23 Medi 2022

Ofcom yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o niwed ar-lein

Mae Ofcom yn lansio menter bwysig newydd i helpu i wella diogelwch ar-lein ymhlith cymunedau sydd fwyaf mewn perygl o niwed ar-lein.

Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n hollbwysig wrth helpu i adeiladu bywyd mwy diogel ar-lein. Mae'n ein grymuso i wneud penderfyniadau digidol gwybodus ac, yn bwysig, cymryd camau i nodi cynnwys niweidiol a diogelu ein hunain ac eraill yn ei erbyn. Mae hefyd yn docyn i ni gymryd rhan yn llawn yn ein cymdeithas - ar adeg pan na fu bod ar-lein a chadw mewn cysylltiad â'r byd, gwasanaethau a'r bobl o'n cwmpas erioed yn bwysicach.

Mae'n ddyletswydd arbennig ar Ofcom i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ystyried sut y gall oedolion a phlant elwa o bopeth y gall fod ar-lein ei gynnig, yn ddiogel. Rydym yn defnyddio'r mewnwelediadau hyn i gyfeirio'r sector a'i arianwyr am beth sy'n gweithio wrth wella ymwybyddiaeth pobl o'r cyfryngau ar-lein. A dyna lle mae ein rhaglen beilot Initiate yn gwneud cyfraniad.

Mae ein hymchwil wedi dangos yn gyson nad pawb sydd â'r sgiliau y mae eu hangen i gadw'n ddiogel ar-lein. Felly heddiw, rydym yn chwilio am sefydliadau ar draws y DU sy'n gweithio i helpu'r bobl y maent fwyaf mewn perygl o niwed ar-lein i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ar-lein.

Gall sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn a'r rhai sydd mewn perygl o allgáu digidol; pobl sydd â heriau neu anableddau iechyd meddwl; a phlant rhwng 10 ac 14 oed wneud cais am un o dri thendr i helpu i gefnogi eu gwaith hanfodol. Byddwn yn blaenoriaethu cefnogaeth i sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau dan anfantais ariannol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y tendrau ar ein porth eDendro a lawrlwytho canllaw i gofrestru (PDF, 278.9 KB). Y terfyn amser ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 25 Hydref 2022.

Related content