8 Ionawr 2024

Penodi aelodau bwrdd newydd ar gyfer Channel 4

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi bod pump o gyfarwyddwyr anweithredol newydd wedi cael eu penodi ar Fwrdd Channel 4 Television Corporation.

Tom Adeyoola

Mae Tom yn entrepreneur technoleg sydd â 25 mlynedd o brofiad mewn cyfryngau newydd, technoleg sy’n tarfu a strategaeth fusnes. Mae Tom yn dod â phrofiad yn y busnes adloniant a’r cyfryngau gyda’i rolau yn Filmbank Distributors ac Inspired Gaming Group. Lansiodd Metail, cwmni deallusrwydd artiffisial 3D a ffasiwn. Mae Tom hefyd wedi gwasanaethu ar fyrddau elusennau, cwmnïau nid-er-elw, cwmnïau twf uchel, ysgolion annibynnol a byrddau cynghori cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae’n gyd-sylfaenydd y mudiad nid-er-elw, Extend Ventures, sy’n arallgyfeirio mynediad at gyllid ar gyfer sylfaenwyr sy’n cael eu tangynrychioli.

Alex Burford

Mae Alex yn swyddog gweithredol label recordiau gyda 15 mlynedd o brofiad ac mae wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Warner Records UK ers 2022. Alex yw Rheolwr Gyfarwyddwr ieuengaf unrhyw label recordiau mawr rheng flaen yn y DU ac arferai fod yn Rheolwr Cyffredinol Black Butter – menter ar y cyd gyda Sony Music. Mae wedi gweithio gyda rhai o artistiaid mwyaf y byd, gan gynnwys Dua Lipa, Liam Gallagher a PinkPantheress.

Sebastian James

Seb yw Prif Swyddog Gweithredol Boots ac mae ganddo hanes gyrfa hir yn gweithio ar frandiau cartref a chwmnïau FTSE gan gynnwys Dixons Carphone, Silverscreen a Mothercare. Mae Seb hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol ac mae wedi gwasanaethu ar fwrdd Direct Line Insurance Group ers 2014, Modern Art Oxford ac Achub y Plant ac ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr English Heritage.

Y Fonesig Annette King

Mae Annette wedi gweithio yn y diwydiant hysbysebu ers 30 mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n Arweinydd Arferion Marchnata Byd-eang yn Accenture Song. Cyn hynny, hi oedd Prif Swyddog Gweithredol Publicis Groupe UK, lle’r oedd yn gyfrifol am drawsnewid a thwf nifer o fusnesau cyfryngau, creadigol, cysylltiadau cyhoeddus, dylunio, iechyd a B2B. Annette oedd Prif Swyddog Gweithredol Ogilvy UK tan 2017, a hithau wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd OgilvyOne cyn hynny, gan ymuno â’r asiantaeth ar ôl wyth mlynedd yn Wunderman. Mae’n cadeirio’r Advertising Association ac yn aelod o Gyngor Buddsoddi’r DU, sy’n cynrychioli’r diwydiannau creadigol. Rhwng 2018 a 2021, bu’n gadeirydd Bwrdd Masnach a Buddsoddi’r Diwydiannau Creadigol (CITIB) ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Bwrdd yn London First.

Debbie Wosskow OBE

Mae Debbie’n entrepreneur blaenllaw yn y DU ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn yr economi ddigidol. Cyn hynny, sefydlodd Love Home Swap ac AllBright, gan eu datblygu cyn gadael. Mae Debbie’n Fuddsoddwr ac yn Gyd-gadeirydd The Better Menopause, ac yn gynghorydd i McKinsey & Company ac Omaze. Mae’n gwasanaethu ar Fyrddau Gwobr y Menywod am Ffuglen, Bwrdd Busnes Maer Llundain ac Adolygiad Rose o Entrepreneuriaeth Menywod.

Bydd pedwar unigolyn yn ymuno â’r Bwrdd am gyfnod o dair blynedd yn dechrau heddiw, gydag Alex Burford yn dechrau ym mis Mehefin 2024.

Cymeradwywyd y penodiadau gan y Gwir Anrhydeddus Lucy Frazer AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

O dan Ddeddf Darlledu 1990, mae’n ofynnol i Ofcom benodi aelodau anweithredol i Fwrdd Channel 4, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Cafodd y broses recriwtio ei chynnal gan yr asiantaeth chwilio gweithredol Russell Reynolds.
  2. Yr Arglwydd Grade o Yarmouth oedd Cadeirydd y panel recriwtio.  Roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys Syr Ian Cheshire (Cadeirydd Channel 4), Elizabeth Watkins a’r Farwnes Usha Prashar.

Related content