Offer cymharu digidol ar gyfer gwasanaethau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu

13 Mawrth 2023

Cael gwybod am gynllun achredu gwirfoddol Ofcom ar gyfer gwefannau cymharu prisiau, gan gynnwys sut i ymgeisio.

Mae Ofcom yn credu y dylai pob cwsmer ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu gael bargen deg. Rydyn ni eisiau i gwsmeriaid siopa gyda hyder, gwneud dewisiadau doeth a chael y fargen iawn ar gyfer eu hanghenion.

Mae offer cymharu, fel gwefannau cymharu prisiau, yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl sy’n cael hyd i'w ffordd drwy'r ystod eang o gynnyrch ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu sydd ar gael heddiw. Mae gennym gynllun achredu gwirfoddol y gall offer cymharu ymuno ag ef, ar yr amod eu bod yn cyrraedd safonau penodol. Rydyn ni’n gwneud hyn i helpu i feithrin ymddiriedaeth yn y gwasanaeth maen nhw’n ei gynnig i gwsmeriaid.

Bydd Ofcom yn ystyried ardystio offer cymharu ar gyfer gwasanaethau perthnasol sydd ymysg a ddiffinnir gan y Cod Cyfathrebu Electronig Ewropeaidd (EECC). Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

  • Gwasanaethau symudol
  • Llinell dir
  • Band eang
  • Llais dros brotocol rhyngrwyd (VoIP)
  • Gwasanaethau wedi'u bwndelu

Gwneud cais am achrediad

Os mai dyma'ch tro cyntaf yn gwneud cais i Ofcom achredu eich offeryn, mae angen i chi gwblhau gwiriad cymhwyster cychwynnol yn gyntaf. Gyrrwch e-bost i ni yn comparison.tools@ofcom.org.uk, gan ddweud wrthym:

  1. pryd y lansiwyd eich gwasanaeth cymharu;
  2. y gwasanaeth(au) perthnasol y darperir gwybodaeth gymharu ar eu cyfer;
  3. sut mae'r canlyniadau'n cael eu cyfrifo;
  4. faint o ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio'r cyfrifiannell i gymharu gwasanaethau a / neu newid darparwr; a
  5. sut mae'r model busnes yn gweithio, gan gynnwys:
    1. a yw'r sefydliad yn derbyn taliadau comisiwn gan ddarparwyr cyfathrebu;
    2. a yw'r sefydliad yn cael ei redeg gan, neu'n eiddo i, ddarparwr cyfathrebu; ac
    3. a godir tâl ar ddefnyddwyr i gael mynediad i'r gwasanaeth.

Os yw Ofcom wedi'i bodloni y gallai eich gwasanaeth fodloni ein meini prawf, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd atom. Byddwn hefyd yn gofyn i archwilydd annibynnol gynnal archwiliad technegol o'ch gwasanaeth.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a fu eich cais yn llwyddiannus. Os oedd, gallwch arddangos logo'r cynllun ar eich gwefan ac mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd (yn amodol ar ganllawiau brandio ac arddangos).

I gael mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio a'n meini prawf, darllenwch ein Datganiad: Offer cymharu digidol ar gyfer ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu - yn benodol Adran 4, Crynodeb i ymgeiswyr.

Mwy am y cynllun

Yn 2021, bu i ni wneud newidiadau i’n cynllun achredu i sicrhau bod offer cymharu yn parhau i weithio ar gyfer cwsmeriaid gwasanaethau cyfathrebu.  Daeth meini prawf newydd y cynllun i rym o 30 Ebrill 2021.

Dylai aelodau presennol y  cynllun sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r meini prawf diweddaraf. Gallwch barhau i ddangos y logo 'cymeradwyir gan Ofcom' ar eu gwefan wrth i chi aros am eich ail-achrediad, yn amodol ar ganllawiau brandio ac arddangos.