15 Mawrth 2024

Dod ar draws cynnwys treisgar ar-lein yn dechrau yn yr ysgol gynradd

  • Plant yn dweud 'nad oes modd osgoi' cynnwys treisgar ar-lein
  • Bechgyn yn eu harddegau'n fwy tebygol o rannu deunydd treisgar i 'ffitio i mewn' gyda chyfoedion
  • Algorithmau argymell a negeseuon grŵp yn symbylu amlygiad
  • Tanseilir parodrwydd plant i roi gwybod am gynnwys niweidiol gan ddiffyg ymddiriedaeth yn y broses

Mae plant yn gweld cynnwys treisgar ar-lein yn gyntaf tra'n dal yn yr ysgol gynradd ac yn ei ddisgrifio fel rhan anochel o fod ar-lein, yn ôl ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Ofcom.

Daeth yr holl blant a gymerodd ran yn yr ymchwil ar draws cynnwys treisgar ar-lein, yn bennaf trwy wefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol, rhannu fideos a negeseuon. Mae llawer yn dweud wrthym fod hyn yn digwydd cyn iddynt gyrraedd y lleiafswm oedran i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Mae cynnwys gemau treisgar 18+ oed, gwahaniaethu ar lafar a chynnwys ymladd yn gyffredin i'r plant y siaradom â nhw. Mae rhannu fideos o ymladd yn lleol ar y strydoedd ac mewn ysgolion hefyd wedi'i normaleiddio i lawer o'r plant. I rai, mae hyn oherwydd awydd am adeiladu statws ar-lein ymhlith eu cyfoedion a'u dilynwyr. I eraill,  amddiffyn eu hunain rhag cael eu labelu fel 'gwahanol' am beidio â chymryd rhan yw'r nod.

Mae rhai plant yn sôn am weld trais graffig eithafol, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â gangiau, er yn llawer llai aml. Ac er eu bod yn ymwybodol bod y deunydd treisgar mwyaf eithafol ar gael ar y we dywyll, nid oedd yr un o'r plant y siaradon â nhw wedi cyrchu hwn eu hunain.

Bechgyn yn eu harddegau yn chwilio am glod ar-lein

Y bechgyn yn eu harddegau y siaradom â nhw oedd fwyaf tebygol o rannu cynnwys treisgar a chwilio amdano. Mae hyn yn aml wedi'i ysgogi gan awydd am 'ffitio i mewn' ac ennill poblogrwydd, oherwydd y lefelau uchel o ymgysylltu y mae'r cynnwys hwn yn ei ddenu. Dywed rhai plant 10-14 oed yn y grwpiau iddynt deimlo pwysau nid yn unig i wylio cynnwys treisgar, ond i'w gael yn 'ddoniol', gan ofni cael eu hynysu oddi wrth eu cyfoedion os na wnânt hynny. Mae plant hŷn i'w gweld wedi'u dadsensiteiddio'n fwy i gynnwys treisgar, ac yn llai tebygol o'i rannu.

Dywed y rhan fwyaf o'r plant iddynt ddod ar draws cynnwys treisgar yn anfwriadol trwy sgyrsiau grŵp mawr, negeseuon gan ddieithriaid ar eu ffrydiau newyddion, neu drwy systemau argymell y maent yn cyfeirio atynt fel 'yr algorithm’.

Teimla llawer nad oes ganddynt unrhyw reolaeth dros y cynnwys treisgar a awgrymir iddynt, na sut i'w atal. Gall hyn wneud iddynt deimlo'n ofidus, yn bryderus, yn euog - yn enwedig o ystyried mai anaml y byddant yn adrodd amdano - a hyd yn oed yn ofnus. Mae’r gweithwyr proffesiynol y siaradom â nhw hefyd yn sylwi bod amlygiad cronnus i gynnwys treisgar yn cyfrannu at rai plant yn dod yn encilgar yn gymdeithasol ac yn gorfforol yn y byd go iawn.

Deall llwybrau tuag at niwed difrifol

Mae'r adroddiad heddiw, a luniwyd gan Family, Kids and Youth, yn un mewn cyfres o astudiaethau ymchwil i feithrin dealltwriaeth Ofcom o lwybrau plant tuag at niwed ar-lein. Mae ail adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn archwilio profiadau plant o gynnwys yn ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Mae trydydd adroddiad yn archwilio profiadau plant o seiberfwlio.

Mae’r ail astudiaeth, a luniwyd ar ran Ofcom gan Ipsos UK a TONIC, yn datgelu bod plant a phobl ifanc sydd wedi dod ar draws cynnwys yn ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta yn gyfarwydd iawn â'r fath gynnwys. Maent yn ei nodweddu fel rhywbeth sydd ym mhobman ar gyfryngau cymdeithasol ac yn teimlo bod amlygiad cyson yn cyfrannu at normaleiddio cyfunol ac yn aml dadsensiteiddio i ddifrifoldeb y materion hyn.

Mae plant a phobl ifanc yn tueddu gweld y cynnwys hwn yn anfwriadol i ddechrau trwy argymhellion personol ar eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, gyda'r canfyddiad bod algorithmau wedyn yn cynyddu ei faint. Mae’r plant a’r bobl ifanc hynny sydd â phrofiad o’r materion hyn o lygad y ffynnon yn dweud wrthym eu bod hefyd yn fwy rhagweithiol a bwriadol wrth chwilio am y cynnwys hwn - trwy ddefnyddio hashnodau wedi’u haddasu a geiriau cod cymunedol, er enghraifft. Dywed rhai fod eu symptomau wedi gwaethygu ar ôl gwylio'r cynnwys hwn ar-lein am y tro cyntaf, tra bod eraill wedi darganfod technegau hunan-niweidio nad oeddent yn hysbys o'r blaen.

Mae barn gymysg hefyd ymhlith y plant a'r bobl ifanc am yr hyn y maent yn ei ystyried yn gynnwys 'adferol'. Maent yn dweud wrthym y gellir tagio cynnwys yn fwriadol felly i ddenu dilynwyr - neu i osgoi darganfod a chymedroli cynnwys - ond y gall fod yn fwy amlwg o niweidiol mewn gwirionedd.

Mae trydedd astudiaeth ymchwil a luniwyd ar ran Ofcom gan National Centre for Social Research mewn partneriaeth â Phrifysgol City - ac a gefnogir gan Anti-Bullying Alliance a The Diana Award - yn datgelu bod seiberfwlio yn digwydd unrhyw le y mae plant yn rhyngweithio ar-lein, gydag effeithiau negyddol helaeth ar eu lles emosiynol a'u hiechyd meddyliol a chorfforol.

Dywed plant wrthym fod nodweddion negeseuon uniongyrchol a gadael sylwadau'n alluogwyr sylfaenol i seiberfwlio, gyda rhai'n dweud eu bod wedi cael eu targedu mewn sgyrsiau grŵp y cawsant eu hychwanegu atynt heb roi caniatâd. Maent hefyd yn teimlo bod rhwyddineb sefydlu cyfrifon dienw, ffug neu luosog yn golygu y gall seiberfwlio ddigwydd heb fawr o ganlyniad.

Diffyg ymddiriedaeth a hyder yn y broses adrodd

Thema sy'n codi dro ar ôl tro yn astudiaethau heddiw yw diffyg ymddiriedaeth a hyder plant yn y broses amlygu ac adrodd.

Maen nhw'n poeni, er enghraifft, y gallai oedi ar gynnwys niweidiol er mwyn adrodd amdano olygu y bydd mwy o'r un peth yn cael ei argymell iddynt, felly mae'r mwyafrif yn dewis sgrolio heibio yn lle. Mae plant eraill yn disgrifio eu profiad o adroddiadau'n mynd ar goll yn y system, a derbyn dim ond negeseuon generig mewn ymateb i'w hadroddiad.

Maent hefyd yn mynegi pryderon am gymhlethdod prosesau adrodd, sut mae dulliau'n amrywio’n fawr rhwng llwyfannau ac yn ofni diffyg anhysbysrwydd.

Diogelu plant rhag niwed o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein

Mae’r plant a gymerodd ran yn ein hastudiaethau eisiau gweld cwmnïau technoleg yn cymryd cyfrifoldeb dros gadw nhw’n fwy diogel ar-lein. Ac rydym yn glir bod yn rhaid i wasanaethau cyfryngau cymdeithasol, negeseuon a rhannu fideos sicrhau eu bod yn barod i gyflawni eu dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Yn benodol, rhaid i wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr roi camau penodol ar waith i atal plant rhag dod ar draws 'Cynnwys Cynradd Blaenoriaethol' - pornograffi a deunydd sy'n annog, yn hyrwyddo neu'n darparu cyfarwyddiadau ar gyfer hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Rhaid iddynt hefyd amddiffyn plant rhag niwed 'Blaenoriaethol' arall (gan gynnwys cynnwys treisgar a seiberfwlio).

Mae astudiaethau ymchwil heddiw yn rhan annatod o'n sylfaen dystiolaeth eang i lywio ein Codau Ymarfer Amddiffyn Plant drafft, sydd i'w cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Bydd y Codau hyn yn nodi'r camau ymarferol a argymhellir y gall cwmnïau technoleg eu cymryd i fodloni eu gofynion i amddiffyn plant o dan y deddfau newydd.

Yn ystod y broses ymgynghori, byddwn yn ymgysylltu â diwydiant, sefydliadau cymdeithas sifil sy'n ymwneud â diogelu buddiannau plant, a byddwn hefyd yn clywed gan blant yn uniongyrchol - trwy gyfres o drafodaethau â ffocws - i lywio ein penderfyniadau terfynol.

Bydd Ofcom hefyd yn ymgynghori cyn bo hir ar ei strategaeth tair blynedd i hyrwyddo a chefnogi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn y DU. Gall datblygu sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau cryfion helpu plant i ymwneud â gwasanaethau ar-lein mewn ffordd feirniadol, diogel ac effeithiol. Mae Adroddiad ar gyfer Ofcom gan Magenta ar blant 8-12 oed â lefelau uchel o ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, a gyhoeddwyd heddiw, yn disgrifio’r camau y mae plant sydd â lefelau uchel o ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n eu cymryd – yn absenoldeb amddiffyniadau effeithiol ar wasanaethau ar-lein – i leihau’r risg o ddod ar draws deunydd niweidiol, a sut y maent yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud ar-lein.

“Ni ddylai plant deimlo bod cynnwys niweidiol iawn – gan gynnwys deunydd sy’n dangos trais neu'n hyrwyddo hunan-niweidio – yn rhan anochel neu anorfod o’u bywydau ar-lein. Mae'r ymchwil heddiw yn anfon neges bwerus i gwmnïau technoleg mai nawr yw'r amser i weithredu fel eu bod yn barod i gyflawni eu dyletswyddau amddiffyn plant o dan gyfreithiau diogelwch ar-lein newydd. Yn ddiweddarach y gwanwyn hwn, byddwn yn ymgynghori ar sut yr ydym yn disgwyl i’r diwydiant sicrhau y gall plant fwynhau profiad ar-lein mwy diogel sy’n briodol i’w hoedran.”

Gill Whitehead, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom

Dyfyniadau niwed ar-lein

Related content