20 Rhagfyr 2023

A dyna'r cyfan: Y rhaglenni teledu y cwynwyd mwyaf amdanynt yn 2023

Yn ystod y flwyddyn, cawsom 69,236 o gwynion am 9,638 o faterion. Fe wnaethom gwblhau 57 ymchwiliad safonau darlledu; Canfuom mewn 35 o'r achosion hyn fod ein rheolau wedi'u torri.

Yn ystod 2023, parhaodd cwynion gan gynulleidfaoedd ynghylch safonau ar y teledu i gyrraedd y penawdau gyda sylw yn y newyddion i'r gwrthdaro yn Israel a Gaza, Coroniad y Brenin Charles a chweryla rhwng enwogion ar y sgrin ymhlith ein 10 uchaf.

I Ofcom, mae cwynion yn faromedr hanfodol o sut mae cynulleidfaoedd yn meddwl ac yn teimlo. Dros y flwyddyn ddiweddaf, bu i ni dderbyn 69,236 o gwynion am 9,638   o achosion. Mae hynny bron ddwywaith cymaint o gwynion ag y gwnaethom ymdrin â nhw yn 2022 – er i'r ddwy raglen y cafwyd y nifer fwyaf o gwynion amdanynt yn y flwyddyn gyfrif am bron i chwarter o gyfanswm y cwynion.

Mae'n bwysig nodi nad yw'r nifer hwn yn cynnwys cwynion am raglenni ar y BBC. O dan Siarter y BBC, mae'n rhaid i'r rhain gael eu trin gan y BBC yn y lle cyntaf.

Roedd bron i un o bob deg cwyn i Ofcom eleni yn ymwneud â sylw i'r gwrthdaro parhaus yn Israel a Gaza a ddechreuodd ym mis Hydref. Rydym yn chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau uniondeb rhaglenni newyddion a materion cyfoes a ddarlledir, drwy gynnal safonau didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy. Ac felly, mae cwynion am y cynnwys hwn – ar amrywiaeth o sianeli – yn cael eu blaenoriaethu gan ein tîm.

Cwynion o'r pum mlynedd diwethaf

Amddiffyn cynulleidfaoedd rhag niwed

Bob yn ail ddydd Llun cyhoeddir ein Bwletin Darlledu – y brif ffynhonnell o fanylion am ymchwiliadau newydd, ein penderfyniadau a rhestrau o gwynion am raglenni nad ydynt yn codi pryderon o dan ein rheolau.

Yn 2023, fe wnaethom gyhoeddi 23 o Fwletinau Darlledu ac Ar-alw, gan gyhoeddi 57 o ymchwiliadau safonau darlledu newydd, yn ogystal â chanlyniadau 46 o ymchwiliadau. Canfuwyd 35  o raglenni’n groes i'n rheolau darlledu ac rydym yn gweithio i gwblhau’r lleill cyn gynted â phosibl. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi 15 o ddyfarniadau ar gwynion gan unigolion a sefydliadau a gwynodd wrthym eu bod wedi cael eu trin yn annheg a/neu fod rhaglenni teledu a radio wedi tarfu ar eu preifatrwydd heb gyfiawnhad digonol.

Fe wnaethom osod sancsiynau ar bedwar  darlledwr   am dorri amodau cynnwys, gan gynnwys dirwy o £40,000 i Islam Channel a £10,000 i Ahlebait TV, y ddau am ddarlledu cynnwys gwrth-semitig.

Canfuwyd hefyd bod GB News wedi torri ein rheolau ar bump achlysur ar ôl i’n hymchwiliadau nodi iddo dorri ein rheolau sy’n amddiffyn cynulleidfaoedd rhag niwed ddwywaith a’n rheolau didueddrwydd dyladwy deirgwaith.

Taflu goleuni ar safonau

Trwy gydol y flwyddyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi cynnwys i esbonio'n well sut mae ein rheolau'n gweithio a'n rôl a - gan gynnwys y rheolau yn ymwneud â gwleidyddion yn cyflwyno rhaglenni a sut y caiff pobl sy'n cymryd rhan mewn sioeau realiti eu hamddiffyn.

Gwnaethom hefyd egluro pwysigrwydd didueddrwydd dyladwy mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes ac esbonio sut mae'r rheolau hyn weithiau'n cael eu camddeall. Camsyniad cyffredin yw bod didueddrwydd dyladwy yn golygu "niwtraliaeth”. Neu ei fod yn gystrawen fathemategol sy'n mynnu amser cyfartal ar yr awyr i bob ochr o ddadl. Ddim felly!

Ym mis Chwefror, recordiodd ein Cyfarwyddwr Safonau ac Amddiffyn Cynulleidfaoedd Adam Baxter bodlediad gyda'r newyddiadurwr a'r darlledwr Pandora Sykes a'r beirniad teledu a darlledwr Scott Bryan. Ymdriniodd y sgwrs eang ei chwmpas â theledu realiti, rhyddid mynegiant, noethni blaen llawn a phopeth arall!

Hefyd eleni, fe wnaethom gyhoeddi ymchwil er mwyn deall yn well yr hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan wahanol gynnwys ar y teledu, ac ar-alw, ac archwilio agweddau cynulleidfaoedd at ryw a thrais ar y teledu.

Yn 2024, byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein hymchwil i'r hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei feddwl am raglenni sy’n cael eu cyflwyno gan wleidyddion.

Waeth beth fo'r broblem, y sianel neu'r rhaglen, mae pob cwyn yn bwysig i ni. Bydd gwylwyr a gwrandawyr bob amser wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac rydym yn ystyried pob un gŵyn a dderbyniwn yn ofalus. Mae'r holl ddarlledwyr yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg ac yn cael eu dwyn i’r un safonau uchel y mae gwylwyr a gwrandawyr y DU yn eu disgwyl a'u haeddu.

Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed a chynnal yr hawl i ryddid mynegiant ar eich sgriniau a'ch tonfeddi. A gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, bydd sicrhau y cynhelir didueddrwydd dyladwy a bod newyddion yn cael ei adrodd yn ddyladwy gywir yn uchel ar ein rhestr flaenoriaethau.

Cwynion y flwyddyn

  1. Dan Wootton Tonight, GB News, 26 Medi 2023 – 8,867 o gwynion

    Roedd gwylwyr yn gwrthwynebu'r sylwadau misogynistaidd a wnaed gan Laurence Fox am y newyddiadurwr Ava Evans.

    Mae ymchwiliad Ofcom i'r rhaglen hon o dan ein rheolau ar dramgwydd yn parhau.

  2. Brenin Charles III: Y Coroni, ITV1, 6 Mai 2023 –8,421 o gwynion

    Roedd y mwyafrif o gwynion yn ymwneud â sylw a wnaed gan yr actores Adjoa Andoh yn ystod y darllediad byw, a fu'n canolbwyntio ar ymddangosiad y Teulu Brenhinol ar falconi Palas Buckingham.

    Er i ni ddeall bod gan rai gwylwyr deimladau cryfion am y sylw hwn, ar ôl ystyried yn ofalus, daethom i'r casgliad y bu'r sylw yn arsylwad personol fel rhan o drafodaeth banel eang a fu hefyd yn ymdrin â phynciau eraill sy'n gysylltiedig ag amrywiaeth, ac yn cynnwys ystod o safbwyntiau. Cymerodd ein penderfyniad i beidio â mynd ymhellach ar drywydd y cwynion hyn yr hawl i ryddid mynegiant i ystyriaeth hefyd.

  3. Good Morning Britain, ITV1, 17 Hydref 2023 – 2,391 o gwynion

    Fe wnaethom asesu cwynion yn ofalus am linell holi'r cyflwynydd tuag at yr AS Layla Moran.

    Roeddem o'r farn bod ei sylwadau byw heb eu sgriptio o bosib yn dramgwyddus. Fodd bynnag, gan gymryd y cyfweliad cyfan i ystyriaeth, ac yn benodol y drafodaeth flaenorol am Hamas yn defnyddio sifiliaid fel tarianau dynol, gwnaethom ystyried bod y cwestiwn yn ceisio archwilio a oedd sifiliaid yn ymwybodol o waethygiad posibl yn yr ymladd, yn hytrach nag awgrymu bod Ms Moran na'i theulu'n ymwybodol o gynllunio penodol ar gyfer ymosodiad Hamas ar 7 Hydref 2023. Yn ei hymateb, soniodd Ms Moran am ei syndod ynghylch maint a soffistigeiddrwydd yr ymosodiad. Yng ngoleuni hyn, ni fyddwn yn mynd ar drywydd hyn ymhellach.

  4. Jeremy Vine, Channel 5, 13 Mawrth 2023 – 2,302 o gwynion

    Fe wnaethom ystyried yn ofalus gwynion gan wylwyr am drafodaeth ar yr anghydfod ynghylch cyflog meddygon ieuaf.

    Er i ni gydnabod nad oedd rhai cyfeiriadau at linellau amser dilyniant a graddfeydd cyflog cyfatebol yn gwbl gywir, nid ydym o'r farn y bu'r gwallau’n ddigon i gamarwain gwylwyr yn faterol mewn ffordd a fyddai'n achosi niwed.

  5. Breakfast with Kay Burley, Sky News, 23 Tachwedd 2023 – 1,880 o gwynion

    Fe wnaethom ystyried yn ofalus gwynion am arddull holi'r cyflwynydd yn ystod cyfweliad â llefarydd ar ran Israel, Eylon Levy.

    Gan ystyried her rymus Mr Levy i gynsail y cwestiwn am werth bywydau pobl Israel yn erbyn bywydau pobl Palestina, a chyd-destun y drafodaeth ehangach am delerau'r cadoediad dros dro, ni fyddwn yn mynd ar drywydd hyn ymhellach.

  6. Lee Anderson’s Real World, GB News, 29 Medi 2023 – 1,697 o gwynion

    Roedd cwynion yn ymwneud â chyfweliad Lee Anderson â Suella Braverman, ar y sail bod y ddau'n Aelodau Seneddol Ceidwadol.

    Gwnaethom gyhoeddi ein hasesiad o'r rhaglen hon a nododd ei fod yn cynnwys amrywiaeth briodol o eang o safbwyntiau arwyddocaol ar fater mewnfudo a rheoli ffiniau, y rhoddwyd pwys dyledus iddynt.

  7. Breakfast with Kay Burley, Sky News, 10 Hydref 2023 – 1,640 o gwynion

    Honnodd achwynwyr fod Kay Burley wedi camgynrychioli sylwadau a wnaed gan lysgennad Palestina.

    Rydym yn asesu'r cwynion, cyn i ni benderfynu a fyddwn yn ymchwilio ai beidio.

  8. Naked Education, Channel 4, 4 Ebrill 2023 – 1,285 o gwynion

    Deallwn fod gan rai gwylwyr bryderon am y rhaglen hon, a oedd yn cynnwys noethni cyn y trothwy.

    Yn ein barn ni, roedd gan y rhaglen ffocws addysgol clir, a myfyriodd y cyfranogwyr ifainc ar eu cyfranogiad mewn ffordd gadarnhaol. Fe wnaethom hefyd gymryd i ystyriaeth y rhoddwyd rhybuddion i'r gynulleidfa cyn i'r rhaglen gael ei darlledu.

    Hefyd, darparodd Channel 4 wybodaeth i Ofcom am yr amddiffyniadau yr oedd wedi'u rhoi ar waith ar gyfer lles ac urddas cyfranogwyr dan 18 oed.

  9. This Morning, ITV, 18 Rhagfyr 2023, 1,092 o gwynion

    Roedd cwynion yn ymwneud â sylwadau a wnaed gan Vanessa Feltz am glefyd coeliag.

    Rydym yn asesu'r cwynion, cyn i ni benderfynu a fyddwn yn ymchwilio ai beidio.

  10. Love Island, ITV2, 9 Gorffennaf 2023 – 992 o gwynion  
  11. Roedd y mwyafrif o gwynion am y bennod hon yn ymwneud â bwlio yn erbyn Scott.

    Fe wnaethom asesu cwynion am y gyfres hon yn ofalus ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys honiadau o fwlio, homoffobia a hiliaeth.

    Rydym yn cydnabod y gall golygfeydd emosiynol neu wrthdrawiadol gynhyrfu rhai gwylwyr. Ond, yn ein barn ni, ni ddangoswyd ymddygiad negyddol yn y fila mewn ffordd gadarnhaol. Fe wnaethom hefyd gymryd i ystyriaeth fod fformat y sioe realiti hon wedi'i hen sefydlu ac y byddai gwylwyr yn disgwyl gweld uchafbwyntiau ac isafbwyntiau wrth i berthnasoedd cyplau gael eu profi.

    Cwynodd gwylwyr hefyd am gystadleuydd y pleidleisiwyd i'w daflu allan o'r rhaglen, y cafodd ei ddychwelyd iddi wedyn, ond penderfyniad golygyddol i'r darlledwr oedd hwn.

Related content