16 Rhagfyr 2022

Cymeradwyaeth i wasanaethau drôn masnachol newydd esgyn i'r awyr yn y flwyddyn newydd

Bydd gwasanaethau masnachol newydd ac arloesol a ddarperir gan ddrôns yn gallu esgyn i'r awyr o fis Ionawr 2023, wrth i Ofcom gadarnhau heddiw y bydd yn dechrau rhoi trwyddedau sbectrwm ar gyfer offer diogelwch a chyfathrebu hanfodol i ddrôns.

Mae datblygiadau technoleg wedi arwain at drôns o faint a chymhlethdod cynyddol sy'n hedfan dros bellteroedd hirach – mewn rhai achosion yn teithio y tu hwnt i olwg y gweithredwr.

Mae hyn wedi creu amrywiaeth o gyfleoedd masnachol ar draws sawl diwydiant, o ddanfon cyflenwadau meddygol i ardaloedd anghysbell, i ddefnydd mewn ymgyrchoedd chwilio ac achub.  Ond mae angen o hyd i ddrôns pellter uwch, uchder uchel gael eu rheoli ac anfon data neu fideo'n ôl at y gweithredwr.

Gan gydweithio'n agos âr Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), mae Ofcom wedi datblygu ymagwedd newydd at awdurdodi'r offer radio sydd ei angen i gyfathrebu â'r drôns hyn. Heddiw, rydym yn cadarnhau y bydd cwmnïau'n gallu gwneud cais am fath newydd o drwydded sbectrwm o 20 Ionawr 2023, a fydd yn galluogi cwmnïau i ddefnyddio rhwydweithiau symudol a lloeren i alluogi eu fflydoedd drôns i weithredu ystod ehangach o wasanaethau a thros bellteroedd hirach.[1]

Llwybr hedfan wedi'i osod ar gyfer trefn trwyddedu drôns newydd

Fel rheoleiddiwr y sbectrwm radio, mae Ofcom ar hyn o bryd yn caniatáu i drôns ddefnyddio tonfeddi aer sydd wedi'u dynodi ar gyfer awyrennau model neu ar gyfer Wi-Fi heb fod angen trwydded.[2] Mae'r trefniant hwn yn anaddas ar gyfer y gwasanaethau a gynigir gan y genhedlaeth ddiweddaraf o drôns, gan fod y cyfyngiadau ar bŵer radio drôns sy'n destun eithriad trwydded yn eu hatal rhag darparu'r amrediad angenrheidiol.

Bydd lansio'r drefn drwyddedu newydd yn caniatáu i weithredwyr trwyddedig - a allai fod yn gwmni neu'n unigolyn - ddefnyddio rhai technolegau cyfathrebu ar y drôn am y tro cyntaf sy'n galluogi gweithredu drôn y tu hwnt i'r linell olwg weledol. Mae'r rhain yn cynnwys terfynellau symudol a lloeren ar gyfer rheoli a thrawsyrru data, ac offer diogelwch i alluogi drôns masnachol i osgoi gwrthdrawiadau ac integreiddio'n ddiogel i ofod awyr y DU.[3]

Unwaith y caiff ei rhoi, bydd trwydded newydd yn para am gyfnod amhenodol, yn amodol ar ffi flynyddol o £75. Mae'r drwydded yn cwmpasu pob drôn a weithredir yn y DU a dyfroedd tiriogaethol, ond nid hediadau rhyngwladol.

O dan delerau eu trwydded newydd, mae'n rhaid i weithredwyr drôns sicrhau cytundeb ysgrifenedig penodol gan weithredydd rhwydwaith symudol neu loeren cyn defnyddio ei rwydwaith. Mae trwyddedeion hefyd wedi'u gwahardd rhag defnyddio'r band 2.6 GHz (2500-2690 MHz) er mwyn diogelu radar rheoli traffig awyr.

Diogelwch yn gyntaf

Mae trwyddedau newydd Ofcom hefyd yn awdurdodi defnyddio offer diogelwch, gan gynnwys radar, tywysyddion ac altimedrau, i alluogi drôns i weithredu'n ddiogel yng ngofod awyr y DU.

Ynghyd â Llywodraeth y DU, mae'r CAA wrthi'n datblygu fframwaith tymor hwy ar gyfer sut y gellir integreiddio drôns i reolaeth gofod awyr y DU. Fel rhan o hyn, mae'n debygol y bydd y CAA yn cyflwyno gofynion pellach yn ymwneud â pha offer radio diogelwch y mae'n rhaid i weithredwyr drôns ei ddefnyddio.

Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r CAA a Llywodraeth y DU i sicrhau bod y rheoliadau'n parhau i gydweddu.

Bydd drôns masnachol yn newid byd go iawn, gan ddod â manteision enfawr fel helpu i ddiwallu anghenion gofal iechyd mewn cymunedau anghysbell, a chefnogi cyrchoedd chwilio ac achub.

Bydd ein trwydded sbectrwm newydd yn galluogi arloeswyr technoleg drôn flaengar sy'n dod i'r amlwg i harneisio ei photensial llawn a chynnig ystod ehangach o wasanaethau i bobl a busnesau ar draws y DU.

David Willis, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom

Nodiadau i olygyddion

  1. Daw cadarnhad heddiw o'r gyfundrefn trwyddedu drôns masnachol newydd yn sgil nifer o dreialon arloesol. Mae'r treialon hyn wedi galluogi sefydliadau i ymchwilio, datblygu a phrofi mathau newydd o offer di-wifr ar ddrôns. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • Y Post Brenhinol yn ymchwilio i 'lwybrau post drôn' i wneud danfoniadau i gymunedau anghysbell, gyda hediadau prawf y gwasanaeth newydd yn cyflawni taith o bron i 100 milltir yng nghefn gwlad Yr Alban. Yn y pen draw mae'r cwmni'n gobeithio y bydd hyd at 200 o drôns yn helpu i gludo'r post ar 50 llwybr newydd, ac Ynysoedd Sili, Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Erch a'r Ynysoedd Hebrides fydd y cyntaf i elwa ohonynt.
    • cyswllt cludiant rhwng Ysbyty Southampton ac Ysbyty St Mary's ar Ynys Wyth er mwyn danfon cyflenwadau meddygol brys yn ystod pandemig y coronafeirws; a
    • defnyddio drôns mewn lleoliadau diwydiannol i archwilio, monitro a chynnal a chadw peiriannau.
  2. Nid yw'r drwydded newydd yn disodli'r drefn eithriad trwydded bresennol ar gyfer yr offer pŵer isel 2.4 GHz a 5 GHz y mae'r mwyafrif o drôns ar y farchnad heddiw yn ei ddefnyddio. Ni fydd angen i berchnogion y drôns hyn gael un o'r trwyddedau newydd ar yr amod bod yr offer yn bodloni'r amodau ar gyfer defnydd eithriad trwydded.
  1. Mae'r CAA yn rheoleiddio diogelwch hedfan, gan gynnwys awyrennau, offer cysylltiedig, a gofod awyr y DU. Mae'r CAA hefyd yn pennu'r rheolau sy'n llywodraethu sut a ble y gellir hedfan drôns yn ddiogel. Mae ein trwydded Gweithredwr UAS a rheolau eithriad trwydded ond yn awdurdodi defnyddio offer radio mewn perthynas â darparu awdurdodiad o dan y Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr. Nid yw'n darparu unrhyw awdurdodiad ehangach sy'n gysylltiedig â gweithrediadau drôn nac yn disodli unrhyw reolau neu ofynion diogelwch hedfan. Mae'n bosib hefyd y bydd angen cymeradwyaethau CAA penodol neu y caiff cyfyngiadau eu gosod ar ddefnyddio rhywfaint o'r offer a restrir yn y drwydded Gweithredwr UAS. Felly, dylai gweithredwyr wneud yn siŵr eu bod wedi sicrhau pob caniatâd perthnasol cyn defnyddio drôn.

See also...