16 Tachwedd 2022

Pwy sy'n rheoli'r newyddion a welwn ar-lein?

  • Astudiaeth newydd gan Ofcom yn ymchwilio i ddylanwad porthmyn ar-lein ar y dewis o newyddion
  • Dadansoddiad cynnar yn codi pryderon am effaith bolareiddio'r cyfryngau cymdeithasol
  • Pobl yn aneglur ynghylch y dewisiadau y mae cwmnïau technoleg yn eu gwneud am y straeon newyddion maen nhw'n eu gweld

Mae cwmnïau technoleg yr Unol Daleithiau yn gynyddol yn siapio'r straeon newyddion y mae pobl y DU yn eu gweld a'u darllen, yn ôl Ofcom, gan arwain at risgiau ynghylch tryloywder a dewis mewn newyddion.

Mewn astudiaeth newydd o ddewis mewn newyddion, rydym wedi nodi pryderon ynghylch effaith porthmyn' newyddion ar-lein ' – yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, ond hefyd peiriannau chwilio ac apiau newyddion fel Apple News a Google News.

Mae'r adroddiad heddiw yn amlygu pa mor bell y mae'r cwmnïau hyn - a ddefnyddir gan ddau o bob tri oedolyn ar-lein ar gyfer newyddion - yn penderfynu nid yn unig faint o'r newyddion ar-lein mae pobl yn ei weld, ond hefyd sut maen nhw'n ymateb iddo.

Dyma rai o'n canfyddiadau:

  • Mae pobl yn gwerthfawrogi cyfryngwyr ar-lein i'w helpu i ddarganfod newyddion. Maent yn credydu peiriannau chwilio gyda'u helpu i ddarganfod mwy am straeon yr oeddent wedi'u gweld mewn mannau eraill, a hysbysiadau gan apiau newyddion sy'n galluogi nhw i weld newyddion neu straeon newydd o sawl safbwynt.
  • Ond gallai'r cyfryngau cymdeithasol gael effaith bolareiddio. Mae pobl sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn bennaf i gael mynediad at newyddion yn fwy tebygol o fod yn llai goddefgar o safbwyntiau gwleidyddol gwrthwynebol, yn llai abl i nodi gwybodaeth ffeithiol yn gywir ac yn ymddiried llai mewn sefydliadau democrataidd, o'i gymharu â'r rhai sy'n defnyddio teledu a phapurau newydd. Mae astudiaethau rhyngwladol eraill yn cefnogi'r canfyddiadau hyn; canfu un fod defnyddwyr wedi'u polareiddio'n llai yn wleidyddol petaent yn dadalluogi eu cyfrif Facebook am bedair wythnos yn unig.
  • Ac mae pobl yn aneglur ynghylch dylanwad porthmyn ar y newyddion maen nhw'n ei weld. Mae naw o bob deg o bobl yn credu bod dewis mewn newyddion, sy'n cael ei adrodd gan amrywiaeth o sefydliadau, yn bwysig. Ond nid yw pobl bob amser yn glir am y dewisiadau y mae cyfryngau cymdeithasol, apiau chwilio a newyddion yn eu gwneud ar eu rhan, a pham y dangosir rhai straeon iddynt ai beidio. Er enghraifft, mae ein hymchwil yn dangos cryn ddryswch ynghylch a yw newyddion ar-lein wedi'i bersonoli ai beidio: Cred 35% o bobl ei fod e, 36% nad yw e, ac mae 29% yn ansicr. Pan fyddwn yn esbonio nad yw rheolau 'plwraliaeth y cyfryngau' presennol[1] yn berthnasol i'r cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio neu apiau cywain newyddion, mae pobl wedi'u synnu ac yn bryderus.

Ni fu cael mynediad at newyddion erioed yn haws

Golyga'r twf mewn newyddion ar-lein y gall pobl gyrchu amrywiaeth ehangach o straeon, lleisiau a safbwyntiau nag erioed o'r blaen. Mae cwmnïau technoleg – fel Facebook, Google, Twitter ac Apple - yn gynyddol ganolog i'r dirwedd newyddion hon. Maen nhw'n gweithredu fel porthmyn ar-lein, yn curadu ac yn argymell cynnwys newyddion, ac erbyn hyn yn cael eu defnyddio gan 64% o oedolion ar-lein.

Yn 2005, dywedodd 18% o bobl wrthym eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer newyddion. Yn 2022, mae'r ffigwr hwn yn 66%. Mae un o bob saith (14%) o oedolion y DU bellach yn edrych ar newyddion ar-lein yn unig.

Facebook yw'r drydedd ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd yn gyffredinol yn y DU, ar ôl y BBC ac ITV, ac ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, mae Instagram, TikTok a YouTube ar frig y rhestr.

Mae'r adroddiad heddiw gan Ofcom, Plwraliaeth y Cyfryngau a Newyddion Ar-lein, yn trafod goblygiadau'r newid strwythurol hwn mewn arferion cael gafael ar newyddion.

Mae

64%

yn defnyddio cyfryngwr ar-lein i gyrchu newyddion a gwybodaeth yn rheolaidd

Beth sy nesaf?

Noda ein dadansoddiad cynnar o bosib y bydd angen offer rheoleiddio newydd i ddeall a mynd i'r afael ag effaith cyfryngwyr ar-lein ar blwraliaeth.

Gallai hyn gynnwys offer newydd i'w gwneud yn ofynnol i gwmnïau technoleg fod yn fwy tryloyw o ran y dewisiadau y maent yn eu gwneud wrth benderfynu ar y newyddion a welwn ar-lein, yn ogystal â rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i ddefnyddwyr eu hunain.

Mae unrhyw benderfyniadau ynghylch pa rwymedïau y gallai fod eu hangen i fynd i'r afael â phryderon ynghylch plwraliaeth y cyfryngau yn fater i lywodraeth a senedd y DU yn y pen draw.

Gan adeiladu ar y cwestiynau a godwyd yn yr astudiaeth heddiw, byddwn yn ymgysylltu â diwydiant a phartïon â diddordeb yn ystod y misoedd nesaf. Wedyn, rydym yn bwriadu datblygu argymhellion ffurfiol i'w hystyried gan Lywodraeth y DU.

Mae ein tirwedd newyddion wedi gweld trawsnewidiad enfawr dros y deng mlynedd diwethaf, gyda chwmnïau ar-lein yn cynnig mynediad hawdd i gronfa bythol ehangach o straeon, lleisiau a barn.

Ond er nad oes diffyg dewis, mae pryderon newydd yn dod i'r amlwg am effaith y penderfyniadau y mae cwmnïau technoleg yn eu gwneud ar ein rhan i benderfynu ar y straeon newyddion rydyn ni'n eu gweld - a ddim yn eu gweld - yn ein ffrydiau.

Rydym yn ymgymryd â gwaith pellach i fynd i'r afael â'r mater yma ac yn disgwyl gwneud argymhellion ffurfiol i lywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod tirwedd newyddion amrywiol a bywiog y DU yn cael ei sicrhau ar gyfer y dyfodol.

Ali-Abbas Ali, Cyfarwyddwr Cystadleuaeth Grŵp Cynnwys Ar-lein a Darlledu Ofcom

Nodiadau i olygyddion

  1. O dan reolau presennol, mae'n ddyletswydd statudol ar Ofcom i sicrhau a chynnal plwraliaeth ddigonol o ddarparwyr gwasanaethau teledu a radio gwahanol. Mae'n ddyletswydd arnom hefyd i adolygu gweithrediad y rheolau perchnogaeth ar y cyfryngau a restrir o dan adran 391 Deddf Cyfathrebiadau 2003, bob tair blynedd. Gweler atodiad 1 o'n datganiad.
  2. Mae dogfennau atodol i'r astudiaeth hon, gan gynnwys ymchwil ychwanegol a dadansoddiad pellach, ar gael ar ein gwefan (Saesneg yn unig):
    1. Atodiad 1: Fframwaith Rheoleiddio Plwraliaeth y Cyfryngau (PDF, 169.7 KB)
    2. Atodiad 2: Mesur Plwraliaeth y Cyfryngau (PDF, 328.6 KB)
    3. Atodiad 3: Dadansoddiad arolwg: arferion cael gafael ar newyddion a chanlyniadau plwraliaeth y cyfryngau (PDF, 1.2 MB)
    4. Atodiad 4: Cael gafael ar newyddion a phlwraliaeth y cyfryngau ar Twitter yn y DU (papur trafod Economeg) (PDF, 1018.7 KB)
    5. Atodiad 5: Dadansoddiad data monitro goddefol Ipsos Iris (PDF, 1.1 MB)
    6. Atodiad 6: Archwilio agweddau tuag at newyddion ar-lein - rôl cyfryngwyr ar-lein wrth gael gafael ar newyddion (adroddiad ymchwil ansoddol) (PDF, 3.4 MB)
    7. Atodiad 7: Plwraliaeth y Cyfryngau (adroddiad ymchwil meintiol)
    8. Atodiad 8: Mapio dibyniaethau ecosystemau newyddion (PDF, 1.6 MB)
    9. Atodiad 9: Plwraliaeth y Cyfryngau a chyfryngu cael gafael ar newyddion ar-lein: asesiad economaidd o ddamcaniaethau posib o niwed a chynigion ar gyfer cywain tystiolaeth (PDF, 2.4 MB)

Related content