15 Ebrill 2024

Sicrhau ansawdd gwasanaethau mynediad teledu ac ar-alw

Mae Ofcom heddiw yn cyhoeddi newidiadau i'n Cod Gwasanaethau Mynediad a chanllawiau arfer gorau cysylltiedig i wella hygyrchedd rhaglenni teledu ac ar-alw i gynulleidfaoedd.

Mae gwasanaethau mynediad yn cynnwys is-deitlau, arwyddo a disgrifiadau sain. Maent yn helpu pobl ag anghenion mynediad, gan gynnwys pobl ddall a b/Byddar a'r rhai sydd wedi colli eu golwg a'u clyw, i ddeall a mwynhau rhaglenni teledu ac ar-alw.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ddarlledwyr ddarparu gwasanaethau mynediad ar gyfran benodol o'u rhaglenni. Rydym yn esbonio'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud yn ein Cod Gwasanaethau Mynediad Teledu ac yn rhoi cyngor ar sut y gallant sicrhau eu bod o ansawdd uchel ac yn hawdd eu defnyddio yn ein canllawiau arfer gorau.

Er mwyn llywio ein hadolygiad o’r Cod a’r Canllawiau cysylltiedig, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chomisiynu ymchwil newydd- hefyd wedi'i gyhoeddi heddiw - sy'n datgelu'r angen am fwy o ddewis ac opsiynau ar gyfer addasu ar draws yr holl gyfranogwyr.

Ar gyfer gwasanaethau ar-alw a dal i fyny, mae defnyddwyr gwasanaethau mynediad, ymhlith pethau eraill, eisiau mwy o gysondeb yng nghynllun rhyngwynebau defnyddwyr ac wrth ddod o hyd i gynnwys hygyrch.

Y Cod a'r Canllawiau

A ninnau wedi adolygu'r dystiolaeth, ac ystyried yr ymatebion i'n hymgynghoriad, rydym yn cyflwyno nifer o nodiadau eglurhad i'r Cod Gwasanaethau Mynediad. Rydym wedi'i wneud yn glir bod yn rhaid i Ddarlledwyr sicrhau'r canlynol:

  • mae gwasanaethau mynediad o ansawdd digon da i gyfrif tuag at y targedau; a
  • phan aiff rhywbeth o'i le gyda gwasanaethau mynediad, mae'n rhaid i ddarlledwyr wneud pob ymdrech i hysbysu eu gwylwyr am beth sy'n digwydd a rhoi diweddariadau iddynt.

Rydym yn ehangu ein Canllawiau Arfer Gorau i gynnwys darparwyr fideo ar-alw fel ITV X a Channel 4, a gwasanaethau tanysgrifio fel Now ac Amazon Prime Video am y tro cyntaf. Mae ein hymagwedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau i gynulleidfaoedd, gan ganiatáu'r defnydd o ystod o dechnolegau.

Rydym yn cryfhau ein canllawiau trwy gynnig cyngor ychwanegol ar feysydd gan gynnwys:

  • gwasanaethu pobl sydd â chyflyrau gwybyddol a niwroddatblygiadol;
  • canlyniadau allweddol i gynulleidfaoedd mewn perthynas ag is-deitlo, disgrifiadau sain ac arwyddo;
  • cyflunio, opsiynau a dewis ar gyfer gwylwyr; a
  • dulliau amgen o wneud rhaglenni'n hygyrch (er enghraifft, gwneud deialog yn haws ei glywed ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw).

Mae'r Cod diwygiedig a'r canllawiau yn awr yn weithredol. Mae Ofcom hefyd yn y broses o sefydlu gweithgor ar gyfer grwpiau defnyddwyr, darlledwyr a darparwyr ar-alw i rannu arfer gorau.

Darllenwch ein crynodebau iaith glir a gwyliwch ein crynodebau fideo BSL o'r Cod Gwasanaethau Mynediad a Chanllawiau Arfer Gorau ar wefan Ofcom.

Related content