14 Rhagfyr 2022

Cynllun Gwaith Arfaethedig Ofcom 2023/24

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi Cynllun Gwaith arfaethedig Ofcom ar gyfer 2023/24, sy'n amlinellu ein meysydd gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae ein rôl fel rheoleiddiwr cyfathrebu cydgyfeiriol – sydd â throsolwg o delathrebiadau, darlledu, y post, sbectrwm a gwasanaethau ar-lein – yn mynd yn bwysicach fyth, yn enwedig wrth i'n cylch gwaith dyfu.

Rydym wedi ymgymryd â dyletswyddau newydd ym meysydd llwyfannau rhannu fideos a diogelwch telathrebiadau, a bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein yn rhoi tasg newydd bwysig i ni o greu bywyd mwy diogel ar-lein.

Wrth i ni ymgymryd â'r dyletswyddau newydd hyn, mae'r cynllun hwn yn amlinellu ein deilliannau blaenoriaethol, ac yn esbonio sut y byddwn yn gweithio i gyflawni'r rhain yn ystod 2023-24. Dyma nhw:

  • Rhyngrwyd y gallwn ddibynnu arno - cysylltiadau a gwasanaethau cyflym a dibynadwy i bawb, ym mhob man;
  • Cyfryngau rydyn ni'n ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi – cyfryngau a newyddion ar draws y DU y mae cynulleidfaoedd yn eu gwylio;
  • Rydym yn byw bywyd mwy diogel ar-lein - mae llwyfannau'n cael eu cymell i leihau niwed a gwneud defnyddwyr yn fwy diogel; a
  • Galluogi gwasanaethau di-wifr yn yr economi ehangach - sicrhau defnydd effeithlon o sbectrwm a chefnogi twf ar draws yr economi.

Rydym yn croesawu ymatebion i'n Cynllun Gwaith arfaethedig erbyn 5pm ar 8 Chwefror 2022. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad ym mis Ionawr   er mwyn cywain adborth ar ein cynllun arfaethedig.  Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun terfynol ym mis Mawrth 2023.

Related content