Y Cod Trawshyrwyddo

08 Ionawr 2021

Cyflwyniad

1.1  O dan amodau’r Cod Trawshyrwyddo hwn ('y Cod'), gall darlledwyr teledu hyrwyddo rhaglenni, sianeli a gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â darlledu heb i hyrwyddiadau o'r fath gael eu hystyried yn hysbysebu a'u cynnwys wrth gyfrifo munudau hysbysebu.

1.2  Mae maint yr hysbysebu y ceir ei ddarlledu ar sianel deledu wedi'i gyfyngu gan y Cod ar amserlennu hysbysebion teledu (“COSTA”). Mae COSTA yn nodi uchafswm yr hysbysebu y gellir ei ddangos mewn awr benodol a thros unrhyw un diwrnod. At ddibenion COSTA, defnyddir y term ‘hysbysebu’ i gyfeirio at unrhyw fath o gyhoeddiad hyrwyddo a ddarlledir yn gyfnewid am daliad neu gydnabyddiaeth debyg.

1.3  Mae’r Cod yn disodli’r rheolau sy’n rheoleiddio’r broses o hyrwyddo rhaglenni, sianeli a gwasanaethau cysylltiedig ar deledu masnachol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Teledu Annibynnol yn Ionawr 2002 ac fe ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2006.

1.4  Mae’r Cod yn berthnasol i wasanaethau teledu a reoleiddir gan Ofcom. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i wasanaethau’r BBC a gyllidir gan ffi’r drwydded. Mae trawshyrwyddiadau ar wasanaethau o’r fath yn destun Cymal 63 Cytundeb y BBC. Dylid dehongli’r holl gyfeiriadau at ‘drwyddedeion’ yn unol â hynny.

1.5  Mae’r Cod yn berthnasol i hyrwyddiadau y tu allan i raglenni’n unig.

1.6  O fewn rhaglenni, mae cyfeiriadau at bob cynnyrch a gwasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau sy’n gysylltiedig â darlledu, yn ddarostyngedig i’r rheolau yn Adran Naw y Cod Darlledu: Cyfeiriadau Masnachol mewn Rhaglennu Teledu.

1.7  Mae Cod Ofcom yn berthnasol yn y ffordd arferol i gynnwys hyrwyddiadau y tu allan i raglenni, oni nodir fel arall yn yr arweiniad yn Adran Naw y Cod Darlledu.

Cefndir deddfwriaethol y Cod

2.1  O dan bwerau Ofcom i roi trwyddedau darlledu dan Ddeddfau Darlledu 1990 a 1996, caiff trwyddedau darlledu gynnwys hynny o amodau y mae Ofcom yn eu hystyried yn briodol gan ddal sylw ar y dyletswyddau a osodwyd ar Ofcom dan y Deddfau Darlledu a Deddf Cyfathrebiadau 2003. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 mae pŵer gan Ofcom hefyd i gymeradwyo codau at ddibenion darpariaeth sydd mewn trwydded.

2.2  O dan Adran 316 Deddf Cyfathrebiadau 2003, mae pŵer gan Ofcom i  gynnwys amodau y mae Ofcom yn eu hystyried yn briodol i sicrhau cystadleuaeth deg ac effeithiol. Ar hyn o bryd mae pob trwydded darlledu teledu’n cynnwys amod trwydded ar gystadlu teg ac effeithiol. O dan yr amod hwn rhaid i drwyddeion gydymffurfio ag unrhyw god neu arweiniad sydd wedi’i gymeradwyo gan Ofcom er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac effeithiol.

2.3  Mae adran 319 Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn gosod dyletswydd ar Ofcom i bennu safonau i sicrhau, ymysg pethau eraill, y cydymffurfir â rhwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig yng nghyswllt hysbysebu mewn gwasanaethau teledu. Mae’n rhaid i Ofcom bennu safonau hefyd i sicrhau y bodlonir y gofynion mewn perthynas â hysbysebu sydd wedi’u cynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol T-TT(2000)008 ac unrhyw Gyfarwyddebau’r UE, fel yr oeddent mewn grym yn syth cyn diwedd y cyfnod pontio. Mae hyn yn cynnwys y gofynion sydd wedi’u cynnwys yn y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled (Cyfarwyddeb 2010/13/EU) fel yr oeddent mewn grym yn syth cyn diwedd y cyfnod pontio.

2.4  Dylai darlledwyr fod yn ymwybodol o’r cyd-destun deddfwriaethol a fu’n sail i’r rheolau, yr egwyddorion sy’n berthnasol i bob adran, yr ystyron a roddwyd gan Ofcom a’r arweiniad a gyhoeddwyd gan Ofcom, yn y Cod hwn, ac yn y Cod Darlledu, y gallent oll fod yn berthnasol wrth ddehongli a chymhwyso’r Cod.

Egwyddorion

3.1  Mae dwy egwyddor allweddol y mae'r Rheolau sydd yn Adran 4 o’r Cod wedi'u dylunio i'w hadlewyrchu:

  1. sicrhau bod trawshyrwyddiadau ar y teledu ar wahân i hysbysebu a’u bod yn hysbysu gwylwyr am wasanaethau sy’n debygol o fodd o ddiddordeb iddynt fel gwylwyr; a
  2. sicrhau nad yw hyrwyddiadau ar y teledu y tu allan i raglenni’n amharu ar gystadlu teg ac effeithiol.

Rheolau

Ystyron

‘Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â Darlledu’ yw'r rhai sy'n cynnwys yr holl weithgareddau darlledu y gall Ofcom eu trwyddedu, er enghraifft gwasanaethau teledu a radio. Maent hefyd yn cynnwys gwasanaethau eraill sydd o ‘natur debyg i ddarlledu’, hynny yw, gwasanaethau sy’n cyflenwi cynnwys sy’n debyg i hynny a gyflenwir ar wasanaeth teledu neu radio. Yn ogystal â hynny, byddai gwefan sy’n darparu cynnwys y mae ganddo gysylltiad amlwg ac uniongyrchol â Gwasanaeth sy’n gysylltiedig â Darlledu yn gallu bod yn Wasanaeth sy’n gysylltiedig â Darlledu ei hun.

Trawshyrwyddiadauyw hyrwyddiadau, ar sianel, o raglenni a Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â Darlledu, nad ydynt yn Hunanhyrwyddiadau.

Trwyddedeion’ yw’r cwmnïau a’r endidau cyfreithiol sy’n dal trwydded darlledu a roddwyd gan Ofcom yn unol â Deddf Darlledu 1990 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Darlledu 1996 a Deddf Cyfathrebiadau 2003).

Hyrwyddiadau yw Hunanhyrwyddiadau a Thrawshyrwyddiadau.

Hunanhyrwyddiadau yw hyrwyddiadau ar sianel ar gyfer yr un sianel honno ac/neu ar gyfer rhaglenni a ddarlledir ar y sianel honno.

Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â darlledu

4.1 Mae'n rhaid i’r holl drwyddedeion ac S4C sicrhau bod Trawshyrwyddiadau wedi’u cyfyngu i Wasanaethau sy’n gysylltiedig â Darlledu.

Arweiniad

5.1 Nid yw’r arweiniad hwn yn rhwymol ac fe’i hadolygir o bryd i’w gilydd i adlewyrchu profiadau Ofcom o achosion unigol. Fe’i darperir i helpu trwyddedeion i ddehongli a chymhwyso’r Cod. Ymdrinnir â phob cwyn neu achos fesul un yn ôl ffeithiau penodol yr achos.

Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â darlledu

5.2 Nid yw Ofcom yn dymuno bod yn rhagnodol wrth ddiffinio’r term ‘Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â Darlledu’. Yn ôl y ffeithiau unigol, gallai gynnwys gwasanaeth lle cyflenwir cynnwys clyweled dros lwyfan symudol neu fand eang, a fideo-ar-alw. Mae’n wahanol i ‘ddeunydd sy’n gysylltiedig â rhaglenni’, sydd wedi’i ddiffinio yn Adran Naw y Cod Darlledu.

Cysylltiadau trawshyrwyddo

5.3  Mae rhai cysylltiadau rhwng darlledwyr (sy’n seiliedig ar bŵer pleidleisio neu gyfranddaliadau) yn creu tybiaeth amodol bod cymhellion digonol i’r sianel sy’n hyrwyddo ddarparu amser darlledu am ddim i sianel arall neu wasanaeth sy’n gysylltiedig â darlledu heb fod angen cydnabyddiaeth ychwanegol. O dan yr amgylchiadau penodol hyn ni fyddai Ofcom, yn niffyg tystiolaeth i’r gwrthwyneb, yn ystyried bod y Trawshyrwyddiadau hyn yn hysbysebu. Fodd bynnag, os yw Ofcom yn credu bod taliad neu ryw gydnabyddiaeth arall wedi mynd neu’n mynd rhwng y partïon, gellid ymchwilio i drefniadau o’r fath o dan y rheolau ar funudau hysbysebu a gellid eu cyfrif yn funudau hysbysebu.

5.4  Mae’r cysylltiadau perthnasol sy’n creu’r dybiaeth hon o gymhellion digonol fel a ganlyn:

  1. mae Deiliad Trwydded y sianel sy’n hyrwyddo’n dal 30% neu fwy o’r cyfranddaliadau (neu bŵer pleidleisio o 30% neu fwy) yn Neiliad Trwydded y sianel sy’n cael ei hyrwyddo;
  2. mae Deiliad Trwydded y sianel sy’n cael ei hyrwyddo’n dal 30% neu fwy o’r cyfranddaliadau (neu bŵer pleidleisio o 30% neu fwy) yn Neiliad Trwydded y sianel sy’n hyrwyddo; neu2
  3. yr un yw’r Deiliad Trwydded Gwirioneddol ar gyfer y sianel sy’n cael ei hyrwyddo a’r sianel sy’n hyrwyddo.

5.5  At ddibenion y cysylltiadau perthnasol a ddisgrifir ym mharagraff 5.4:

Ystyr ‘Deiliad Trwydded Gwirioneddol’ yw’r cwmni neu endid cyfreithiol sy’n dal y drwydded ddarlledu a roddwyd gan Ofcom yn unol â Deddf Darlledu 1990 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Darlledu 1996 a Deddf Cyfathrebiadau 2003); ac

Ystyr ‘Deiliad Trwydded’ yw’r  Deiliad Trwydded Gwirioneddol neu unrhyw gwmni neu endid cyfreithiol sy’n dal 30% neu fwy o’r cyfranddaliadau (neu bŵer pleidleisio o 30% neu fwy) yn y Deiliad Trwydded Gwirioneddol.

5.6  Os delir llai na 30% o’r cyfranddaliadau (neu lai na 30% o’r pŵer pleidleisio), efallai na fydd cymhellion digonol i ddarlledwr ddarparu amser darlledu am ddim i sianel neu wasanaeth arall a bydd angen i ddarlledwyr ddangos nad oes dim cydnabyddiaeth wedi mynd rhwng y partïon a bod cyfiawnhad dros Drawshyrwyddo ar sail ysgogiadau eraill.

5.7  Yn achos Trawshyrwyddiadau rhwng deiliaid trwydded Channel 3, bydd tybiaeth amodol nad oes dim cydnabyddiaeth wedi mynd rhyngddynt.

5.8  Nid yw’r tybiaethau hyn yn berthnasol i gyhoeddiadau gwasanaeth cyhoeddus, apeliadau elusennol a ddarlledir yn rhad ac am ddim, cyhoeddiadau a fynnir gan Ofcom a gwybodaeth i wylwyr sy'n cael ei darlledu’n unol â gofyniad gan Ofcom, sydd eisoes wedi’u heithrio gan COSTA o hysbysebu y telir amdano.

Arweiniad cyffredinol ar y Cod Trawshyrwyddo

6.1  Cyfrifoldeb y darlledwr yw cydymffurfio â’r Cod Trawshyrwyddo.

6.2  Gall Ofcom gynnig arweiniad cyffredinol ar ddehongli’r Cod Trawshyrwyddo. Fodd bynnag, rhoddir unrhyw gyngor o’r fath ar yr amod glir na fydd yn effeithio ar ryddid Ofcom i farnu ynghylch achosion a chwynion ar ôl darlledu ac na fydd yn effeithio ar weithredu cyfrifoldebau rheoleiddio Ofcom. Dylai darlledwyr geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain ar unrhyw faterion sy’n codi ynghylch cydymffurfio. Ni fydd Ofcom yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddibynnu ar arweiniad anffurfiol.