21 Medi 2023

Pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i fanylion cardiau credyd sydd wedi’u dwyn, cyffuriau ac arfau ar-lein?

Mae Google Search a Bing yn cysylltu eu 20 prif ganlyniad chwilio i wefannau sy’n honni eu bod yn cyflenwi manylion cardiau credyd sydd wedi’u dwyn, cyffuriau ac arfau, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Ofcom.

Mae hyn yn golygu bod modd cael gafael ar y rhain gydag un clic yn unig o’r canlyniadau chwilio, ac nid oes angen i bobl fynd i’r we dywyll i ddod o hyd iddynt. Canfuom hefyd fod y peiriannau chwilio poblogaidd hyn yn awgrymu tudalennau gwe tebyg mewn canlyniadau a hysbysebir, sy’n cynhyrchu refeniw i Microsoft a Google.

Yr hyn a wnaethom

Cyn iddi dderbyn pwerau newydd fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, cynhaliodd Ofcom ymchwil i brofi pa mor hawdd yw hi – drwy beiriannau chwilio Google a Bing – i ddod o hyd i wefannau sy’n cynnig cyflenwi manylion cardiau credyd sydd wedi’u dwyn ac eitemau a gwybodaeth arall y gall troseddwyr eu defnyddio i dwyllo pobl. Rydym yn categoreiddio hyn yn yr ymchwil fel cynnwys ‘sy’n debygol o fod yn waharddedig, y mae llawer ohono’n debygol o fod yn anghyfreithlon.[1]

Canolbwyntiodd yr ymchwil hon ar dermau slang hysbys ar gyfer deunyddiau twyll. Er nad yw’r termau hyn yn cael eu defnyddio’n aml, gallant helpu troseddwyr penderfynol i gyflawni twyll.

Awgrymodd yr ymholiadau chwilio a ddefnyddiwyd wmbreth o gynnwys a oedd yn ymddangos fel petai modd ei ddefnyddio i gyflawni twyll yn yr 20 chwiliad cyntaf, sy’n golygu ei fod yn hygyrch iawn drwy un clic yn unig. Er i rai termau chwilio awgrymu ychydig iawn neu ddim canlyniadau gwaharddedig, ar gyfer rhai termau, canfu ein hymchwilwyr y byddai pob un o’r prif ganlyniadau a ddychwelwyd yn debygol o ymddangos yn y categori ‘gwaharddedig’.

Canfuom hefyd fod peryg i swyddogaethau ‘awto-lenwi’ a ‘chwiliad cysylltiedig’ peiriannau chwilio gyfeirio defnyddwyr tuag at gynnwys a allai fod yn waharddedig drwy wella perthnasedd neu benodoldeb eu hymholiadau chwilio. Ymddangosodd gwefannau a oedd yn honni eu bod yn gwerthu erthyglau ac eitemau anghyfreithlon hefyd mewn nifer fach o ganlyniadau chwilio wedi’u hysbysebu.

Cynhaliwyd ymchwil ar wahân i bennu pa mor hawdd yw hi i gael gafael ar gynnwys yn ymwneud â gwerthu arfau â llafn, arfau tanio, cyffuriau a reolir a sylweddau seicoweithredol drwy’r peiriannau chwilio poblogaidd hyn, a oedd yn dangos canlyniadau a phatrymau tebyg.[2]

Beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn?

Gall effaith twyll, a gwerthu eitemau anghyfreithlon, fod yn ddinistriol. Mae tua naw o bob deg oedolyn ar-lein yn y DU (87%) wedi dod ar draws cynnwys maent yn amau ei fod yn sgam neu’n dwyll, ac roedd un rhan o bump (21%) o’r rhai a ddywedodd eu bod wedi dod ar draws twyll ar-lein wedi cael eu sgamio am £1,000 neu fwy.[3]

Wrth i Ofcom baratoi ar gyfer ei rôl newydd fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, rydym wedi bod yn cynnal rhaglen ymchwil helaeth i lunio ein sail dystiolaeth wrth i ni ddatblygu ein Codau Ymarfer a’n Harweiniad, yn ogystal ag ymgysylltu’n helaeth â’r diwydiant.

O dan y cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd, bydd yn rhaid i gwmnïau technoleg gan gynnwys Google a Microsoft wneud llawer mwy i leihau’r risg y bydd cynnwys anghyfreithlon yn ymddangos yn hawdd ar eu gwasanaethau. Cyn i’r dyletswyddau newydd hynny ddod i rym, rydym wedi cwrdd â’r ddau gwmni hyn i ddeall y camau maent yn eu cymryd ar hyn o bryd i fynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd yn ein hymchwil.

Cyfarfu’r ddau gwmni ag Ofcom nifer o weithiau dros yr haf i drafod sut y gallant isafu amlygrwydd i gynnwys twyllodrus anghyfreithlon wrth ymateb i dermau chwilio penodol. Mewn ymateb i’n hymchwil maent wedi gwneud rhai newidiadau, gan gynnwys dileu rhai ymadroddion awto-lenwi perthnasol a dileu rhai canlyniadau hysbyseb y telir amdani, ac maent wedi dweud eu bod yn bwriadu gwneud mwy. Byddwn yn ymgysylltu â nhw i bennu a yw’r newidiadau hyn yn effeithiol wrth ddiogelu defnyddwyr, a pha gamau eraill y gellir eu cymryd. Bydd twyll ar-lein yn faes blaenoriaeth i Ofcom wrth i ni dderbyn pwerau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein sydd ar y gweill.

Nodiadau:

  1. Casglwyd data o 11 ymholiad chwilio ar draws Google Search a Bing, gan ddarparu cyfanswm o 448 o ganlyniadau chwilio a thudalennau gwe cyfatebol, gan gynnwys dolenni a hysbysebwyd, dros gyfnod o dair wythnos ym misoedd Ionawr a Chwefror 2023.
  2. Ym mis Ebrill 2023, cynhaliwyd 384 o chwiliadau gan PUBLIC, yn canolbwyntio ar amrywiaeth o eitemau gwaharddedig posib. Rhoddwyd pob ymholiad chwilio unigryw ar brawf ar Google Search a Bing. Roedd yr ymholiadau’n cynnwys pedwar categori o gynnwys gwaharddedig posib: 1) cyllyll ac arfau â llafn, 2) arfau tanio, 3) cyffuriau a reolir a 4) sylweddau seicoweithredol. Chwiliwyd am bob ymholiad ar draws pedwar cynnyrch gwasanaeth: chwiliad testun, chwiliad delwedd, siopa, a chwiliad fideo. Ar gyfer pob un o’r 384 o chwiliadau, detholwyd 12 canlyniad URL ar hap o’r 30 prif ganlyniad a’u dadansoddwyd, gan arwain at 4,608 o ganlyniadau.
  3. Ffynhonnell: Ymchwil a gomisiynwyd gan Ofcom i dwyll a sgamiau ar-lein, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023.
  4. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad yn archwilio rôl llwyfannau cyfathrebu ar-lein o ran sut caiff ‘credoau lleiafrifol’ eu creu, eu cynnal a’u cyfathrebu, a’r rôl mae agweddau ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn ei chwarae