3 Chwefror 2023

Mae Ofcom yn ymgynghori ar gynnig prisio arfaethedig Openreach FTTP

Mae Ofcom heddiw yn ymgynghori ar gynnig prisio ar gyfer band eang ffeibr llawn y mae Openreach yn bwriadu ei gyflwyno o 1 Ebrill 2023.

Yn ôl ein rheolau, mae’n ofynnol i Openreach ein hysbysu ar gynigion penodol 90 diwrnod cyn iddynt ddod i rym. Mae hyn er mwyn i ni fedru rhwystro Openreach rhag niweidio cystadleuaeth, wrth gyfyngu ar unrhyw gynigion yr ydym yn canfod i fod yn wrth-gystadleuol.

Ar 14 Rhagfyr 2022, hysbyswyd ni gan Openreach o drefniadau prisio cyfanwerthol newydd ar gyfer ei wasanaethau ffwibr llawn, sef cynnig ‘Equinox 2’.

Rydym wedi asesu cynnig Openreach yn ofalus – gan gymryd i ystyriaeth buddiannau defnyddwyr, yn ogystal â’r effaith ar gystadleuaeth a darparwyr band eang manwerthol.

Ein safbwynt dros dro yw na ddylem ymyrryd i rwystro Openreach rhag cyflwyno Equinox 2. Nid ydym yn ystyried y cynnig yn wrth-gystadleuol a’i fod yn unol â’r rheolau a ymgynghorwyd arnynt gennym ynghynt cyn eu cyflwyno yn 2021 fel rhan o’r adolygiad mynediad. Mae cynnal y rheolau yma am gyfnod yr adolygiad hefyd yn bwysig er mwyn gwarantu sicrwydd i’r holl gwmniau sy’n ystyried buddsoddi mewn rhwydweithiau band eang.

Yn ôl ein safbwynt dros dro, mae’r cynnig arfaethedig yn gyson â’n hamcan strategol pennaf o hyrwyddo buddsoddiant mewn rhwydweithiau cyflym iawn i ddarparu band eang fforddadwy i bobl a busnesau ar draws y DU.

Rydym nawr yn gwahodd ymatebion i’n yngynghoriad erbyn 5 o’r gloch ar 4 Mawrth 2023, cyn penderfynu ar y camau nesaf. Byddwn yn cyhoeddi ein pednerfyniad olaf ar ddiwedd Mawrth 2023.

Rydym hefyd yn ymwybodol o bryderon cyfranogwyr yn y farchnad bod ymarfer Openreach o addasu ei prisiau ffeibr-llawn yn gallu rhwystro mynediad cystadleuwyr a thwf yn y farchnad.  Gan fod potensial i hyn effeithio’r farchnad deg yr ydym am weld, rydym nawr yn casglu tystiolaeth er mwyn penderfynu a ddylwn ymchwilio i’r mater hwn mewn rhagor o fanyldra.

Dyweodd llefarydd ar ran Ofcom:
“Ein prif amcan yw dod â band eang cyflymach, gwell i bobl ar draw y DU – gan hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau cyflymder uchel a sicrhau bod tegwch i gwmniau.

Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi asesu cynlluniau prisiio newydd arfaethedig Openreach ac, yn seiliedig ar y dystiolaeth ar gael i ni hyd yma, nid ydym y neu hystyried i fod yn wrth-gystadleuol. Rydym wedi amlinellu ein rhesymau am hyn dros dro a rydym nawr yn ceisio barn y rheiny sydd â diddordeb cyn dod i benderfyniad terfynol.”

Related content