16 Tachwedd 2022

Diweddariad ar gwynion teledu yr wythnos hon

Yr wythnos hon, cawsom 1,968 o gwynion am I'm a Celebrity Get Me Out of Here! ar ITV.

Roedd y mwyafrif o achwynwyr - tua 1,100 - yn gwrthwynebu presenoldeb Matt Hancock yn y jyngl. Mynegodd gwylwyr eraill bryderon am y ffordd yr oedd yn cael ei drin gan y cystadleuwyr eraill.

Mae'n werth bod yn ymwybodol o dan ein rheolau, mewn egwyddor – a chan gymryd rhyddid mynegiant i ystyriaeth – na ellir gwahardd unrhyw berson penodol rhag cymryd rhan mewn rhaglenni. Fodd bynnag, os yw’r ffaith bod person yn bresennol yn debygol o achosi tramgwydd, byddem yn disgwyl i ddarlledwyr gymryd camau i liniaru neu gyfiawnhau'r tramgwydd hwnnw. Nhw sy’n penderfynu sut i wneud hynny o safbwynt golygyddol.

Cawsom hefyd 112 o gwynion yr wythnos hon am Coronation Street mewn perthynas â stori am drais hiliol.

Yn unol â’n gweithdrefnau, byddwn yn asesu'r holl gwynion hyn yn erbyn ein rheolau darlledu, cyn penderfynu a ddylid ymchwilio iddynt ai beidio.

Bob wythnos rydyn ni'n cyhoeddi rhestr o raglenni rydym wedi derbyn mwy na 50 o gwynion amdanynt o ran safonau.

Related content