Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC
Dyma bedwerydd adroddiad blynyddol Ofom ar y BBC ar gyfer y cyfnod Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Eleni, rydym yn edrych yn ôl i asesu sut mae'r BBC wedi perfformio ers dechrau cyfnod y Siarter yn 2017.
Rydym yn gyfrifol am ddwyn y BBC i gyfrif ar ran cynulleidfaoedd drwy ddarparu rheoleiddio teg, cadarn ac annibynnol. Mae ein cyfrifoldebau'n cynnwys tri maes allweddol: goruchwylio perfformiad y BBC o ran cyflawni ei Genhadaeth a'i Ddibenion Cyhoeddus; diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol; a sicrhau safonau o ran cynnwys yn rhaglennu'r BBC.
Bob blwyddyn mae’n rhaid i ni gyhoeddi adroddiad blynyddol yn egluro sut rydym wedi cyflawni’n rol, ac asesu cydymffurfiaeth y BBC â’r Drwydded Weithredu ac anghenion rheoleiddiol eraill fel y nodir yn Siarter y BBC a’r Cytundeb Fframwaith. Mae hefyd yn ofynnol i ni adrodd o leiaf bob blwyddyn ar berfformiad y BBC yn erbyn mesurau a bennwyd gennym ochr yn ochr â'r Drwydded Weithredu. Mae data a thystiolaeth sylfaenol sy'n cefnogi ein hasesiad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad perfformiad rhyngweithiol cysylltiedig.
Wrth i ni nesáu at ganol cyfnod y Siarter (sy'n rhedeg o 2017 i 2027), eleni, rydym hefyd yn nodi ein hasesiad o sut mae'r BBC yn cyflawni'r Genhadaeth a'r Dibenion Cyhoeddus ac yn crynhoi'r themâu allweddol rydym wedi'u nodi ar draws ein holl feysydd cyfrifoldeb ers i ni ymgymryd â rheoleiddio'r BBC. Mae hyn yn bwydo i mewn i'n hadolygiad parhaus i ystyried a yw ein gwaith o reoleiddio'r BBC yn parhau i fod yn addas i'r diben wrth ddwyn y BBC i gyfrif ar gyfer gwylwyr a gwrandawyr.
Mae’r adroddiad hwn ar y cyfan, yn canfod bod y BBC wedi cyflawni ei gylch gwaith dros y cyfnod Siarter. Gwnaeth ymaddasu'n gyflym i'r pandemig Covid-19 ac mae’n parhau’n boblogaidd gyda chynulleidfaoedd: gwnaeth bron i naw o bob deg o oedolion ddefnyddio gwasanaethau’r BBC yn wythnosol yn 2021. Fodd bynnag, rydym wedi nodi sawl thema hirsefydlog o'n gwaith hyd yma:
- Mae cyflawni didueddrwydd dyladwy yn parhau i fod yn her gymhleth i'r BBC er bod gan y BBC gofnod da o gydymffurfio â rheolau darlledu yn y maes hwn, rydym yn parhau i ganfod bod cynulleidfaoedd yn graddio'r BBC yn llai ffafriol am ddidueddrwydd. Rydym yn croesawu camau gweithredu diweddar y BBC a fwriadwyd i wella ymddiriedaeth y gynulleidfa.
- Mae'n rhaid i'r BBC barhau i esblygu i fod yn berthnasol i bob cynulleidfa: Rydym wedi gweld yn gyson fod gan rai grwpiau cynulleidfa foddhad is â'r BBC, megis cynulleidfaoedd anabl, y rhai yn yr Alban a'r rhai o gefndiroedd llai cefnog. Mae eraill yn defnyddio llai o'r BBC, fel pobl ifanc. Bydd angen i'r BBC ddal ei hun i gyfrif yn gadarn wrth gyflawni ei fentrau a gynlluniwyd i ymateb i'r heriau hyn. Ochr yn ochr â hyn, mae angen i'r BBC wella'r ffordd y mae'n cynrychioli ac yn portreadu grwpiau cynulleidfa llai bodlon a rhaid sicrhau bod ei weithlu'n fwy cynrychioliadol o bobl o wahanol gefndiroedd.
- Mae'n rhaid i gynnwys unigryw a gwreiddiol o'r DU sy’n adlewyrchu bywydau a materion cynulleidfaoedd y DU barhau i fod yn flaenoriaeth i'r BBC: mae hyn wrth wraidd y ffordd y mae'r BBC yn apelio at bob cynulleidfa ac yn bodloni ei Genhadaeth a'i Ddibenion Cyhoeddus. Wrth i'r BBC fynd ar drywydd ei strategaeth mae angen cynnal ei ymrwymiad i hyn.
- Dylid ymgorffori tryloywder wrth wneud penderfyniadau, adrodd yn ôl, bod yn atebol ac ymgysylltu â’r diwydiant ymhellach yn nulliau gweithio’r BBC: rydym wedi galw'n gyson am i'r BBC fod yn fwy tryloyw. Rydym wedi gweld rhai gwelliannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae rhagor i'w wneud.
Darllen yr adroddiad llawn
Pedwerydd adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 5.9 MB)
Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg.
Annex 1: Compliance with regulatory requirements (PDF, 1.2 MB)
Perfformiad cyffredinol y BBC

Deall canfyddiadau'r gynulleidfa o'r BBC yn ystod Covid-19
Gwnaethom gynnal ymchwil i ddeall canfyddiadau'r gynulleidfa o'r BBC yn ystod y cyfnod hwn a'i barn ar sut gwnaeth gyflawni ei genhadaeth i hysbysu, addysgu a diddanu. Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg.
Understanding audience perceptions of the BBC during Covid-19 – summary report (PDF, 326.6 KB)
Adroddiadau blaenorol
Dyma drydydd Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC, sy'n ymdrin â'r cyfnod rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.
Mae Siarter Brenhinol y BBC yn mynnu bod Ofcom yn cyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy'n disgrifio sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac yn asesu cydymffurfiad y BBC â'i Thrwydded Weithredu a gofynion rheoleiddio eraill.
Ar wahân, mae'n ofynnol i ni adrodd o leiaf bob blwyddyn ar berfformiad y BBC yn erbyn y mesurau a bennwyd gennym ochr yn ochr â'r Drwydded Weithredu. Mae hyn yn ffurfio'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein hasesiad o berfformiad y BBC yn erbyn ei dibenion cyhoeddus.
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn asesu perfformiad y BBC wrth gyflwyno ei Chenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus, ac yn esbonio sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau o warchod cystadleuaeth deg ac effeithiol o fewn y meysydd y mae'r BBC yn gweithredu ynddynt, ac o gynnal safonau o ran cynnwys yn rhaglenni'r BBC.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi bod y BBC yn parhau i gyflwyno'n fras ar ei chylch gwaith trwy ddarparu maint sylweddol o newyddion a materion cyfoes, amrywiaeth eang o gynnwys dysgu ac addysgol, yn ogystal â chynnwys uchel ei ansawdd, unigryw a chreadigol ar gyfer yr holl gynulleidfaoedd ar draws ei gwasanaethau prif ffrwd ac arbenigol. Er bod hyn yn bennaf y tu hwnt i'r cyfnod adrodd, rydym yn rhoi sylwadau ar gryfder ymateb y BBC i Covid-19, a'i gallu i barhau i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd yn ystod y pandemig.
Mae'r BBC wedi dangos cynnydd mewn rhai o'r meysydd lle codwyd pryderon gennym y llynedd, er enghraifft fe amlinellodd ei hymatebion i'n hadolygiad newyddion yn ei Chynllun Blynyddol diwethaf; rydym yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i effaith y camau hyn gael eu mesur yn glir. Bu gwelliant yn nhryloywder gwybodaeth amrywiaeth gweithlu'r BBC hefyd.
Fodd bynnag, mae'r BBC yn wynebu her barhaus wrth wasanaethu holl gynulleidfaoedd y DU. Fel a nodwyd gennym y llynedd mae'r BBC yn ei chael hi'n heriol cyrraedd a chadw cynulleidfaoedd ifainc, ond rydym yn cydnabod bod y BBC yn cymryd camau i ymateb i'r her yma. Mae rhai grwpiau penodol o hyd sy'n llai bodlon ar y BBC, yn benodol pobl yn Yr Alban, y rhai mewn grwpiau cymdeithasol-economaidd is, a phobl anabl. Rydym yn croesawu'r ffaith i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd gydnabod nad yw'r BBC yn cyflwyno'n gyfartal i'r holl gynulleidfaoedd, a'i fod wedi mynegi ymrwymiad i wasanaethu holl gynulleidfaoedd y DU.
Mae meysydd yn awr lle hoffem weld y BBC yn mynd ymhellach, er enghraifft disgrifio'n fwy clir sut mae'n mesur llwyddiant ei gweithredoedd i wella cynrychiolaeth cynulleidfaoedd a sut maent yn cael eu portreadu. Rydym yn parhau i fod o'r farn hefyd bod angen i'r BBC ddisgrifio ei chynlluniau'n fanylach, gan esbonio sut y bydd yn cyflwyno ei flaenoriaethau, fel a nodwyd yn ddiweddar gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Rydym yn disgwyl gweld hyn yng Nghynllun Blynyddol nesaf y BBC. Wrth iddi wneud hyn, rydym eisiau i'r BBC wella ymgysylltu â'r cyhoedd ac â diwydiant.
I gyd-fynd â'n hadroddiad eleni, fe fydd Adroddiad Perfformiad rhyngweithiol sy'n cyflwyno data cynhwysfawr ar bob un o'r Dibenion Cyhoeddus a pha mor dda y mae'r BBC wedi'u cyflwyno, ar draws amrediad gwasanaethau a llwyfannau'r BBC.
Adroddiad
Trydydd Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 6.8 MB)
Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Annex 1: Compliance with regulatory requirements (PDF, 517.9 KB)
BBC's response to Ofcom's letter, 19 November 2020 (PDF, 176.0 KB)
Adroddiad Perfformiad Rhyngweithiol
Dyma ail adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC, yn cwmpasu Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Mae'r Siarter Frenhinol yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy'n nodi sut yr ydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac yn asesu cydymffurfiaeth y BBC â gofynion ein fframwaith gweithredu a dogfennau cysylltiedig.
Ar wahân i hyn, mae'n ofynnol i ni adrodd yn flynyddol o leiaf ar berfformiad y BBC yn erbyn y mesurau a bennwyd gennym wrth ochr y drwydded weithredu. Dyma'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein hasesiad o berfformiad y BBC yn erbyn ei bwrpasau cyhoeddus.
Yn yr adroddiad hwn, aseswn berfformiad y BBC wrth gyflawni ei genhadaeth a'i bwrpasau cyhoeddus, gan ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol o fewn yr ardaloedd y mae'n gweithredu ynddynt, a sicrhau safonau golygyddol yn rhaglenni'r BBC. 2018/19 yw ein blwyddyn lawn gyntaf o adrodd ar sut y mae'r BBC wedi bodloni ei holl ofynion yn ei drwydded weithredu.
Mae'r adroddiad hwn yn canfod bod y BBC, yn gyffredinol, yn cyflawni ei gylch gwaith drwy ddarparu swmp sylweddol o newyddion a materion cyfoes, ystod eang o gynnwys dysgu ac addysgol, yn ogystal â chynnwys nodedig a chreadigol o ansawdd uchel ar gyfer pob cynulleidfa ar draws ei wasanaethau prif ffrwd ac arbenigol. Fodd bynnag, rydym wedi nodi llawer o'r un materion â'r llynedd, a bu'n anodd i ni asesu cynnydd yn absenoldeb cynllun wedi'i fynegi'n glir gan y BBC.
Rydym felly wedi ysgrifennu i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol (PDF, 85.8 KB) ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, yn galw arno i wneud yn glir drwy gynllun blynyddol nesaf y BBC a’r broses sefydlu cyllideb, cynllun ar gyfer mynd i’r afael â’r themâu cylchol hyn: ymgysylltu gyda phobl ifanc; cynrychiolaeth a phortread; ymrwymo i drylowyder; ac ymrwymo i raglenni teledu newydd o’r DU, yn ogystal â sut fydd yn ymgysylltu gydag argymhellion yr adolygiad cysylltiedig ar newyddion a materion cyfoes.
Adroddiad
Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 2.4 MB)
Mae'r atodiadau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Annex 1: Compliance with regulatory conditions (PDF, 832.4 KB)
Annex 2: BBC Performance Report (PDF, 3.7 MB)
Interactive data
View an interactive report providing visualisations of key data used in our second BBC Performance Report.
Dyma Adroddiad Blynyddol cyntaf Ofcom ar y BBC, ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018. Mae’r Siarter Brenhinol yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy’n nodi sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac sy’n asesu a yw’r BBC wedi cydymffurfio â gofynion ein Fframwaith Gweithredu, ein Trwydded Weithredu a’r dogfennau cysylltiedig.
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn darparu ein hasesiad o sut mae’r BBC yn perfformio yn y dirwedd cyfryngau sy’n newid yn gyflym. Rydym hefyd wedi nodi’r camau rydym wedi’u cymryd i asesu sut mae’n cyflawni ei genhadaeth a’i ddibenion cyhoeddus, ei effaith ar gystadleuaeth a sicrhau ei safonau golygyddol.
Rydym o'r farn bod y BBC yn gyffredinol yn cyflawni ei gylch gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd drwy amrywiaeth ac ansawdd ei ddarpariaeth, ond rydym wedi nodi pedwar maes allweddol lle mae gofyn iddo wneud mwy. Rydym wedi ysgrifennu at y BBC (PDF, 186.8 KB) yn nodi’r materion hyn a byddwn yn trafod gyda’r gorfforaeth sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw. Lle nad yw’r BBC yn dangos cynnydd digonol, byddwn yn gweithredu ymhellach.
Ar wahân i hynny, mae’n ofynnol i ni adrodd o leiaf yn flynyddol ar berfformiad y BBC yn erbyn y mesurau rydym wedi’u gosod ochr yn ochr â’r Drwydded Weithredu. Mae hwn ar gael ar ffurf atodiad i’r adroddiad, ac mae’n ffurfio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein gwaith o asesu perfformiad y BBC yn erbyn ei ddibenion cyhoeddus
Adroddiad
Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 3.8 MB)
Mae'r atodiadau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Annex 1: Compliance with regulatory conditions (PDF, 231.7 KB)
Annex 2: BBC Performance Report (PDF, 1.1 MB)
Annex 3: Methodology and Glossary (PDF, 267.4 KB)
Data
Edrych ar bortread gweledol rhyngweithiol o'r data a ddefnyddiwyd yn yr Adroddiad Perfformiad neu lawrlwytho'r data. (Saesneg n unig)
Ffeithlun: Canfyddiadau allweddol
Mae’r wybodaeth isod ar gael yn Saesneg.
Lawrlwythiadau Data
Title | Summary |
---|---|
Download of the data used in the charts from the BBC Performance Report. | |
BBC Performance Tracker data tables (PDF, 13.5 MB) and questionnaire (PDF, 405.9 KB) | The BBC performance tracker provides Ofcom with an evidence base to assess audience opinions on the BBC’s performance against its delivery of four public purposes. The data tables contain the results from fieldwork period October 2017 to April 2018. |
The PSB Tracker monitors the satisfaction and attitudes towards public service broadcasting channels. | |
This report provides the findings of Ofcom’s 2018 research into news consumption across television, radio, print and online. The aim is to inform an understanding of news consumption across the UK and within each UK nation. | |
The Children’s Media Literacy Tracker is a face-to-face survey run once a year between April and June. The objective of the survey is to provide detailed evidence on media use and understanding among children and young people aged 5-15, as well as in-depth information about media access and use among children aged 3-4. |