27 Mawrth 2023

Ofcom yn rhoi dirwy i'r darparwr llwyfan rhannu fideos Tapnet o £2,000

Mae Ofcom heddiw wedi rhoi dirwy i Tapnet Ltd – sy’n darparu’r llwyfan rhannu fideos (VSP) RevealMe – o £2,000 ar ôl i’r cwmni fethu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth.

Dan ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd, gwaith Ofcom yw sicrhau bod gan lwyfannau rhannu fideos yn y DU fesurau priodol ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag mathau penodol o ddeunydd niweidiol mewn fideos. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi nifer o geisiadau am wybodaeth i lwyfannau rhannu fideos i’n helpu i ddeall a monitro’r mesurau diogelwch sydd ar waith ganddynt ac i oleuo’r adroddiad VSP a gyhoeddwyd gennym ym mis Hydref.

Mae’r gyfraith yn mynnu bod llwyfannau rhannu fideos yn cydymffurfio â gofyniad statudol am wybodaeth gan Ofcom. Mae’r wybodaeth a gesglir yn ystod y broses hon yn hanfodol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein gwaith fel rheoleiddiwr. Felly, mae’n hanfodol bod llwyfannau rhannu fideos yn darparu gwybodaeth gywir a chyflawn yn brydlon.

Ni wnaeth Tapnet ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol erbyn y dyddiad cau, ac yn dilyn ymchwiliad ffurfiol, rydym wedi cadarnhau bod y methiant hwn wedi torri ein rheolau.

Wrth benderfynu ar lefel y gosb ariannol, rhoesom ystyriaeth, ymysg pethau eraill, i faint y cwmni a’r ffaith bod yr wybodaeth wedi cael ei darparu’n gyflym i Ofcom yn y diwedd ar ôl i ni agor ein hymchwiliad. Byddwn yn cyhoeddi fersiwn nad yw’n gyfrinachol o’n penderfyniad llawn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Related content