Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
27 Hydref 2023

Dathlu arloeswyr Du yn ein diwydiannau ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon

I nodi Mis Hanes Pobl Dduon, rydym yn edrych ar rai o’r arloeswyr Du sydd wedi helpu i fraenaru’r tir mewn rhai o’r sectorau y mae Ofcom yn gofalu amdanynt fel rheoleiddiwr.

Mae rhai o’r technolegau a’r llwyfannau sy’n dod o dan ein cylch gwaith yn dyddio’n ôl gryn amser, ac mae dylanwad cyfranwyr Du yn amlwg mewn hyd yn oed rai o’r datblygiadau arloesol cynharaf, gan barhau i dechnolegau a chynnwys rydym yn eu mwynhau heddiw.

Arloesi mewn cyfathrebu

Mae Marian Croak wedi bod yn ffigwr blaenllaw ym maes telegyfathrebu modern. Datblygodd Brotocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) a hi yw Is-lywydd Peirianneg Google ar hyn o bryd. Dechreuodd Croak ei gyrfa ym 1982 pan oedd hi’n gweithio i AT&T Bell Laboratories. Roedd rhai o’i swyddi cyntaf yn cynnwys gweithio gyda chyfathrebu llais a data, a gyfrannodd at ddatblygu nodweddion ffôn fel negeseuon testun a ffonio.

Mor bell yn ôl â 1876, er enghraifft, chwaraeodd Lewis Latimer, o dras Affricanaidd-Americanaidd, rôl hanfodol yn dyfeisio’r ffôn. Cafodd ei gyflogi gan Alexander Graham Bell, sy’n cael ei gydnabod fel yr un a greodd y ddyfais, i ddrafftio’r lluniadau angenrheidiol oedd eu hangen i dderbyn patent ar gyfer ffôn Bell.

Gan symud at ddatblygiadau telathrebu mwy diweddar, gwnaeth Henry Sampson a Jesse E Russell waith pwysig i ddatblygu technolegau di-wifr. Sampson sicrhaodd y patent ar gyfer cell Gama-Drydanol yn y 1970au, a oedd yn ei gwneud yn bosibl anfon a derbyn signalau sain yn ddi-wifr drwy donnau radio, a hebddynt ni fyddai gennym y ffôn symudol rydym yn ei adnabod ac yn ei garu heddiw. Yn y cyfamser, mae Russell wedi chwarae rhan sylfaenol yn y gwaith o ddyfeisio’r ffôn symudol modern, gan batentio dwsinau o ddatblygiadau arloesol, gan gynnwys technoleg yr orsaf sylfaen sy’n trosglwyddo signalau tonnau radio i ac o ddyfeisiau symudol.

Ac yn y DU, roedd John Blenkhorn yn beiriannydd Du arloesol a wnaeth gyfraniadau sylweddol i delathrebu. Ar ddechrau’r 20fed ganrif, chwaraeodd ran yn natblygiad rhwydweithiau telathrebu pellter hir ac fe’i cydnabuwyd am ei arbenigedd mewn technoleg ceblau tanddaearol. Cyfrannodd ei waith at ehangu a gwella seilwaith telathrebu’r DU.

Er bod Mary Seacole yn fwy adnabyddus am ei gwaith nyrsio yn ystod Rhyfel Crimea, roedd ganddi hefyd gysylltiad â gwasanaethau post. Roedd hi’n rhedeg tŷ llety o’r enw British Hotel yn Crimea, a ddaeth yn fan cyfarfod a chanolfan bost boblogaidd i filwyr. Roedd gwasanaethau Mary Seacole yn cynnwys trefnu danfon post a rhoi cymorth i filwyr oedd yn ceisio cyfathrebu â’u teuluoedd yn ôl adref.

Teledu, radio a chyfryngau

Evelyn Dove oedd y gantores ddu gyntaf i gael ei chlywed ar radio’r BBC, gan ddymchwel rhwystrau diwylliannol ac agor drysau i’w holynwyr yn y diwydiant adloniant. Ar ôl graddio o’r Academi Gerdd Frenhinol, canolbwyntiodd Dove ar jazz a sioeau cabaret. Ar ôl teithio o amgylch Ewrop, cyrhaeddodd ei henwogrwydd uchelfannau newydd yn 1939 pan ddechreuodd berfformio ar BBC Radio – roedd un o’i sioeau mor boblogaidd nes iddi gael ei throi’n rhaglen deledu.

Una Marson oedd y fenyw Ddu gyntaf i gael ei chyflogi gan y BBC yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei hysgrifennu llenyddol, dramatig a pholemig, ochr yn ochr â’i gweithredu gwrth-wladychu gwrth-hiliol a ffeministaidd, yn golygu ei bod yn ffigwr rhyngwladol arwyddocaol yn hanes yr 20fed ganrif.

Barbara Blake Hannah oedd y gohebydd benywaidd du cyntaf i ymddangos ar deledu Prydain, ym 1968. Er iddi gael ei diswyddo ar ôl cael cwynion gan wylwyr am fenyw Ddu yn ymddangos ar y sgrin, parhaodd â’i gyrfa fel newyddiadurwr – gan arwain y Press Gazette i greu gwobr yn ei henw yn 2020 i gydnabod newyddiadurwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill.

Roedd Charlie Williams nid yn unig yn un o’r pêl-droedwyr Du Prydeinig cyntaf i dorri i mewn i’r gêm broffesiynol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn ddiweddarach daeth yn un o’r digrifwyr du mwyaf adnabyddus ym Mhrydain. Yn y 1970au, ef oedd y digrifwr stand-yp Du Prydeinig cyntaf i gael llwyddiant prif ffrwd, yn enwedig ar y teledu, lle cafodd nifer o ymddangosiadau ar raglen gomedi Granada, The Comedians. Cafodd hefyd dymor chwe mis yn y London Palladium a’i sioe deledu Granada ei hun, It’s Charlie Williams.

Mae Syr Lenny Henry wedi cael dylanwad enfawr ar adloniant a diwylliant Prydain. Ar ôl treiddio i adloniant prif ffrwd yn y 1970au drwy’r sioe dalent deledu New Faces, mae wedi dilyn gyrfa ym maes teledu, ffilm, radio, llwyfan a llenyddiaeth, ac mae’n defnyddio ei lwyfan i eirioli dros amrywiaeth a chynrychiolaeth yn y diwydiant adloniant ac yn enwedig mewn teledu Prydeinig.

Moira Stuart oedd y fenyw Ddu gyntaf i ymddangos fel darllenydd newyddion a chyflwynydd ar deledu Prydain, gan wneud hynny am y tro cyntaf ym 1981. Cyflwynodd bob math o fwletin newyddion y BBC yn ystod ei gyrfa pum degawd mewn teledu a radio.

Ym 1981, penodwyd Jocelyn Barrow fel y fenyw ddu gyntaf i fod yn llywodraethwr y BBC. Cyn hynny, bu’n aelod sefydlol o fudiadau gan gynnwys yr Ymgyrch yn erbyn Gwahaniaethu ar Sail Hil a helpodd i baratoi’r ffordd ar gyfer Deddf Cysylltiadau Hil 1965 a 1968, a oedd yn gwneud gwahaniaethu ar sail hil yn y gwasanaethau cyhoeddus yn anghyfreithlon ym Mhrydain.

Yr arloeswr Jamal Edwards MBE a sefydlodd SB.TV. Helpodd y sianel i lansio poblogrwydd cerddoriaeth ‘grime’ a meithrin talent o Brydain, gan gynnwys Stormzy, Rita Ora a Bugzy Malone. Mae ei ddylanwad yn ymestyn y tu hwnt i gerddoriaeth, gan ei fod yn ymroi i roi’n ôl i’r gymuned drwy waith sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a chyllido canolfannau ieuenctid.

Mae Claudia Jones yn ffigur nodedig yn hanes y cyfryngau a chyfathrebu. Roedd hi’n newyddiadurwr a aned yn Trinidad a sefydlodd y papur newydd mawr cyntaf i bobl Dduon ym Mhrydain, The West Indian Gazette. Jones hefyd drefnodd y Carnifal Notting Hill cyntaf, digwyddiad sy’n dathlu diwylliant ac undod y Caribî ac a gaiff ei ddarlledu gan y BBC.

Mae Michaela Coel wedi cael llwyddiant mawr yn niwydiant teledu a ffilm Prydain. Mae ei gwaith arloesol, gan gynnwys cyfres arobryn y BBC, ‘I May Destroy You’, sydd wedi’i lleoli yn Llundain gyda chast Du Prydeinig yn bennaf, wedi ennill nifer o wobrau ac anrhydeddau.

Related content