30 Awst 2022

Diweddariad ar gwynion wedi dod i law am y gyfres Love Island eleni

Nawr bod yr haul wedi machlud ar wythfed gyfres Love Island ar ITV2, rydym wedi cwblhau ein hasesiad o'r holl gwynion a gawsom am y rhaglen eleni.

Cawsom gyfanswm o 7,482 o gwynion ar draws y gyfres gyfan. Mae hynny'n cymharu â 36,324 yn 2021 - pan wnaeth 24,763 o bobl gwyno i ni ynglŷn â dadl Faye gyda Teddy- a 1,700 ynglŷn â chyfres y gaeaf yn 2020. Mae'n bwysig cofio nad yw nifer uchel o gwynion am raglen yn sbarduno ymchwiliad yn awtomatig, ac nid yw'n golygu bod darlledwr o reidrwydd wedi torri ein rheolau.

Roedd cwynion am gyfres Love Island yn 2022 yn cynnwys amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ymddygiad gwreig-gasaol honedig a bwlio gan rai o'r ynyswyr. Fe wnaethom asesu pob un o'r rhain yn ofalus yn erbyn ein rheolau darlledu a gallwn nawr gadarnhau na fyddwn yn ymchwilio’r cwynion hyn ymhellach.

Rydym yn cydnabod y gall golygfeydd emosiynol neu wrthdaro, fel y gwelir yn y fila, beri gofid i rai gwylwyr. Ond yn ein barn ni, doedd y rhaglen ddim yn portreadu enghreifftiau o ymddygiad negyddol gan gyfranogwyr mewn ffordd gadarnhaol. Gwelodd y gwylwyr ynyswyr eraill hefyd yn condemnio'r ymddygiad a chynnig cyngor a chefnogaeth i'r rhai gafodd eu heffeithio. Dangoswyd golygfeydd lle gwnaed ymddiheuriadau yn ogystal.

Fe wnaethom hefyd ystyried gan ei fod bellach yn ei wythfed gyfres, bod y fformat ar gyfer Love Island wedi hen ennill ei blwyf.  Felly byddai gwylwyr sy'n gwylio’r rhaglen yn disgwyl gweld uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r ynyswyr ar y sgrin, wrth i berthynas cyplau gael eu profi yn ystod y gyfres.

Gallwch ddarllen rhagor am ein penderfyniadau darlledu sy’n cael eu cyhoeddi bob pythefnos yn ein Bwletin Darlledu ac Ar Alw.

Cynnwys cysylltiedig