26 Mawrth 2024

Ofcom yn lansio adolygiad telathrebu cyfanwerthol 2026 i bweru’r broses o gyflwyno band eang gigabit

Mae Ofcom heddiw wedi dechrau ei hadolygiad o’r rheoliadau a fydd yn berthnasol i farchnadoedd telathrebu cyfanwerthol y DU o fis Ebrill 2026 tan fis Mawrth 2031.

Bydd yr adolygiad yn helpu sicrhau bod seilwaith band eang y DU yn addas ar gyfer y dyfodol. Ei nod fydd gosod yr amgylchedd cywir i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn band eang gigabit-alluog, er mwyn darparu gwell gwasanaethau a mwy o ddewis i ddefnyddwyr.

Ers diwedd ein hadolygiad diwethaf yn 2021, mae Openreach a llawer o gwmnïau eraill wedi cynyddu'r broses o gyflwyno eu rhwydweithiau cenhedlaeth nesaf. Mae band eang gigabit-alluog bellach ar gael i fwy na 23.2 miliwn o gartrefi (78% o’r DU), a gall mwy na 17.1 miliwn o gartrefi (57%) gael mynediad at fand eang ffeibr llawn.

Disgwyliwn gyhoeddi ein prif ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer rheoleiddio yn gynnar y flwyddyn nesaf, gyda’r bwriad o gyhoeddi ein penderfyniadau terfynol yn gynnar yn 2026.

Related content