Diffodd rhwydweithiau 2G a 3G: Cyngor i gyflenwyr dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thrydydd parti

08 Medi 2023

Bydd darparwyr rhwydweithiau symudol (MNO) y DU yn diffodd eu rhwydweithiau 3G ac yna’u rhwydweithiau 2G dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r dudalen hon yn esbonio sut y gall cyflenwyr dyfeisiau'r Rhyngrwyd Pethau  (IoT) a thrydydd parti helpu eu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod pontio hwn.

Beth sy'n digwydd?

Mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol y DU wedi hysbysu Llywodraeth y DU nad ydynt yn bwriadu darparu rhwydweithiau symudol 2G a 3G y tu hwnt i 2033 fan bellaf. Bydd hyn yn ategu cyflwyno’r rhwydweithiau 4G a 5G a fydd yn cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid.

Mae disgwyl i Vodafone, Three, ac EE ddiffodd eu rhwydweithiau 3G erbyn diwedd 2024, a rhagwelir y bydd VMO2 yn dilyn yn 2025. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch diffodd rhwydweithiau 3G, gan gynnwys amserlenni gwahanol y gweithredwyr rhwydweithiau symudol, ewch i fwrw golwg ar ein canllaw i gwsmeriaid.

Nid oes unrhyw weithredwr yn y DU wedi cyhoeddi cynlluniau penodol eto ar gyfer diffodd eu rhwydwaith 2G ar ôl diffodd 3G, ond bydd y broses yn cael ei chwblhau erbyn 2033 fan bellaf, ac o bosibl mor fuan â 2028. Bydd angen i’r holl ddyfeisiau 2G a 3G gael eu huwchraddio i 4G o leiaf erbyn y pwynt hwnnw.

Ein rôl ni a'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol

Er nad oes gan Ofcom rôl ffurfiol yn y broses ddiffodd, rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg ac y gallant barhau i gael mynediad at y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen. Gyda hynny mewn cof, rydym wedi nodi sut rydym yn disgwyl i weithredwyr rhwydweithiau symudol fynd ati i ddiffodd eu gwasanaethau yn y ddogfen ganlynol. Mae'r ddogfen hon hefyd yn nodi'r gofynion rheoleiddio perthnasol y bydd angen i ddarparwyr eu bodloni yn ystod y broses hon.

Bydd y broses ddiffodd yn effeithio ar lawer o ddyfeisiau eraill hefyd

Yn ogystal â ffonau symudol, mae llawer o ddyfeisiau eraill sy’n cysylltu dros rwydweithiau symudol. Ymhlith y rhain mae larymau teleofal, larymau diogelwch, larymau tân, peiriannau ATM a therfynellau talu.

Er y gall dyfeisiau newydd yn gyffredinol ddefnyddio 4G, mae dal llawer o ddyfeisiau hŷn (hyd at 5.5m) sy’n dibynnu ar dechnoleg 2G a 3G hŷn.

Mae Ofcom am sicrhau y gall cwsmeriaid barhau i allu cael mynediad i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt gyda chyn lleied â phosib o darfu. Rydym wedi ymgysylltu â gwahanol sectorau ynghylch y newidiadau i rwydweithiau, ac wedi llunio’r cyngor hwn ar gyfer cyflenwr sy'n rheoli'r newid.

Cyn darllen y cyngor atodol hwn, darllenwch ein disgwyliadau o ran darparwyr symudol.

Helpu cwsmeriaid drwy'r newid

Os ydych chi'n darparu gwasanaeth (fel teleofal) sy’n dibynnu ar rwydweithiau 2G neu 3G, yna chi sy’n gyfrifol am sicrhau parhad gwasanaeth ar ôl i’r rhwydweithiau 2G a 3G gael eu diffodd. Efallai bod y cyfrifoldeb hwn yn rhan o rwymedigaethau cytundebol sydd gennych gyda’ch cwsmeriaid, yn ogystal ag unrhyw ofynion rheoleiddio sydd eisoes yn bodoli.

Bydd y rhan fwyaf o ddyfeisiau 3G yn dal i allu defnyddio 2G ar gyfer galwadau llais a gwasanaethau data cyfyngedig hyd nes bod y rhwydweithiau 2G wedi’u diffodd. Os oes gan ddyfais SIM sydd ond yn gallu gweithio ar rwydwaith 3G, bydd angen i chi ei uwchraddio cyn i'r gweithredwr rhwydwaith symudol perthnasol ddiffodd ei rwydwaith 3G.

Os yw dyfais yn defnyddio 2G, neu y bydd yn defnyddio 2G ar ôl i 3G gael ei ddiffodd, yna bydd angen i chi ddatblygu cynllun pontio gyda'r amseriadau diffodd 2G mewn cof;

Dylech hefyd ystyried:

  • cyfathrebu â chwsmeriaid fel eu bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau y gall fod eu hangen ac erbyn pryd y gallai fod angen iddynt ddigwydd; a
  • chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i adnabod cwsmeriaid a allai gael eu heffeithio gan y broses ddiffodd, ac isafu unrhyw risgiau cysylltiedig.

Efallai y bydd yn cymryd amser i ddod o hyd i ddyfais addas sy'n 4G-alluog, ac mewn rhai achosion, ailosod yr offer ffisegol sydd gennych. Felly mae'n bwysig cyfathrebu'n glir a rhoi digon o rybudd, gan ddefnyddio'r cynlluniau a gyhoeddir gan y gweithredwyr rhwydweithiau symudol.

Ystyriaeth bellach i SIMs crwydro

Mae’r rhan fwyaf o SIMs wedi’u darparu gan weithredwr rhwydwaith symudol (Vodafone, Three, VMO2, EE) neu weithredwr rhithwir neu ailwerthwr (e.e. Lebara, Asda Mobile, Lycamobile). Rydym yn disgwyl i’r gweithredwyr hyn weithio gyda chwsmeriaid sy’n ddefnyddwyr trydydd parti ar eu rhwydweithiau i isafu’r tarfu wrth i’r rhwydweithiau 2G a 3G gael eu diffodd.

Fodd bynnag, mae rhai o’r dyfeisiau hyn yn dibynnu ar ‘SIMs crwydro’ 2G neu 3G (sydd fel arfer yn gardiau SIM a fewnforiwyd i'r DU), sy’n crwydro rhwng y rhwydweithiau symudol sydd ar gael er mwyn darparu cysylltedd data.

Yn aml, mae darparwyr gwasanaeth yn dewis y mathau hyn o gardiau SIM fel bod ganddynt fynediad at rwydweithiau’r holl weithredwyr , gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i gyflawni darpariaeth dda a chysylltedd dibynadwy ar gyfer eu gwasanaeth.

Am nad oes gan y darparwyr gwasanaeth hyn berthynas uniongyrchol gyda’r gweithredwyr rhwydweithiau symudol, a bod cadwyn gyflenwi hir yn aml drwy amrywiol gyfryngwyr, nid yw mor hawdd hysbysu pawb am y broses ddiffodd a sicrhau eu bod nhw'n uwchraddio eu dyfeisiau.

Rydym yn cydnabod efallai na fydd yn hawdd i weithredwyr rhwydweithiau symudol adnabod y gwasanaethau hyn, o ystyried nad ydynt yn gwsmeriaid uniongyrchol iddynt a bod y SIMs a ddefnyddir o bosib wedi cael eu cyflenwi gan bartneriaid rhyngwladol.

Mae'n bwysig i weithredwyr rhwydweithiau symudol a chyflenwyr gwasanaethau symudol eraill (fel SIMs crwydro) weithio'n agos â'u cwsmeriaid i isafu unrhyw darfu i wasanaethau.

Defnyddio ein data 'mannau digyswllt' 3G

Wrth i ddarparwyr ddiffodd eu rhwydweithiau 3G, rydym yn amcangyfrif – ar ben mannau digyswllt sy’n bodoli eisoes – y gallai ychydig yn fwy o safleoedd golli mynediad at wasanaeth symudol dibynadwy 3G-yn-unig dan do gan unrhyw ddarparwr rhwydwaith.

I helpu darparwyr gwasanaethau (yn enwedig teleofal) i adnabod unrhyw gwsmeriaid a allai golli cysylltiad 3G, rydym wedi cyhoeddi rhestr o godau post sydd wedi'u heffeithio. Nid yw'r data'n berthnasol i ddyfeisiau 3G a all hefyd gysylltu dros rwydweithiau 2G neu 4G.

Ar gyfer teleofal, gallai colli’r ddarpariaeth 3G hon effeithio ar tua 1-2% o nifer fach o ddyfeisiau sy’n dibynnu ar SIMs crwydro 3G-yn-unig, a gyflenwyd gan ddarparwr y tu allan i’r DU.

Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth hon wrth i rwydweithiau eraill gadarnhau eu cynlluniau diffodd.

Annog eich corff diwydiant i ddatblygu arweiniad ar gyfer eich sector

Yn eich sector, efallai y bydd pethau eraill i’w hystyried wrth i'r broses ddiffodd 3G a 2G nesáu. Felly, rydym yn annog cyrff y diwydiant fel cymdeithasau masnach i siarad â'u haelodau a chyhoeddi arweiniad penodol ar gyfer y sector.

Dyma rai (ond nid pob un) o'r mathau o ddyfeisiau y gallai’r broses ddiffodd effeithio arnynt:

Larymau

  • Teleofal
  • Tân
  • Diogelwch

Cyfleustodau

  • Mesuryddion clyfar (domestig a busnes)
  • Gosodiadau paneli solar
  • Monitro rhwydweithiau cyfleustodau (dŵr, nwy, trydan)

Cysylltedd cerbydau

  • gwasanaeth brys eCall
  • pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • telemetreg/dyfeisiau tracio
  • mesuryddion parcio
  • peiriannau tocynnau bws

Ym mis Ionawr 2024 gwnaethom ysgrifennu i sefydliadau llywodraeth leol (PDF, 168.8 KB) a'r sector teleofal (PDF, 148.5 KB), i bwysleisio pa mor bwysig y mae bod darparwyr teleofal a darparwyr gwasanaeth eraill:

  • yn barod am y newidiadau; a'u bod yn
  • gweithio gyda sefydliadau sy'n defnyddio eu gwasanaethau i nodi cwsmeriaid y mae angen uwchraddio eu dyfeisiau.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?