22 Mawrth 2024

Ymgynghoriad: Mwy o hyblygrwydd i orsafoedd radio cymunedol wasanaethu gwrandawyr lleol

Mae Ofcom heddiw yn cynnig symleiddio a rhesymoli rhai o’r gofynion rheoleiddio ar orsafoedd radio cymunedol, fel y gall gwasanaethau ganolbwyntio ar sicrhau budd cymdeithasol i’w cymunedau lleol.

Yn benodol, rydym yn ymgynghori ar amrywio trwyddedau radio cymunedol i roi mwy o hyblygrwydd i orsafoedd o ran eu Hymrwymiadau Allweddol - sy'n disgrifio'r gwasanaeth y mae'n ofynnol iddynt ei ddarparu.

Rydym o'r farn bod fformat presennol yr Ymrwymiadau Allweddol yn canolbwyntio'n ormodol ar gwotâu penodol, gan dynnu'r ffocws oddi ar gymeriad y gwasanaeth a'r gofynion budd cymdeithasol. Rydym hefyd wedi clywed gan y sector radio cymunedol y gall Ymrwymiadau Allweddol rhy ragnodol ddargyfeirio adnoddau i ffwrdd o agweddau hanfodol ar eu gwasanaethau.

Felly, rydym am sicrhau bod gan ddeiliaid trwydded fwy o hyblygrwydd i benderfynu ar y ffordd orau o wasanaethu eu cymuned, tra'n sicrhau bod rheolau priodol yn parhau ar waith i amddiffyn cymeriad cyffredinol gwasanaeth. I wneud hyn, rydym yn cynnig dileu cwotâu penodol ar:

  • y mathau o raglenni sydd i'w darlledu - er enghraifft, y prif fathau o gerddoriaeth ac allbwn llafar;
  • nifer yr oriau o allbwn gwreiddiol a ddarlledir bob wythnos; a
  • nifer yr oriau o allbwn a gynhyrchir yn lleol.

Rydym hefyd yn cynnig mesurau diogelu penodol, ar gyfer gorsafoedd sy'n darlledu mewn ieithoedd nad ydynt yn Saesneg, i sicrhau bod yr ieithoedd hynny wedi'u pennu yng nghymeriad eu gwasanaeth.

Rydym yn awr yn ceisio barn ar ein cynigion erbyn Dydd Iau 13 Mehefin 2024, a fydd yn cael ei hystyried cyn i ni ddod i benderfyniad terfynol.

Related content