23 Awst 2022

Ofcom yn gosod sancsiynau ar Samaa TV a Studio 66

Mae Ofcom heddiw yn gosod dwy gosb ariannol am dorri ein rheolau darlledu.

  • Mae'n rhaid i Up and Coming TV dalu £40,000 am i'w sianel Samaa TV dorri'r Cod Darlledu.
  • Rydym hefyd yn gosod cosb ariannol o £15,000 ar 965 TV Limited, ar ôl i'w gwasanaeth Studio 66 dorri'r rheolau ar hysbysebion teledu.

Mae'r ddwy gosb ariannol yn daladwy i Dâl-feistr Cyffredinol EM.

Samaa TV

Canfu ein hymchwiliad o ddau bennod olynol o Nadim Malik Live, rhaglen trafod materion cyfoes Pacistanaidd yn ystod yr wythnos, fod datganiadau yn y ddwy raglen yn gyfystyr â lleferydd casineb gwrth-Ahmadaidd, a thriniaeth ddifrïol a sarhaus o bobl Ahmadaidd. Gwelsom hefyd fod datganiadau yn y rhaglen gyntaf yn gyfystyr â lleferydd casineb gwrth-semitig, a thriniaeth ddifrïol a sarhaus o bobl Iddewig. Nid oedd y cyd-destun yn cyfiawnhau'r cynnwys.

Ers mis Awst 2021, mae Samaa TV wedi'i hadwaen fel Neo News, gan i Up and Coming TV ddechrau defnyddio darparwr cynnwys gwahanol ar gyfer y gwasanaeth o'r dyddiad hwnnw. Mae ein penderfyniad i osod cosb ariannol yn adlewyrchu'r ffaith mai trwyddedeion sy'n gyfrifol am y cynnwys maen nhw'n ei ddarlledu.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein penderfyniad sancsiynu.

Studio 66 TV

Canfu ein hymchwiliad fod pum darllediad hysbysebu ar wahân yn cynnwys iaith ac ymddygiad rhywiol echblyg, a allai achosi tramgwydd ac yr oedd â'r potensial i achosi niwed neu drallod i blant.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein penderfyniad sancsiynu.

Related content