17 Chwefror 2023

Ffeibr llawn i gyrraedd hanner o gartrefi, wrth i gystadleuaeth sbarduno band eang gwell

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom:

Lindsey Fussell, Group Director for Networks and Communications

Bydd rhyngrwyd ffeibr llawn yn cyrraedd hanner o gartrefi'r DU fis nesaf, yn ôl cyhoeddiad gan Ofcom, wrth i'r gwaith o adeiladu meingefn band eang newydd y wlad barhau ar garlam.

Band eang ffeibr llawn yw band eang gwell. Mae'n fwy dibynadwy, a llawer o weithiau'n gyflymach na'r cysylltiadau 'cyflym iawn' arferol y mae pobl wedi'u defnyddio'n bennaf dros y blynyddoedd diwethaf.

Dim ond pum mlynedd yn ôl, 6% o gartrefi yn unig oedd â mynediad i ffeibr llawn. Ond diolch i gystadleuaeth a buddsoddiad gan adeiladwyr rhwydweithiau, roedd hynny wedi cyrraedd 42% erbyn mis Medi y llynedd.

Yn seiliedig ar ein data presennol, mae Ofcom bellach yn disgwyl i'r trothwy 50% gael ei basio ym mis Mawrth, ac i 80% gael ei gyrraedd o fewn y ddwy flynedd nesaf. Mae llawer o waith eto i'w wneud i ddod â chysylltiadau cyflymach i bob rhan o'r wlad, ond bu'r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn gyflym.

Pam mae cystadleuaeth yn bwysig

Pan fydd cwmnïau'n cystadlu i adeiladu rhwydweithiau gwell, mae hynny'n arwain at fwy o fuddsoddi ac arloesi. Felly, mae Ofcom wedi gosod rheolau ar gyfer y farchnad band eang gyfanwerthol sydd wedi'u dylunio i hybu cystadleuaeth, a sicrhau maes chwarae gwastad ymhlith gweithredwyr fel Openreach, Virgin Media, City Fibre ac amrywiaeth o ddarparwyr rhwydweithiau 'amgen' llai.

Mae'r rhifau'n siarad drostynt eu hunain. Mae'r cwmnïau herio hyn yn dyblu eu hôl troed ar y cyd bob blwyddyn, a gyda'i gilydd maent yn disgwyl cyrraedd 11.5m o gartrefi erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae buddsoddi mewn adeiladwyr band eang annibynnol yn gryf ac mae disgwyl iddo gyrraedd £17.7bn erbyn 2025.

I Ofcom, mae’r rhwydweithiau amgen i Openreach yn darparu rhan hanfodol o'n strategaeth ar gyfer band eang gwell. Maent yn helpu i ffurfio pwerdy seilwaith digidol y DU.

Mae cystadleuaeth iach ac effeithiol hefyd yn golygu cadw llygad barcud ar y cwmni rhwydwaith mwyaf, Openreach, i sicrhau nad yw'n defnyddio ei safle yn y farchnad i aflunio cystadleuaeth yn y farchnad. Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio cynllun prisio newydd gan Openreach. Rydym wedi gwahodd barn gan bob rhan o'r diwydiant ar hyn o beth, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad erbyn diwedd mis Mawrth.

Ochr yn ochr â hynny, rydym yn cywain gwybodaeth er mwyn pennu a yw newidiadau prisio rheolaidd, fel y rhai a gyhoeddwyd gan Openreach eleni, yn ei gwneud hi'n anoddach i gwmnïau eraill gystadlu'n deg. Ac ym mis Mehefin, byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf i nodi a yw Openreach yn cadw at ein rheolau.

Os gwelwn dystiolaeth bod unrhyw gwmni'n gweithredu mewn ffordd sy'n aflunio cystadleuaeth, ni fyddwn yn petruso cyn camu i'r adwy. Cystadleuaeth yw'r grym sy'n sbarduno band eang gwell i bawb. Trwy ei hyrwyddo, a’i chadw'n deg ac yn effeithiol, gallwn helpu i sicrhau dyfodol digidol y DU.

Related content