2 Medi 2022

Ni fydd y Goruchaf Lys yn clywed apêl RT yn erbyn penderfyniadau Ofcom ar fethiannau didueddrwydd

Mae'r Goruchaf Lys wedi cadarnhau na fydd yn clywed apêl gan RT yn erbyn penderfyniadau Ofcom fu'n canfod tor rheolau difrifol a niferus gan RT o'n rheolau didueddrwydd dyladwy.

Yn 2019, bu i ni roi dirwy o £200,000 i RT ar ôl i ni nodi yn 2018 iddi fethu dro ar ôl tro â chynnal didueddrwydd dyladwy mewn saith rhaglen newyddion a materion cyfoes a ddarlledwyd ym misoedd Mawrth ac Ebrill 2018.

Roedd y rhaglenni hyn yn ymwneud yn bennaf â materion o ddadl wleidyddol a pholisi cyhoeddus pwysig - sef ymateb Llywodraeth y DU i achosion o wenwyno yng Nghaersallog yn 2018, a gwrthdaro yn Syria.

Fe wnaeth RT herio penderfyniadau Ofcom yn yr Uchel Lys a'r Llys Apêl ac fe wrthododd y ddau Lys heriau RT ar bob sail. Gofynnodd RT am ganiatâd i ddod ag apêl i'r Goruchaf Lys, ond mae'r Goruchaf Lys wedi cadarnhau iddo wrthod cais RT am wneud apêl.

Ni fu ymddiriedaeth mewn newyddion a materion cyfoes erioed yn bwysicach, ac roedd methiannau RT i gynnal didueddrwydd dyladwy yn ddifrifol ac yn niferus.

Rydym yn croesawu gwrthodiad y Goruchaf Lys i glywed apêl RT yn erbyn ein penderfyniadau, a oedd yn ymateb teg a chymesur i'w methiannau, gan roi ystyriaeth lawn i'r hawl i ryddid mynegiant.

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein Ofcom

Beth yw didueddrwydd dyladwy?

Ystyr 'dyladwy' yw digonol neu briodol i'r pwnc a natur y rhaglen. Felly nid yw 'didueddrwydd dyladwy' yn golygu bod yn rhaid neilltuo amser yn gyfartal i bob barn, neu fod angen cynrychioli pob dadl a phob elfen o bob dadl.

Gall yr ymagwedd at ddidueddrwydd dyladwy amrywio yn ôl natur y pwnc, y math o raglen a sianel, disgwyliad tebygol y gynulleidfa o ran y cynnwys, ac i ba raddau y caiff y cynnwys a'r ymagwedd eu signalu i'r gynulleidfa. Mae cyd-destun yn bwysig.

Related content