2 Tachwedd 2023

Gweithio gyda’n gilydd i alluogi arloesedd wrth rannu sbectrwm

Yn ddiweddar, cafodd Ofcom y fraint o gynnal digwyddiad ar rannu’r band sbectrwm 6 GHz Uchaf mewn modd hybrid. Daeth y digwyddiad ag arweinwyr diwydiant, rheoleiddwyr ac academyddion ynghyd i drafod y posibiliadau a'r heriau o ganiatáu i weithredwyr Wi-Fi a symudol rannu mynediad i'r band.

Ymunodd dros 100 o fynychwyr allanol â ni i archwilio potensial y dull arloesol hwn – gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r diwydiant yn cynnwys: gwneuthurwyr Wi-Fi a setiau sglodion symudol a chaledwedd, gweithredwyr rhwydwaith, cwmnïau technoleg mawr, adrannau'r llywodraeth, grwpiau diwydiant, rheoleiddwyr sbectrwm o Ewrop ac ehangach, a’r byd academaidd.

Ymhlith y prif siaradwyr ac aelodau panel roedd yr arweinwyr canlynol o’r diwydiant:

  • Andreas Johann (Swyddog Gweithredol, BMDV, Gweinyddiaeth Ffederal yr Almaen ar gyfer Digidol a Thrafnidiaeth)
  • Christopher Szymanski (Cyfarwyddwr yr Is-adran Marchnata Cynnyrch, Cyfathrebu Di-wifr a Chysylltedd, Broadcom)
  • Yr Athro William Webb (Prif Swyddog Technegol, Access Partnership)
  • Luigi Ardito - Cyfarwyddwr Materion Llywodraeth ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, Qualcomm
  • Mark Henry – Cyfarwyddwr Strategaeth Rhwydwaith a Sbectrwm, BT/EE
  • Dr Martha Suarez – Llywydd, Dynamic Spectrum Alliance
  • Yr Athro Monisha Gosh – Athro Peirianneg Drydanol, Prifysgol Notre Dame
  • Saul Friedner – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sbectrwm a Datblygu Busnes, LS Telcom
  • Stuart Cooke – Cyfarwyddwr Materion Diwydiant a Sbectrwm, Samsung

Roedd y digwyddiad yn llwyfan ddeinamig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, mewnwelediadau a thrafodaethau cydweithredol. Arddangosodd barodrwydd yr arweinwyr hyn o’r diwydiant i archwilio gorwelion newydd mewn technoleg ddi-wifr a rhannu sbectrwm.

Rydym yn ddiolchgar am yr ymateb brwdfrydig a gafwyd gan yr holl gyfranogwyr ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y momentwm a sbardunwyd yn y digwyddiad hwn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu i wneud rhannu hybrid yn llwyddiant, felly cadwch lygad ar y sefyllfa wrth i ni barhau ar y daith hon.

Beth yw sbectrwm?

Ni allwch weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar unrhyw ddyfais sy'n cyfathrebu'n ddi-wifr – fel setiau teledu, ffobiau allweddi car, monitorau babi, meicroffonau di-wifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol fel y gall pobl wneud galwadau a chael mynediad i'r rhyngrwyd.

Pam mae Ofcom yn rheoli'r defnydd o sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli'n ofalus. Caiff rhai bandiau sbectrwm eu defnyddio hefyd at ddibenion gwahanol. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio gwahanol rannau o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i atal gwasanaethau rhag ymyrryd a tharfu ar bobl a busnesau.

Related content