Twrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023

17 Gorffennaf 2023

Rhwng 4 a 11 Gorffennaf 2023 buom yn ymgynghori ar geisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Twrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 (“Cwpan y Byd Merched 2023”), a gynhelir rhwng 20 Gorffennaf a 20 Awst 2023.

Eglurodd ein hymgynghoriad ein bod ni’n bwriadu rhoi caniatâd dros dro i'r BBC ac ITV. Cawsom un ymateb i’r ymgynghoriad, gan unigolyn.

Yn 2022, cafodd Twrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 ei ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig ‘Grŵp A’. Bwriad y rheolau ‘digwyddiadau rhestredig’ yw sicrhau bod digwyddiadau penodol sydd o ddiddordeb cenedlaethol ar gael i’r cynulleidfaoedd ehangaf posibl i’w gwylio’n rhad ac am ddim. Mae’r rheolau, a sefydlwyd dan Ddeddf Darlledu 1996, yn nodi bod rhaid i ddarlledwyr (ymysg pethau eraill) gael caniatâd gan Ofcom er mwyn dangos darllediadau teledu byw ac ecsgliwsif o ddigwyddiadau rhestredig.

Mae’r BBC ac ITV yn bwriadu rhannu darllediadau o’r twrnamaint, sy’n cynnwys 64 gêm, a rhannu gemau Lloegr, sy’n golygu y bydd pob darlledwr yn dangos hanner gemau Lloegr a hanner cyfanswm nifer y gemau ar draws y twrnamaint. Bydd y ddau ddarlledwr yn dangos y rownd derfynol.

Mae ITV yn bwriadu darparu darllediadau byw o’i gyfran o gemau Lloegr a’r rownd derfynol ar ITV1, gyda'r rhain hefyd yn cael eu darlledu ar draws rhwydwaith Channel 3, sy’n cynnwys STV. Bydd darpariaeth ychwanegol ar ITV4. Mae’r BBC yn bwriadu darlledu’r gêm agoriadol, ei gyfran o gemau Lloegr, y rownd gynderfynol a’r rownd derfynol yn fyw ar BBC One. Bydd gemau eraill yn cael eu darlledu’n bennaf ar BBC Two, gyda darpariaeth ychwanegol ar gael drwy’r Botwm Coch ac iPlayer. Bydd y BBC hefyd yn darlledu darllediadau sain byw a darllediadau sain wedi’u gohirio ar ei rwydwaith radio cenedlaethol.

Buom yn ymgynghori am gyfnod byrrach na’r arfer. Y rheswm am hynny oedd y ffaith bod y ceisiadau wedi dod i law yn hwyrach na'r disgwyl. Mae’r BBC ac ITV wedi egluro bod hyn oherwydd oedi cyn caffael yr hawliau gan FIFA. Nodwyd wrth gyhoeddi ein hymgynghoriad bod FIFA, ITV, y BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) wedi dod i gytundeb, ond nad oedd y cytundeb yn un terfynol oherwydd yr oedi yn sgil natur amlochrog fwy cymhleth y trafodiad a oedd yn cynnwys sawl darlledwr Ewropeaidd drwy’r EBU.

Nodwn fod y cytundeb heb ei gadarnhau hyd yma, ond ein bod ni’n deall na fydd unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i’r ddarpariaeth arfaethedig nac i natur y fargen y cytunwyd arni mewn egwyddor.

O ran cynlluniau darpariaeth arfaethedig y BBC ac ITV, roedd y sawl a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad yn gwrthwynebu’r ffaith bod y BBC yn cael hawliau i ddarlledu, a hynny ar sail y mater o gystadleuaeth oherwydd bod gan y BBC ac ITV gyfran sylweddol o’r farchnad yn barod, ac roedd hefyd yn dadlau dros ddarlledu digwyddiadau rhestredig ar wasanaethau teledu lleol

Er mwyn darlledu digwyddiadau rhestredig, mae’n rhaid i ddarlledwyr gaffael hawliau gan ddeiliaid hawliau yn hytrach nag Ofcom. Fel yr eglurwyd yn ein hymgynghoriad, rydym yn asesu ceisiadau ar y sail a nodir yn ein Cod ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig eraill, sy'n egluro y bydd Ofcom eisiau gweld bod darlledwyr wedi cael cyfle gwirioneddol i gaffael yr hawliau ar delerau teg a rhesymol.  Roedd ein hymgynghoriad yn nodi ein barn dros dro sef bod darlledwyr (ar wahân i'r BBC ac ITV) yn cael y cyfle i gaffael yr hawliau ar delerau teg a rhesymol.  Rydym o’r farn nad yw pryderon yr ymatebydd am gyfran marchnad y BBC yn berthnasol i'n penderfyniad.

Mynegodd yr ymatebydd bryderon hefyd ynghylch pa ddigwyddiadau sy'n cael eu dynodi fel digwyddiadau rhestredig.  Fodd bynnag, mae Deddf Darlledu 1996 yn nodi mai mater i'r Ysgrifennydd Gwladol yw penderfynu pa ddigwyddiadau sy’n cael eu dynodi fel digwyddiadau rhestredig.

Gan nad oedd unrhyw ymatebion eraill i'r ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu rhoi caniatâd i’r BBC ac ITV ddarlledu Twrnamaint Cwpan y Byd Merched 2023, gan nodi y byddai’r cynlluniau’n sicrhau bod Cwpan y Byd 2023 yn cael ei ddarlledu’n fyw ac yn rhad ac am ddim i gynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig.