10 Tachwedd 2022

Barod i lansio: cefnogi arloesedd di-wifr a sector y gofod

  • Ardaloedd gwledig, awyrennau a llongau ar fin cael band eang gwell wrth i fwy o donnau awyr gael eu darparu ar gyfer gwasanaethau lloeren o dan strategaeth y gofod newydd
  • Trwyddedau newydd yn cael eu rhoi i'r gweithredwyr lloeren Starlink a Telesat
  • Map ffordd â ffocws ar y dyfodol i alluogi arloesedd a thwf i ddefnyddwyr sbectrwm radio presennol a newydd

Bydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig a theithwyr ar awyrennau a llongau'n derbyn band eang gwell wrth i Ofcom gyhoeddi mwy o gapasiti ar gyfer gwasanaethau lloeren, a rhoi trwyddedau newydd i Starlink a Telesat.

Gyda thechnoleg yn symud ymlaen yn gyflym, mae'r galw am sbectrwm radio - y tonnau radio anweladwy gwerthfawr ond meidraidd y mae dyfeisiau cyfathrebu di-wifr yn dibynnu arnynt - yn tyfu.

Heddiw rydym wedi amlinellu cynllun eang â ffocws ar y dyfodol ar gyfer sut y byddwn yn galluogi arloesedd a thwf i ddefnyddwyr newydd a phresennol y sbectrwm radio. Mae hyn yn cynnwys strategaeth newydd ar gyfer cefnogi sector y gofod a harneisio potensial enfawr gwasanaethau cyfathrebu a ddarperir gan loerenni.

Cefnogi cyfathrebiadau lloeren

Erbyn hyn gall gweithredwyr lloerenni gael mynediad i fwy o donnau awyr er mwyn iddynt ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau band eang, fel helpu i roi gwell cysylltiadau i gartrefi a busnesau  mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd, yn ogystal ag ar drenau, yn yr awyr ac ar y môr.

Rydym yn ymestyn mynediad lloerenni i'r sbectrwm hwn i gynnwys y band 14.25-14.5 GHz, gan ddyblu'r capasiti sydd ar gael i drawsyrru data i loerenni.

Mae systemau lloeren orbit nad yw'n ddaearsefydlog (NGSO) yn ffordd hollbwysig o gyflwyno cysylltedd gwell. Mae'r rhain yn troi o gwmpas y ddaear ac yn cael eu tracio gan ddysglau lloeren wrth iddynt symud, a gallant ddarparu cyflymder uwch ac oedi is.

A gateway earth station (connected to the internet) tracks a non-geostationary orbit satellite as it moves across the sky. The satellite relays data to a user terminal (a dish fixed to the side of a house), which in turn is connected to a router.

Heddiw rydym yn rhoi trwyddedau i Starlink ar gyfer chwe 'gorsaf ddaear porth' NGSO - dysglau mawrion ar y ddaear sy'n cysylltu ei rwydwaith lloerenni â'r rhyngrwyd. Bydd y trwyddedau'n galluogi Starlink i ddarparu gwasanaethau band eang i fwy o gartrefi a busnesau.

Rydym hefyd wedi cymeradwyo cais gan Telesat i gael Trwydded Rhwydwaith Gorsaf Ddaear ar gyfer ei gytser Lightspeed, sy'n golygu y bydd yn gallu cynnig cysylltedd lloeren i bobl a busnesau yn y DU am y tro cyntaf.

Mae ein strategaeth y gofod hefyd yn cynnwys mesurau diogelu lloerenni arsylwi'r ddaear, sy’n cywain data hanfodol ar y tywydd a newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn cefnogi cwmnïau sy'n lansio lloerenni o'r DU ac yn cynllunio ar gyfer cyrchoedd i'r Lleuad ac i'r blaned Mawrth yn y dyfodol.

Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio, ond mae ein holl gyfathrebiadau di-wifr yn dibynnu arno. Mae gwasanaethau anhygoel newydd yn cael eu datblygu, sy'n golygu bod y galw am sbectrwm ar gynnydd.

Mae hyn yn arbennig o wir yn y gofod, lle mae technoleg lloeren yn cynnig gwasanaethau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, a hyd yn oed ar awyrennau a llongau. Mae heddiw yn un cam bach yn ein gwaith i sicrhau y gall pawb elwa o'r neidiau anferth hyn mewn arloesedd.

David Willis, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom

Related content