6 Mehefin 2022

Haul, môr a chefnogaeth i'r rhai ar yr Ynys

Dyma Adam Baxter, Cyfarwyddwr Safonau Darlledu Ofcom, yn esbonio sut rydym yn diogelu lles pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu realiti fel Love Island.

Waeth p'un a yw Love Island yn 'dipyn ohonoch chi' ai beidio, mae bron yn amhosib osgoi'r sgyrsiau am y sioe boblogaidd ar ITV2.

Love Island

Perthnasoedd a chyfeillgarwch yw gwraidd y profiad dynol, ac mae gwylio pobl gyffredin – oce, pobl gyffredin olygus a hardd iawn – yn llywio'r profiadau hyn yn gyfareddol. Ac ni ellir gwadu ei fod yn creu teledu da.

Ond wrth i fformatau realiti esblygu, felly hefyd y mae chwaeth a goddefgarwch cynulleidfaoedd. Rydym wedi gweld pryder cynyddol mewn cymdeithas – a chynnydd mewn cwynion – am y goblygiadau posib o ran lles cyfranogwyr. Gwaetha’r modd, mae'r rhain yn cydnabod, yn achos rhai pobl sy'n cymryd rhan mewn sioeau teledu realiti neu dalent proffil uchel, y gall eu cyfnod yn y sbotolau fod yn frawychus. Mae iechyd meddwl rhai cystadleuwyr wedi dioddef yn fawr. Mae eraill wedi cael eu trolio ar-lein, ymhell ar ôl i'r sioe ddod i ben.

Y llynedd, cyflwynwyd mesurau diogelu newydd ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni, gan roi eu lles wrth wraidd y broses o wneud rhaglenni. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddarlledwyr bellach ddarparu gofal priodol am y bobl y maent yn eu cynnwys a allai fod mewn perygl o niwed sylweddol; yn bennaf pobl sy'n agored i niwed a'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â bod yn llygad y cyhoedd.

Cyn i rywun gytuno i gymryd rhan mewn sioe deledu neu radio, mae'n rhaid i ddarlledwyr ddweud wrthynt am unrhyw risgiau posib i'w lles, a sut y byddant yn ceisio isafu'r rhain. A dylid egluro i wylwyr hefyd sut mae'r rhaglen yn gofalu am y bobl y maent yn eu cynnwys.

Mae'n bwysig nodi nad yw'r mesurau diogelu hyn yn pennu pa fformatau, materion neu straeon y gall ac na all darlledwyr eu harchwilio, neu fel arall gyfyngu ar eu rhyddid creadigol. Mae cydbwyso hawliau darlledwyr a chynulleidfaoedd i ryddid mynegiant wrth wraidd y ffordd yr ydym wedi dylunio'r mesurau diogelu hyn, a sut y byddwn yn eu gorfodi.

Love Island 2021 oedd y rhaglen gyntaf i gael ei ddarlledu o dan y rheolau newydd hyn. Ac er i ni dderbyn 36,324 o gwynion am y gyfres honno ynghylch amrywiaeth o faterion – y cawsant eu hasesu'n ofalus – ni chododd yr un ohonynt faterion a fu'n ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd camau pellach.

Gall hyn fod yn syndod i bobl sy'n tybio bod rhywbeth yn siŵr o fod o'i le os yw rhaglen yn denu nifer fawr o gwynion. Ond rwyf bob amser yn dweud wrth bobl nad yw nifer fawr o gwynion yn golygu bod ein rheolau yn awtomatig wedi'u torri.

Os edrychwn yn fanylach ar y gyfres ddiwethaf, roedd un digwyddiad yn gyfrifol am dros draean o'r cwynion hynny; cwynodd 24,921 o bobl wrthym am ymddygiad ac iaith Faye yn ystod sgwrs ffyrnig gydag un o'r cyd-gystadleuwyr, Teddy.

Yn sicr, gall golygfeydd o wrthdaro sy'n llawn emosiwn fod yn anghyfforddus i'w gwylio. Ond pan fyddwn yn penderfynu a ddylid lansio ymchwiliad ffurfiol ai beidio, rydym yn ystyried beth yw disgwyliadau tebygol gwylwyr o raglen. Yn achos y sgwrs rhwng Faye a Teddy, bu i ni hefyd ystyried ffactorau cyd-destunol eraill, megis y cystadleuwyr eraill yn cynnig cefnogaeth i Teddy, a phenderfyniad Faye i ymddiheuro am ei gweithredoedd.

Rydym yn asesu pob cwyn a dderbyniwn yn ofalus, ac yn gwneud penderfyniadau sydd wedi'u cydbwyso'n fanwl bob dydd. O ystyried pwysigrwydd yr hawl i ryddid mynegiant, dim ond pan ystyriwn fod angen gweithredu yn erbyn darlledwr y byddwn yn camu i mewn neu'n cymryd camau yn ei erbyn.

Felly eisteddwch yn ôl a gwylio haf o garu. Yma yn Ofcom, byddwn yn barod i edrych yn ofalus ar bob cwyn a dderbyniwn, er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd a phobl sy'n ymddangos mewn rhaglenni yn cael eu diogelu'n briodol.

See also...