni ddibynnu ar ein cysylltiadau cartref i weithio, astudio a chwarae. Mewn rhai aelwydydd gallai hyn fod wedi arwain at straen ar y cysylltiad, ond dim ond chwarter o bobl a ddywedodd iddynt ddadlau yn eu haelwyd yn ystod y cyfnod clo ynghylch pwy sy'n mynnu'r wifi i gyd.

Ac er i'r cyfnod clo gyfyngu ar yr hyn rydym wedi medru gwneud y tu allan, mae'n amlwg ei fod wedi rhoi amser i ni ddal i fyny ar wylio'r teledu. Dywedodd mwy nag un o chwech o bobl wrthym iddynt wylio mwy na 20 o sioeau teledu gwahanol yn ystod y cyfnod clo.

Ar nodyn teledu nostalgig, gofynnom i bobl enwi rhaglenni hoff annwyl o'r gorffen yr hoffen nhw eu gweld yn dychwelyd i'r sgrîn. Dyma ddetholiad o'r hyn a ddwedwyd wrthym. Ydych chi'n cofio'r rhain?

  • Dinas
  • Animal Magic gyda Johnny Morris
  • That Was The Week That Was
  • Yes Minister
  • Fawlty Towers
  • Battlestar Galactica
  • It Ain’t Half Hot Mum
  • Father Ted
  • Quantum Leap
  • Monkey

Mae'r cyfnod clo wedi creu llwyth o enydau feiral ar gyfryngau cymdeithasol. Pan ofynnon ni am y rhain, dywedodd bron chwech o bob deg o bobl mai eu hoff ddigwyddiad feiral oedd y cyfarfod cyngor plwyfol ‘Jackie Weaver’ drwg-enwog a aeth yn adnabyddus am yr holl resymau anghywir…

Ac yn olaf, tra ein bod i gyd wedi cael mwy na'n cyfran deg o gyfarfodydd rhithwir yn ddiweddar, dywedodd mwy na naw o bob deg o bobl y byddai'n uchafbwynt eu dydd petai anifail anwes cydweithiwr yn gwthio ei ben i mewn i un o'r rhain.

I'r un o bob deg o bobl a dybiodd fod ymddangosiad anifail anwes yn amhroffesiynol, mae Wilf yn ymddiheuro'n ddiffuant...

Wilf y ci

Related content