19 Mawrth 2024

Ofcom yn lansio ymchwiliad i Vonage ynghylch mynediad i 999

Heddiw mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i'r darparwr cyfathrebiadau cwmwl, Vonage. Daw hyn ar ôl digwyddiad a arweiniodd at amhariad ar wasanaethau galwadau brys ei gwsmeriaid busnes yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 2023.

Mae ein rheolau'n mynnu bod darparwyr yn cymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau mynediad di-dor i sefydliadau brys fel rhan o unrhyw wasanaethau galwadau a gynigir. Rhaid hefyd i ddarparwyr roi mesurau priodol a chymesur ar waith i nodi a lleihau risgiau ar gyfer unrhyw beth a allai gyfaddawdu argaeledd, perfformiad neu weithrediad eu rhwydwaith neu wasanaeth.

At hynny, mae'n ofynnol hefyd i ddarparwyr roi mesurau priodol a chymesur ar waith i atal effeithiau andwyol sy'n deillio o unrhyw gyfaddawd o'r fath. Os bydd effeithiau negyddol, dylent gymryd camau i unioni neu liniaru'r effeithiau hynny.

Mae hefyd yn ofynnol i ddarparwyr hysbysu Ofcom, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw gyfaddawd diogelwch sy’n cael effaith arwyddocaol ar weithrediad rhwydwaith neu wasanaeth.

Bydd ein hymchwiliad yn ceisio dod o hyd i'r ffeithiau am y digwyddiad ac yn archwilio a oes sail resymol dros gredu bod Vonage wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau rheoleiddiol.

Related content