23 Ionawr 2023

Ofcom yn ymchwilio i wybodaeth contract cwsmeriaid BT

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i gydymffurfiaeth BT â’i rwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth glir a syml am gontract i gwsmeriaid cyn iddynt ymrwymo i fargen newydd.

Ers 17 Mehefin 2022, bu’n ofynnol i ddarparwyr telathrebu roi gwybodaeth am gontract i gwsmeriaid a chrynodeb byr – un dudalen fel arfer – o delerau’r prif gontract cyn ymuno.

Rhaid i'r crynodeb gynnwys gwybodaeth allweddol am bris, hyd y contract a'r telerau ac amodau os bydd cwsmer yn penderfynu terfynu ei gontract yn gynnar.

Gall cwsmeriaid ag anableddau hefyd ofyn am gael y dogfennau mewn fformat hygyrch.

Mae’r rheolau hyn yn ffordd bwysig o helpu pobl i siopa o gwmpas yn hyderus a gwneud dewisiadau gwybodus am y fargen gywir iddyn nhw.

Ar 4 Hydref 2022, gwnaethom agor ymchwiliad i EE, gan fod gennym reswm i amau ​​y gallai fod wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn. Ers hynny rydym wedi derbyn gwybodaeth sy’n rhoi rheswm i ni amau ​​y gallai Plusnet – is-gwmni arall i BT  – fod wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn hefyd.

O ganlyniad, bydd ein hymchwiliad nawr yn ystyried a yw BT wedi torri rheolau Ofcom oherwydd amheuaeth o dorri rheolau gan bob un o’r is-gwmnïau hyn.

Byddwn yn casglu gwybodaeth bellach ac yn darparu diweddariadau wrth i'n hymchwiliad fynd rhagddo.

Related content