7 Medi 2023

Band eang ffeibr llawn mwy cyflym bellach ar gael i dros hanner o gartrefi yn y DU

Mae ein hadroddiad Cysylltu'r Gwledydd diweddaraf yn taflu goleuni ar ddarpariaeth symudol ac argaeledd band eang ar draws y DU – gan ddatgelu bod band eang ffeibr llawn bellach ar gael i’r rhan fwyaf o gartrefi’r DU.

Mae’n seiliedig ar ganfyddiadau o Ebrill a Mai 2023, ac yn dangos i ba raddau y mae pobl yn y DU yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau band eang a ffôn symudol y maent yn dibynnu arnynt.

Mae'r canfyddiadau ar draws band eang a symudol yn rhoi darlun manwl o argaeledd a darpariaeth ar draws y DU.

Argaeledd band eang cyflymach ar gynnydd

Mae argaeledd band eang sy’n gallu delio â gigabits yn parhau i wella’n gyflym, gyda bron i 22.4 miliwn o gartrefi yn y DU (75%) bellach yn gallu cael gafael arno. Mae hyn wedi codi o 21.9 miliwn (73%), ac mae wedi'i symbylu gan yr ymgyrch barhaus i gyflwyno band eang ffeibr llawn.

Mae gan dros hanner o gartrefi’r DU (52%), sy’n cyfateb i 15.4 miliwn o aelwydydd, fynediad at wasanaethau ffeibr llawn erbyn hyn. Symbylwyd hyn yn bennaf gan y gweithredwyr seilwaith ffeibr mawr ond mae wedi cael ei gefnogi hefyd gan nifer o ddarparwyr llai ar draws y DU sy'n gwasanaethu cymunedau a rhanbarthau unigol.

Mae band eang cyflym iawn, sy’n cynnig cyflymder lawrlwytho o 30 Mbit/e o leiaf, yn parhau i fod ar gael i 97% o gartrefi’r DU. Mae’r 3% o safleoedd sy'n weddill yn debygol o fod mewn ardaloedd anoddach eu cyrraedd, a gallai cynlluniau mwy diweddar a ariennir yn gyhoeddus eu helpu.

Gall y mwyafrif helaeth o safleoedd yn y DU gyrchu band eang digonol, sydd wedi'i ddiffinio fel isafswm cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit/e ac isafswm cyflymder uwchlwytho o 1 Mbit/e.

Mae darpariaeth symudol yn sefydlog, gyda gwaith uwchraddio rhwydweithiau ar y gweill

Er na fu cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth ers ein diweddariad diwethaf, mae'r diwydiant symudol yn parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth.

Rhagfynegir bod gan tua 93% o’r DU ddarpariaeth 4G awyr agored dda gan o leiaf un gweithredwr, a disgwylir i hyn godi i 95% erbyn diwedd 2025 o ganlyniad i’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir.

Mae gan y DU fannau di-gyswllt daearyddol ac ar ffyrdd - ardaloedd lle nad oes gwasanaethau 4G da ar gael gan unrhyw weithredwr symudol. Mae ardaloedd digyswllt daearyddol wedi gostwng ychydig ers ein hadroddiad diwethaf, o 8% i 7%. Mae darpariaeth ar y ffyrdd yn parhau yr un fath i raddau helaeth - amcangyfrifir mai dim ond 4% o'r holl ffyrdd sy'n fannau di-gyswllt mewn cerbyd. Mae hyn yn amrywio'n sylweddol ar draws gwledydd unigol fodd bynnag, yn enwedig yng Nghymru a'r Alban.

O ran galwadau a negeseuon testun, mae'r ddarpariaeth heb ei newid i raddau helaeth. Mae amrediad y ddarpariaeth a ragfynegir gan weithredwyr ffonau symudol yn amrywio o 85-93% o’r DU, gan ddibynnu ar y gweithredwr. Ar ben hynny, rhagfynegir bod gan 99% o'r holl safleoedd yn y DU ddarpariaeth galwadau llais awyr agored gan bob gweithredwr symudol.

Am ragor o wybodaeth ac i weld y canfyddiadau, darllenwch yr adroddiad llawn neu defnyddiwch ein hadroddiad rhyngweithiol.

Related content