25 Ionawr 2024

Datgelu’r cwynion diweddaraf am ddarparwyr telathrebu a theledu-drwy-dalu

Heddiw rydym yn cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y cwynion rydym wedi'u derbyn ynghylch prif ddarparwyr llinell dir, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.

Mae'r ffigurau'n ymdrin â'r cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi y llynedd, pan welsom gynnydd bach mewn cwynion. Cododd cwynion am linell dir, band eang sefydlog a theledu-drwy-dalu i gyd, ac arhosodd cwynion am symudol talu'n fisol ar lefelau tebyg.

Tueddiadau allweddol o'n ffigurau cwynion

  • Virgin Media oedd y darparwr y cwynwyd fwyaf amdano ar draws y categorïau band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu, gan weld cynnydd sylweddol ar draws yr holl feysydd hyn o gymharu â’r chwarter blaenorol.
  • Yn ogystal â Virgin Media, derbyniodd NOW Broadband a TalkTalk niferoedd uwch na’r cyfartaledd o gwynion ar gyfer llinell dir a derbyniodd NOW Broadband hefyd fwy o gwynion na'r cyfartaledd ar gyfer band eang.
  • Sky oedd y darparwr o hyd a ddenodd y lleiaf o gwynion neu'r lleiaf ar y cyd fesul 100,000 o danysgrifwyr ar draws y pedwar gwasanaeth rydym yn eu mesur. Mae hyn yn golygu mai Sky oedd y darparwr y cwynwyd leiaf amdano ar gyfer band eang a llinell dir.
  • TalkTalk a Sky oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdanynt.
  • O2 a BT Mobile oedd y cwmnïau symudol y cwynwyd fwyaf amdanynt. Roedd cwynion am O2 wedi'u hysgogi'n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion cwsmeriaid ac roedd cwynion am BT wedi'u hysgogi gan brofiadau cwsmeriaid o newid darparwr. Sky Mobile, EE a Vodafone a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion yn y sector symudol.

Un ffactor yn ffigurau cwynion Virgin Media ar gyfer y chwarter hwn oedd ein cyhoeddiad ym mis Gorffennaf i lansio ymchwiliad i anawsterau cwsmeriaid wrth ganslo contractau a sut yr oedd wedi ymdrin â chwynion.

Rydym yn cydnabod y gallai’r cyhoeddiad hwn fod wedi ysgogi mwy o gwsmeriaid i gwyno i ni am Virgin Media, a bod hwn o bosib yn ffactor a gyfrannodd at y nifer o gwynion amdano yn y chwarter sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn.

Wrth sôn am y data cwynion cyffredinol ar gyfer y chwarter hwn, meddai Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom: “Mae’r cynnydd bychan mewn cwynion ers y chwarter blaenorol yn dangos bod yn rhaid i ddarparwyr barhau i ganolbwyntio ar wella gwasanaeth cwsmeriaid.

“Rydym yn cydnabod effaith ein hymchwiliad ar ffigurau cwynion Virgin Media ar gyfer y chwarter hwn, ond rydym hefyd yn ymwybodol bod ein hymchwiliad yn seiliedig i ryw raddau ar gwynion yr oedd cwsmeriaid eisoes wedi’u gwneud am wasanaethau Virgin Media. Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar yr ymchwiliad yn ein Bwletin Gorfodi wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.”

Fel y rheoleiddiwr cyfathrebu, rydym yn rhoi'r data cwynion hwn at ei gilydd er mwyn i ni allu deall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid telathrebu. Er na allwn ymdrin â chwynion unigol cwsmeriaid, mae cyhoeddi'r data hwn yn rhoi cipolwg i ddefnyddwyr ar berfformiad darparwyr, sy'n eu helpu i ddewis y darparwr cywir ar gyfer eu hanghenion.

Mae'r siartiau hyn yn darparu mwy o fanylion am y cwynion rydym wedi'u derbyn.

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu

Related content