19 Mai 2023

Miliynau yn rhagor o gartrefi yn elwa o fand eang gwell

Gall mwy na 14 miliwn o gartrefi'r DU elwa o gysylltiadau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy erbyn hyn wrth i dechnoleg ffeibr llawn barhau i gael ei chyflwyno ar garlam.

Mae diweddariad gwanwyn Cysylltu'r Gwledydd Ofcom yn dangos, ym mis Ionawr 2023, y gallai bron i hanner yr aelwydydd (48%) gael band eang ffeibr llawn, sy'n darparu'r rhyngrwyd dros geblau ffeibr optig. Dyma gynnydd o tua 5.5 miliwn o gartrefi ers diweddariad gwanwyn y llynedd.

Bydd ein diweddariad nesaf, sydd i'w gyhoeddi'n ddiweddarach eleni, yn dangos bod y garreg filltir ffeibr lawn 50% wedi'i phasio, gyda'n dadansoddiad diweddaraf yn nodi bod y garreg filltir hon wedi'i tharo ym mis Mawrth.

Gall cysylltiadau ffeibr llawn – ynghyd â rhwydweithiau cebl wedi'u huwchraddio – ddarparu cyflymder lawrlwytho o un gigabit yr eiliad neu fwy. At ei gilydd mae band eang cyfradd gigabit a ddarperir dros ystod o dechnolegau bellach ar gael i 73% o'r DU (bron i 22 miliwn o gartrefi), i fyny o 66% yr un pryd y llynedd.

Ym mis Ionawr 2023, gall

48%

o aelwydydd yn y DU gael mynediad i fand eang ffeibr llawn

Mae'r adroddiad heddiw hefyd yn dangos bod nifer y safleoedd na allant gael band eang 'digonol', a ddiffinnir gan Lywodraeth y DU fel un sy'n cynnig cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbit yr eiliad, yn 68,000 o safleoedd, sef gostyngiad o 99,500 o flwyddyn i flwyddyn.

O ran symudol, mae darpariaeth 5G yn parhau i dyfu'n gyson, gyda 82% o safleoedd yn y DU bellach yn gallu cael signal 5G yn yr awyr agored - i fyny o tua hanner mewn blwyddyn.

Related content