30 Tachwedd 2022

Rhaid i'r BBC wneud mwy i wasanaethu cynulleidfaoedd ar incwm is

  • Ofcom i ymchwilio pam fod gwylwyr incwm is yn llai bodlon ar y BBC
  • Mae'r BBC yn wynebu dewisiadau ariannol anodd, ond wrth symud i ddigidol mae'n rhaid iddi beidio â gadael cynulleidfaoedd lleol ar eu hôl
  • Gwylwyr i gael mwy o ddewis ar BBC iPlayer wrth i Ofcom roi sêl bendith am ragor o gynnwys archif

Mae angen i'r BBC wneud mwy i gyrraedd ac adlewyrchu gwylwyr a gwrandawyr ar incwm is, yn ôl Ofcom yn ei hadroddiad blynyddol ar berfformiad y BBC.

Mae ein hadroddiad[1] yn nodi bod pobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is - sy'n cyfrif am bron i chwarter o boblogaeth y DU - yn ymgysylltu llai â'r BBC ac yn llai bodlon arni.

Mae'r gynulleidfa hon yn gwylio, yn gwrando ar, neu'n pori cynnwys y BBC – gan gynnwys newyddion – llai na gweddill y boblogaeth, ac yn lleiaf hapus â sut y maent yn cael eu cynrychioli a'u portreadu mewn rhaglenni. Mae staff o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is hefyd wedi'u tangynrychioli yng ngweithlu'r BBC ei hun.[2]

Mae'r graffig hwn yn dangos rhai metrigau ar y BBC a grwpiau economaidd-gymdeithasol is. Mae'n dangos cyfran darlledwyr o amser gwylio teledu dyddiol gan gymharu'r BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5. Mae'n dangos bod cyfran darlledwr y BBC yn is ar gyfer cynulleidfaoedd DE o'i gymharu â grwpiau eraill. Mae hefyd yn dangos cyrhaeddiad wythnosol ar gyfartaledd fesul cynulleidfaoedd o wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol, sydd ar y cyfan yn is ar gyfer DE o'i gymharu ag eraill; yn ogystal â chanfyddiadau o'r BBC sydd, ar draws pob diben, yn dangos bod cynulleidfaoedd DE yn llai tebygol o raddio'r BBC yn dda.

Er mwyn deall pam, bydd Ofcom yn lansio adolygiad manwl o sut mae'r BBC yn creu cysylltiadau â chynulleidfaoedd ar incwm is.

Rydym hefyd eisiau i'r BBC nodi, yn glir ac yn gyhoeddus, ei strategaeth gyffredinol ar gyfer gwella canfyddiadau ymhlith cynulleidfaoedd sydd wedi'u difreinio – gan gynnwys sut mae'n defnyddio ymchwil gyda gwylwyr a gwrandawyr ac yn gweithredu arni.

Dwyn y BBC i gyfrif

Mae'r BBC yn wynebu marchnad a hinsawdd economaidd heriol. Mae cystadleuaeth gan wasanaethau ffrydio byd-eang yn ddwys, ac mae pobl yn parhau i symud i ffwrdd o orsafoedd teledu a radio darlledu tuag at gynnwys ar-lein[3]. Hefyd, mae costau cynhyrchu ar gynnydd, a bydd ffi'r drwydded yn cael ei chadw ar ei lefel bresennol tan 2024. Gan gymryd chwyddiant i ystyriaeth, mae'r BBC wedi dweud y bydd hyn yn creu bwlch ariannol blynyddol o £400m erbyn 2027[4], yr ydym yn cydnabod y bydd yn arwain at ddewisiadau ariannol anodd yn y blynyddoedd i ddod.

Mae'r BBC yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau hyn mewn strategaeth sy'n anelu at fod yn sefydliad 'Digidol yn Gyntaf'. Wrth iddi ddechrau ar y cyfnod pontio hwn, mae Ofcom yn disgwyl i'r BBC barhau i ddarparu ar gyfer pob cynulleidfa, a bydd yn ei dwyn i gyfrif mewn meysydd lle mae angen iddi wneud mwy.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Diogelu cynulleidfaoedd lleol. Wrth iddi weithredu'r strategaeth Digidol yn Gyntaf, mae'n rhaid i'r BBC beidio â cholli golwg ar bwysigrwydd cynnwys lleol. Mae hyn yn cynnwys newidiadau arfaethedig i newyddion a materion cyfoes.[5] Byddwn ni'n craffu ar gynlluniau'r BBC wrth iddyn nhw ddatblygu, ac yn asesu eu heffaith. Mae hynny'n cynnwys cadw llygad barcud ar rannu rhaglenni rhwng gorsafoedd radio lleol, er mwyn sicrhau darpariaeth barhaus o gynnwys lleol o ansawdd uchel, gan gynnwys newyddion lleol.

    Ar wahân i hynny, mae'r Gymdeithas Cyfryngau Newyddion (NMA) wedi codi pryderon gyda ni am newidiadau arfaethedig y BBC i'w harlwy newyddion ar-lein lleol. Bydd ein hasesiad o'r cynigion hyn, yr ydym yn disgwyl ei gwblhau yn fuan, yn ystyried dadansoddiad y BBC, pryderon yr NMA a'n ffynonellau data ein hunain.
  • Trin cwynion yn well. Ddoe (29 Tachwedd), ymrwymodd y BBC i wella sut mae'n ymdrin â chwynion  gan wylwyr a gwrandawyr, gan ddilyn camau gweithredu gan Ofcom. Mae wedi dweud y bydd yn adnewyddu ymdrechion i drin yr holl gwynion yn ganolog fel bod pob achwynydd yn cael ei drin yn gyson; gwella prydlondeb ymatebion; ac egluro, ym mhob cam o'r broses, beth yw'r camau nesaf. Mae'r rhain yn ddiwygiadau hollbwysig, ac rydym yn disgwyl iddynt gael eu gweithredu fel mater o frys. Byddwn yn cynnal adolygiad pellach o'r system gwynion 'BBC yn Gyntaf' cyn diwedd cyfnod y Siarter bresennol i asesu a fu'r newidiadau'n ddigonol i adfer ymddiriedaeth cynulleidfaoedd.
  • Gwell tryloywder. Rydym yn ymgynghori heddiw ar nifer o newidiadau i Reoleiddio Cystadleuaeth y BBC. Mae ein cynigion yn cynnwys gosod gofyniad penodol i'r BBC nodi'n gyhoeddus, yn fanwl, newidiadau i'w gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan ffi'r drwydded.[6] Bydd hyn yn sicrhau bod y BBC yn fwy tryloyw am ei chynlluniau gyda darlledwyr cystadleuol a sefydliadau eraill â diddordeb.

Mwy o ddewis i wylwyr iPlayer

Er bod cyrhaeddiad cyffredinol sianeli darlledu'r BBC yn parhau i ddirywio, mae'r defnydd o'i gwasanaethau ar-lein fel BBC iPlayer, yn tyfu. Yn ôl y BBC, ffrydiwyd rhaglenni dros 6.6 biliwn o weithiau ar iPlayer yn 2021/22, cynnydd o 8% ers y flwyddyn flaenorol.

A ninnau wedi ystyried cais gan y BBC yn ofalus, rydym heddiw yn rhoi sêl bendith iddi gynyddu ei chatalog o gynnwys hŷn ar iPlayer - megis cyfresi blaenorol o deitlau sy'n dychwelyd - gan olygu mwy o ddewis a gwell gwerth am arian i dalwyr ffi'r drwydded.[7]

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae'r adroddiad blynyddol yn ymdrin â'r cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022 ac yn asesu sut mae'r gorfforaeth yn diwallu anghenion y bobl y mae'n eu gwasanaethu.
  2. Yn 2021/22, roedd staff gwasanaeth cyhoeddus BBC y DU tua dwywaith yn fwy tebygol na gweithlu ehangach y DU o fod â rhieni mewn swyddi proffesiynol pan oeddent yn 14 oed (65% o'i gymharu â 33%), ac o fod wedi mynychu ysgolion preifat (13% yn erbyn 7%). Mae cynrychiolaeth o bobl anabl yng ngweithlu'r BBC wedi gostwng i 8% yn 2021/22, o'i gymharu â 21% o boblogaeth waith y DU.
  3. https://www.ofcom.org.uk/cymru/research-and-data/tv-radio-and-on-demand/media-nations-reports/media-nations-2022
  4. https://www.bbc.co.uk/mediacentre/speeches/2022/the-bbc-at-the-heart-of-the-digital-age
  5. Cyhoeddodd y BBC gynlluniau, er enghraifft, i symleiddio ei harlwy radio a theledu lleol drwy annog mwy o rannu rhaglenni ar draws gwasanaethau radio lleol, a chau gwasanaethau teledu optio allan yng Nghaergrawnt a Rhydychen. Mae hefyd yn bwriadu gwella ei harlwy newyddion ar-lein lleol drwy gynyddu nifer y lleoliadau gwahanol y mae'n eu gwasanaethu o 42 i 46, a thrwy sicrhau bod nifer penodol o storïau o ddiddordeb lleol yn cael eu cyhoeddi ym mhob ardal bob dydd.
  6. Dyma newidiadau y mae'r BBC yn debygol o'u hasesu ar gyfer materoldeb - h.y. newidiadau nad ydynt yn rhai 'busnes fel arfer'/rhan o fusnes dydd-i-ddydd y BBC, fel penderfyniadau am amserlennu rhaglenni unigol.
  7. Ers 2019, mae'r BBC wedi cyfyngu ar argaeledd rhaglenni hŷn ar BBC iPlayer. Ni fydd y BBC yn cymhwyso'r terfynau hyn mwyach a bydd yn cynyddu maint y cynnwys hŷn ar y llwyfan.
  8. Bydd yn ofynnol o hyd i'r BBC ystyried a allai unrhyw newidiadau i BBC iPlayer yn y dyfodol gael effaith faterol ar gystadleuaeth. Ar gyfer yr asesiad hwn, nid ydym wedi ystyried caffaeliadau ar y sail na fydd y BBC yn newid argaeledd cynnwys caffaeledig ar BBC iPlayer fel rhan o'r cynnig. Fodd bynnag, pe bai'r BBC yn ystyried gwneud newidiadau i'w hymagwedd at gaffaeliadau ar BBC iPlayer yn y dyfodol, byddai angen ystyried a ydynt yn faterol o dan y fframwaith rheoleiddio.

Related content