22 Mawrth 2024

Rhybuddion crwydro symudol newydd i bobl sy'n mynd dramor o'r DU

  • Bydd yn rhaid i ddarparwyr anfon rhybuddion crwydro i gwsmeriaid symudol pan fyddant yn teithio dramor a darparu gwybodaeth am y taliadau sy'n berthnasol
  • Bydd rheolau newydd Ofcom hefyd yn helpu amddiffyn cwsmeriaid symudol yn y DU rhag effaith crwydro anfwriadol

Bydd cwsmeriaid symudol y DU yn cael eu hamddiffyn yn well rhag taliadau crwydro annisgwyl wrth ddefnyddio eu ffôn dramor a gartref, o dan reolau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.

Yn dilyn ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, nid yw rheolau 'crwydro fel gartref' yr UE - a chyfraith y DU sy'n mynnu bod gweithredwyr symudol yn rhybuddio cwsmeriaid am gostau crwydro pan fyddant yn dechrau crwydro - yn berthnasol bellach. Ers hynny, mae llawer o weithredwyr wedi parhau i anfon rhybuddion at eu cwsmeriaid yn wirfoddol.

Fodd bynnag, canfu adolygiad gan Ofcom y gall ansawdd yr wybodaeth a ddarperir fod yn anghyson ac yn aneglur. Canfu ein hymchwil nad yw bron i un o bob pum person ar eu gwyliau (19%) yn ymwybodol y gallent wynebu taliadau ychwanegol wrth ddefnyddio eu ffôn dramor a dywedodd cyfran debyg (18%) nad ydyn nhw'n ymchwilio i gostau crwydro cyn teithio.1

Rheolau newydd

Er mwyn sicrhau bod pob cwsmer symudol yn derbyn yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt – pan fydd ei hangen arnynt – mae Ofcom yn cyflwyno amddiffyniadau newydd. O 1 Hydref 2024, mae angen i ddarparwyr symudol hysbysu cwsmeriaid pan fyddant yn dechrau crwydro.

Mae angen hefyd i ddarparwyr roi gwybodaeth glir all gael ei chyrchu am ddim, er mwyn i gwsmeriaid wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a ddylid defnyddio eu ffôn symudol dramor – a sut. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cwsmeriaid yn deall unrhyw gostau crwydro, gan gynnwys:

  • unrhyw derfynau defnydd teg neu derfynau amser sy'n berthnasol;
  • y gallant osod cap gwario i gyfyngu ar eu gwariant; a
  • ble i ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol am grwydro.

Neges destun gan ddarparwr

“Y peth olaf y mae pobl ar eu gwyliau eisiau wrth ddychwelyd o daith dramor yw bil ffôn symudol annisgwyl. Ar hyn o bryd, nid yw rhai cwsmeriaid yn cael gwybodaeth glir gan eu darparwr i’w helpu rheoli eu defnydd symudol a chynllunio eu gwariant.

Bydd ein hamddiffyniadau newydd yn golygu y byddwch chi'n cael gwybod beth fydd yn ei gostio pan fyddwch yn dechrau crwydro, felly gallwch fod yn hyderus na fydd unrhyw syrpreisys o ran eich bil ffôn pan fyddwch ar wyliau.”

- Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Polisi Defnyddwyr Telathrebu Ofcom

Crwydro anfwriadol

Weithiau mae dyfeisiau’n crwydro’n anfwriadol i rwydwaith mewn gwlad wahanol er nad yw’r cwsmer yn gorfforol yn y wlad honno, ac mae ein hymchwil yn dangos bod un o bob saith (14%) o gwsmeriaid symudol y DU yn profi hyn pan fyddant dramor neu’n dal yn y DU.

Mae hon yn broblem yn benodol i bobl yng Ngogledd Iwerddon, gyda miloedd lawer o bobl yn byw ger y ffin. Gall hefyd olygu bod rhai cwsmeriaid ar arfordir Lloegr yn crwydro'n anfwriadol i rwydweithiau yn Ffrainc.

Bydd y mesurau diogelu a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y bydd cwsmeriaid yn cael eu hysbysu o'r ffaith eu bod yn crwydro'n anfwriadol. Yn ogystal, o dan ein rheolau newydd, bydd angen i ddarparwyr:

  • ddarparu gwybodaeth glir, dealladwy a chywir i gwsmeriaid am y mesurau uchod a hefyd sut i osgoi crwydro anfwriadol yn y DU a’r tu allan iddi, yn enwedig mewn ardaloedd sydd ar y ffin. Gallai hyn gynnwys hysbysu cwsmeriaid yn rhagweithiol am y tebygolrwydd o grwydro anfwriadol mewn ardaloedd lle mae hyn yn digwydd yn aml; a
  • rhoi mesurau ar waith i alluogi cwsmeriaid i leihau neu gyfyngu ar eu gwariant ar grwydro pan fyddant yn y DU. Gallai hyn gynnwys trin defnydd symudol yn Iwerddon yn yr un modd ag yn y DU.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Cynhaliodd Yonder arolwg omnibws ar-lein (PDF, 1.6 MB) ym mis Tachwedd 2022. Roedd y sampl yn cynnwys 2,108 o oedolion 16+ oed a oedd yn gwsmeriaid symudol y DU a bwysolwyd i fod yn gynrychioliadol o'r DU yn genedlaethol. Mae'r cyfeiriad hwn yn berthnasol i'r holl ystadegau yn y datganiad newyddion hwn.

Related content