12 Rhagfyr 2023

Y tueddiadau pennaf o'n hymchwil prisio gwasanaethau telathrebu ddiweddaraf

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf yn edrych ar dueddiadau prisio ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r canfyddiadau’n amlygu nifer o dueddiadau o ran prisiau'r gwasanaethau a ddefnyddiwn bob dydd – a hefyd yn dangos bod yna ffyrdd o arbed arian.

Dyma gipolwg ar rai o’r prif ganfyddiadau.

Mae chwyddiant yn golygu bod rhai cwsmeriaid wedi profi cynnydd mawr mewn prisiau

Cododd llawer o ddarparwyr telathrebu mwyaf y DU eu prisiau'n flynyddol yn unol â chwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae lefelau chwyddiant uchel yn golygu bod llawer o gwsmeriaid wedi gweld eu prisiau'n codi mwy na 10%. Dangosodd ein hymchwil fod tua tri o bob deg aelwyd yn y DU - sef tuag wyth miliwn a hanner at ei gilydd - yn cael trafferth fforddio eu gwasanaethau cyfathrebu.

Mae mwy o gwsmeriaid yn arbed arian drwy newid i dariff cymdeithasol

Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. Cododd y niferoedd sy'n manteisio ar dariffau cymdeithasol yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, o 220,000 o aelwydydd i 380,000. Fodd bynnag, roedd dros hanner o aelwydydd cymwys heb fod yn ymwybodol o dariffau cymdeithasol, ac mae'r niferoedd sy’n manteisio’n parhau i fod yn isel fel cyfran o aelwydydd cymwys (8.3%).

Cadwch lygad ar eich statws contract i gael y fargen orau

Mae cwsmeriaid band eang sy'n dal mewn contract yn tueddu i dalu llai na'r rhai sydd allan o gontract. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd bod llawer yn talu prisiau 'hyrwyddo', tra bod cwsmeriaid sydd allan o gontract yn fwy tebygol o fod yn talu prisiau rhestr sy'n uwch. Mae arbedion sylweddol ar gael i gwsmeriaid sy'n ymwybodol o statws eu contract a pha gynigion sy'n cael eu cynnig ar draws y farchnad.

Band eang a bwndeli:

Gallwch chi gael bargen band eang rhatach os yw'n rhan o fwndel

Gallai cartrefi sydd â chysylltiad band eang arbed rhwng 17% a 34% pan fyddant yn prynu gwasanaethau wedi’u bwndelu gan yr un darparwr, os oes angen llinell dir arnynt hefyd. Ond os nad oes angen llinell dir arnoch, gallwch arbed arian gyda band eang yn unig. Roedd prisiau misol cyfartalog ar gyfer gwasanaethau band eang yn unig hyd at 15% yn rhatach na phrisiau cyfartalog ar gyfer band eang sy’n dod mewn bwndel gyda llinell dir.

Band eang ffeibr llawn cost is ar gael gan ddarparwyr llai

Mae'r prisiau a gynigir gan ddarparwyr rhwydweithiau ffeibr llawn annibynnol yn aml yn is na'r rhai a gynigir gan y darparwyr band eang mawr sefydledig. Roedd darparwyr ffeibr llawn llai yn cynnig gwasanaethau band eang 900 Mbit yr eiliad neu 1 Gbit yr eiliad am rhwng £25 a £50 y mis ym mis Hydref 2023, sy'n sylweddol llai na'r £50-£60 am wasanaethau tebyg gan ddarparwyr mwy eu maint.

Symudol:

Arhosodd prisiau symudol ar gyfer defnyddwyr cyffredin yn gyson er gwaethaf cynnydd yn y defnydd o ddata

Nid oedd pris misol cyfartalog gwasanaeth symudol (ac eithrio cost y set llaw) wedi newid o gymharu â phrisiau cyfartalog yn 2022. Roedd hyn er i bobl ddefnyddio 1.6 GB (23%) yn fwy o ddata y mis ar gyfartaledd. Prisiau symudol y DU oedd yr ail rataf (ar ôl Ffrainc) yn Ch3 2023 ymysg y gwledydd a oedd wedi'u cynnwys yn ein hymchwil, ac yn is na'r hyn y mae cwsmeriaid yn ei dalu yn Yr Almaen, Yr Eidal, Sbaen a'r Unol Daleithiau.

Cododd prisiau rhai tariffau SIM yn unig yn sylweddol

Cododd prisiau misol cyfartalog ar gyfer gwasanaethau SIM yn unig 23% yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2023. Nid cynnydd ym mhrisiau tariffau unigol oedd prif symbylyddion y cynnydd hwn, ond y ffaith bod nifer o ddarparwyr cost is wedi rhoi’r gorau i gynnig y gwasanaethau hyn, bod rhai gwasanaethau â lwfans data is yn cael eu dileu, a bod rhai newydd a drutach, gyda lwfansau data cynhwysol mwy, wedi'u lansio. Cynigiodd y gweithredwyr rhwydwaith symudol cost isel y prisiau SIM yn unig isaf a oedd ar gael am y rhan fwyaf o'r cyfnod y gwnaethom ei archwilio, ac nid oedd yr un o'r gweithredwyr mawr ymysg y darparwyr rhataf yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'n rhatach prynu set llaw ar wahân na chael tariff set llaw + amser awyr

Roedd tariffau symudol talu'n fisol sy'n cynnwys amser awyr a set llaw yn cyfrif am 37% o'r holl danysgrifiadau symudol yn Ch2 2023. Ar gyfartaledd bu'n 23% yn rhatach i brynu set llaw ar wahân a'i ddefnyddio gyda chynllun SIM yn unig. Er ei bod yn rhatach yn gyffredinol i brynu set llaw ar wahân a'i ddefnyddio gyda chontract SIM yn unig, nid yw taliad untro am set llaw yn fforddiadwy i lawer o bobl. Fodd bynnag, weithiau mae gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr yn gwerthu ffonau am APR 0%, felly gallai hyn fod yn opsiwn cost is na chael contract cyfunol.

Mwy o wybodaeth:

Cael gwybod mwy am sut y gallech chi gael bargen well os ydych chi allan o gontract.

Cymerwch olwg ar ein cynghorion i dorri costau eich gwasanaethau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu.

Gallai newid darparwr arbed arian i chi - darganfod mwy.

Related content