Arweiniad: Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad mewn darlledu


Mae'r arweiniad hwn yn nodi argymhellion i helpu darlledwyr i ddatblygu eu trefniadau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad (EDI).

Canllawiau ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiad i ddarlledwyr (PDF, 246.7 KB)

Mae'n rhaid i ddarlledwyr wneud trefniadau i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn cyflogaeth rhwng dynion a menywod, pobl o wahanol grwpiau hil, ac ar gyfer pobl anabl. Mae'n rhaid iddynt hefyd roi mesurau ar waith ar gyfer hyfforddi ac ailhyfforddi. Mae'r rhain yn amodau eu trwydded gan Ofcom.

Wrth ddatblygu ac adolygu eu trefniadau, mae'n rhaid i ddarlledwyr roi sylw i Arweiniad Ofcom, yr ydym bellach yn ei ddiweddaru i gymryd canfyddiadau ein hadolygiad pum mlynedd o amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal ym myd darlledu'r DU i ystyriaeth. Awgrymodd ein hadolygiad fod darlledwyr ar y cyfan wedi canolbwyntio ar recriwtio allanol, gyrfa cynnar er mwyn arallgyfeirio'r gronfa o bobl sy'n ymuno â'u gweithlu. Mae hwn yn gam pwysig ac wedi arwain at gynnydd mewn amrywiaeth ar draws nifer o nodweddion, ond mae'n ymddangos bod cynnydd wedi'i gyfyngu i o rolau lefel is.

Amlygodd ein hadolygiad hefyd, gyda niferoedd cynyddol o bobl yn gadael y diwydiant, na fydd cynnydd yn gynaliadwy oni bai y gwneir mwy o ymdrechion i gadw ystod amrywiol o weithwyr ar bob lefel hefyd. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym o'r farn bod yn rhaid i ddarlledwyr feithrin diwylliant sy'n ymwreiddio cynhwysiad i graidd eu sefydliadau. Gall hyn amrywio o fwy o gyfleoedd dilyniant a gwell hyfforddiant i weithwyr lefel canol gyrfa, i ymgyrchoedd recriwtio uwch. Yn bwysig, mae hefyd yn golygu ailedrych ar arferion a pholisïau mewnol yn fwy cyffredinol, er mwyn sicrhau nad ydynt yn atgyfnerthu anghydraddoldebau yn anfwriadol.

Rydym wedi rhoi pwyslais ychwanegol ar bwysigrwydd gwneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol drwy roi trefniadau ar waith sy'n ymgorffori cynhwysiad yn niwylliant y sefydliad, hybu dilyniant a hyfforddiant, a chanolbwyntio ar gadw doniau.

Gellir sicrhau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad ("EDI") yn llwyddiannus mewn amrywiol ffyrdd ac rydym yn deall bod darlledwyr ar wahanol gamau o'u strategaethau EDI. Rydym yn eu hannog i feddwl yn greadigol ac ar y cyd am ffyrdd o gyflwyno EDI o fewn eu sefydliadau. Nid ydym am i ddarlledwyr gyfyngu eu hunain i'r argymhellion yn yr Arweiniad, ond ei ddefnyddio fel pwynt cyfeirio ac ysbrydoliaeth.

Sut mae'r arweiniad yn cysylltu â chywain ein data ansoddol

Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi gofyn i ddarlledwyr ddarparu asesiadau ansoddol o'u trefniadau cyfle cyfartal. Rhoddodd hyn gyfle iddynt ddangos cynnydd eu meddylfryd a'u camau gweithredu EDI ac i ddarparu tystiolaeth o sut yr oeddent yn bodloni amodau eu trwydded.

Eleni rydym yn cyflwyno offeryn data ansoddol newydd, a fydd ar ffurf model aeddfedrwydd, a bydd yn helpu Ofcom a darlledwyr i asesu effeithiolrwydd eu trefniadau yn well. Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth am yr offeryn a'n rhesymau dros gyflwyno fe. Mae ein Harweiniad ar ei newydd wedd yn darparu'r fframwaith ar gyfer y cwestiynau yn y model aeddfedrwydd EDI ansoddol.

Bydd darlledwyr yn defnyddio'r offeryn data i asesu pa mor ddatblygedig a llwyddiannus yw eu trefniadau EDI. Byddant yn gallu gweld sut mae eu trefniadau yn cymharu â'n hargymhellion ac yn amlygu lle mae eu polisïau'n wahanol neu'n mynd y tu hwnt i'n Harweiniad. Bydd Ofcom yn gallu defnyddio'r offeryn data i helpu i asesu cydymffurfiaeth ag amodau'r drwydded ac i olrhain cynnydd yn y diwydiant dros amser mewn ffordd dryloyw a mesuradwy.

Newidiadau i'r arweiniad

Mae'r arweiniad wedi cael ei ehangu i gynnwys pynciau a meysydd ffocws newydd ar gyfer EDI ac er y cadwyd cryn dipyn o'r sylwedd blaenorol, mae llawer o'r cynnwys wedi'i aralleirio a'i ddiwygio.

Gwnaed y newidiadau sylweddol i adlewyrchu ein pwyslais ar gynhwysiad a rhoi argymhellion manylach i ddarlledwyr ar y math o drefniadau yr hoffem eu gweld yn eu lle.