18 Ionawr 2023

Ofcom yn helpu defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain mewn argyfwng

Cafodd gwasanaeth cyfnewid fideo newydd ei lansio’r llynedd a oedd yn galluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gysylltu â’r gwasanaethau brys drwy wneud galwad fideo.

Cafodd y gwasanaeth, a elwir yn 999BSL, ei gyflwyno ar ôl i Ofcom gyflwyno rheolau newydd. Mae’n wasanaeth 24/7 am ddim sy’n galluogi defnyddwyr BSL i gysylltu â’r gwasanaethau brys yn eu hiaith gyntaf drwy ap symudol neu wefan.

Mae hyn yn ei gwneud yn haws iddynt gael cymorth mewn argyfwng, mae’n gallu golygu ei bod yn haws iddynt ddisgrifio natur yr argyfwng a deall cyfarwyddiadau gan y gwasanaethau brys a allai achub bywyd.

Yn ogystal â bod Ofcom wedi newid y rheolau i helpu i wireddu BSL999, roedd un o gydweithwyr Ofcom wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu a chyflwyno’r gwasanaeth.

Katie Hanson

Dyma Katie Hanson

Mae Katie Hanson yn uwch reolwr polisi defnyddwyr yn Ofcom, ac mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau sy’n canolbwyntio ar ei gwneud yn haws i bobl hŷn a phobl anabl gael gafael ar wasanaethau cyfathrebiadau a’u defnyddio.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu’n astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt, a bu’n gweithio fel swyddog seneddol a pholisi cyhoeddus ar ran Sense, elusen sy’n cefnogi pobl ddall a byddar.

Yn ystod ei chyfnod yn Sense, bu Katie yn gweithio ar y bil seneddol a ddaeth yn Ddeddf Cyfathrebiadau – dyma’r ddeddfwriaeth sy’n nodi pwerau Ofcom a’r ffordd mae’n cyflawni ei waith. Roedd hefyd yn cynrychioli Sense ar y Grŵp Arbenigwyr Defnyddwyr a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth y DU ar newid i’r digidol.

Sut gwnaeth Katie helpu i gyflwyno 999BSL?

Yn 2018 roedd yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi mabwysiadu cyfres o reolau newydd am wasanaethau cyfathrebiadau electronig. Gan fod y DU yn dal yn yr UE pan gafodd y rheolau eu mabwysiadu, cawsant eu symud i gyfraith y DU yn 2020.

Roedd y rheolau newydd yn cryfhau’r gofynion i bobl anabl gael yr un mynediad â phawb arall at gyfathrebiadau mewn argyfwng. Roeddent yn ei gwneud yn glir bod cyfathrebiadau brys yn cynnwys nid yn unig wasanaethau cyfathrebiadau llais, ond hefyd SMS, negeseuon, fideo neu fathau eraill o gyfathrebiadau fel testun amser real, sgwrs gyfan a gwasanaethau cyfnewid.

Yng ngoleuni’r newid hwn, awgrymodd Katie y dylai Ofcom fynnu bod darparwyr cyfathrebiadau yn darparu mynediad Iaith Arwyddion Prydain at 999, ochr yn ochr â 999 llais, 999 gwasanaeth cyfnewid testun a 999 SMS. Derbyniodd uwch reolwyr Ofcom awgrym Katie, ac fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig.

Yn hollbwysig, fe wnaethom ymgynghori yn Iaith Arwyddion Prydain yn ogystal ag yn Saesneg, gan ein bod am i’r ymgynghoriad fod yn hygyrch i’r bobl a fyddai’n defnyddio’r gwasanaeth.

Ar ôl i ni benderfynu cyflwyno’r rhwymedigaeth, cafodd y diwydiant flwyddyn i baratoi. Yn ogystal â’r gwaith technegol i baratoi ar gyfer y gwasanaeth, roedd angen i’r diwydiant weithio gyda’i gilydd i benderfynu sut i rannu costau darparu’r gwasanaeth hwn.

Sut mae 999BSL yn gweithio?

Mae’r defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain byddar yn gwneud galwad fideo i ddehonglydd mewn canolfan alwadau. Mae’r dehonglydd yn ffonio 999 llais ac yn dweud yr hyn mae’r person byddar yn ei arwyddo ac yn cyfieithu’r hyn mae’r sawl sy’n ateb y ffôn yn ei ddweud i iaith arwyddion.

“Mae wedi bod yn fraint gweithio ar 999BSL. Mae ein holl waith yn Ofcom wedi’i gynllunio i fod o fudd i ddinasyddion a defnyddwyr, ond mae’r prosiect hwn wedi bod yn arbennig iawn.

“Ac wrth gwrs, efallai byddwch chi angen help mewn argyfwng rywbryd a bydd person byddar wrth law nawr yn gallu ffonio am help ar eich rhan. Mae gwneud y byd yn fwy cynhwysol o fudd i bawb yn y pen draw.”

Katie

Rhagor o wybodaeth am 999BSL.

Related content