27 Chwefror 2024

Ofcom yn dyfarnu grantiau Cronfa Radio Cymunedol

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi bod 14 o orsafoedd radio cymunedol wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am grantiau ar ôl i ail rownd dyfarniadau'r Gronfa Radio Cymunedol 2023/24 ddod i ben.

Mae'r Gronfa Radio Cymunedol wedi'i dyfarnu gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'i rheoli gan Ofcom.

Fe’i sefydlwyd i gefnogi costau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol, sy’n gweithredu ar sail nid-er-elw i ddarparu buddion cymdeithasol penodol i ardal ddaearyddol neu gymuned fuddiant benodol.

Yn y rownd ariannu hon, dyfarnodd Panel Cronfa Radio Cymunedol annibynnol Ofcom grantiau i 14 o orsafoedd ledled y DU, gwerth cyfanswm o £257,832. Amrywiodd y grantiau unigol o £9,100 i £28,536.

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn rhoi llais newydd i gannoedd o gymunedau lleol ledled y DU. Wedi'u tanio gan waith caled a brwdfrydedd gwirfoddolwyr, maent yn adlewyrchu cymysgedd amrywiol o ddiwylliannau a diddordebau ac yn darparu cyfuniad toreithiog o gynnwys a gynhyrchir yn lleol yn bennaf.

Mae gorsafoedd radio cymunedol fel arfer yn gwasanaethu ardal ddaearyddol fach gyda radiws darpariaeth o hyd at 5km, ac yn cael eu rhedeg ar sail nid-er-elw. Gallant ddarparu ar gyfer cymunedau cyfan neu ar gyfer gwahanol feysydd diddordeb - megis grŵp ethnig, grŵp oedran neu grŵp buddiant penodol. Gallant hefyd greu manteision i gymunedau megis hyfforddiant a newyddion a thrafodaeth gymunedol.

Dyfarnwyd grantiau i:

  • Asian Star - yn darlledu i'r gymuned De Asiaidd ledled y DU ac wedi'i leoli yn Slough, gan chwarae cerddoriaeth Bollywood, Bhangra a Desi Trefol.
  • Erewash Sound a gafodd ei sefydlu yn 2007 yn Swydd Derby, gan ddarlledu i'r gymuned leol yn Ilkeston, West Hallam a Long Eaton.
  • Frome FM - sefydliad nid-er-elw sy’n cael ei redeg a’i reoli gan wirfoddolwyr, gan dargedu’r gymuned leol yn Frome, Gwlad yr Haf. Mae'r orsaf yn cynhyrchu tua 65 o raglenni bob mis.
  • Leeds Dance Community Radio - gorsaf radio cymunedol arbenigol yn chwarae cerddoriaeth ddawns 'underground' i Orllewin Swydd Efrog.
  • Nevis Radio - gorsaf radio gymunedol uchel ei chlod yn Fort William, yn darlledu i Lochaber, Glen Coe a rhannau o Ynys Skye.
  • Radio Plus - yn darlledu i Coventry a'r cylch, gyda ffocws ar gerddoriaeth newydd.
  • Reform Radio - gorsaf radio ar-lein a sefydliad celfyddydol nodedig ym Manceinion sy'n gweithio gyda phobl greadigol leol, DJs a phobl ifanc.
  • Resonance FM - gorsaf radio 24/7 sy'n darlledu i Ganol Llundain. Mae'r orsaf radio cymunedol yn anelu at ddarganfod ac annog ystod eang o leisiau artistig.
  • Radio Rossendale - yn darlledu i'r gymuned leol yng ngogledd-orllewin Lloegr, gan dargedu Haslingden, Rawtenstall a Ramsbottom.
  • Radio Rother - gorsaf radio gymunedol sy'n darlledu ystod amrywiol o raglenni i Rotherham a'r cylch.
  • Spice FM - yn darlledu rhaglenni radio De Asiaidd ac amrywiol ar gyfer y gymuned yn Tyneside.
  • Somer Valley FM gorsaf radio leol fawr ei bri ar gyfer pobl gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, ac yn hyb ar gyfer digwyddiadau a newyddion lleol.
  • Wythenshawe FM - un o’r gorsafoedd radio cyntaf o’i bath, ar ôl ennill trwydded amser llawn yn 2005. Mae'r orsaf yn darlledu'n bennaf i ardal De Manceinion.
  • Zetland FM - gorsaf radio cymunedol sy'n darlledu o Redcar ac yn darparu ar gyfer ardal Redcar a Cleveland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Related content