Adolygiad o gyfryngau lleol yn y DU

19 Rhagfyr 2023

Mae'r cyfryngau lleol yn chwarae rôl bwysig ym mywydau defnyddwyr a dinasyddion ar draws y DU. Mae'n rhoi newyddion a gwybodaeth i gynulleidfaoedd am yr hyn sy'n digwydd yn eu hardaloedd lleol, yn helpu i adeiladu cydlyniant cymdeithasol ac ymgysylltiad ymhlith cymunedau ac yn cefnogi democratiaeth leol.

Ond wrth i fwy o bobl droi ar-lein am newyddion a gwybodaeth leol, mae darparwyr cyfryngau lleol, gan gynnwys y BBC, yn gorfod addasu eu cynigion lleol y tu hwnt i ddarlledu a phrint traddodiadol.

Mae Ofcom yn adolygu darpariaeth, rôl a gwerth cyfryngau lleol yn y DU, gan gynnwys sut mae darparwyr yn addasu i ymddygiad newidiol cynulleidfaoedd.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi'r cylch gorchwyl ar gyfer ein hadolygiad - mae hyn yn esbonio pam ein bod yn edrych ar gyfryngau lleol, a'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod yr adolygiad. Rydym hefyd wedi comisiynu ymchwil (a byddwn yn comisiynu mwy) i ddeall beth mae cynulleidfaoedd yn ei werthfawrogi am wasanaethau lleol a'r hyn y maent ei angen ganddynt. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canfyddiadau ein hymchwil gychwynnol i'r defnydd o newyddion a chyfryngau lleol ar draws y DU a byddwn yn cynnal ymchwil bellach ymysg defnyddwyr yng ngwanwyn 2024.

Adolygiad o gyfryngau lleol yn y DU: cylch gorchwyl (PDF, 513.2 KB)

Noder bod y dogfennau isod yn Saesneg.

Teitl y ddogfenDyddiad diweddaru diwethaf
Local Media Survey (PDF, 611.0 KB)19 Rhagfyr 2023
Local Media Survey: data tables (XLSX, 4.0 MB)19 Rhagfyr 2023

Diweddariad 22 Ionawr 2024 – Adolygiad hanner ffordd drwy dymor y BBC

Mae'r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi cyhoeddi ei hadolygiad hanner ffordd drwy dymor y BBC. Mae'n argymell bod Ofcom yn cyhoeddi ein barn ar sefyllfa'r BBC yn y sectorau newyddion lleol, ac yn nodi ein hymagwedd at ystyried effaith gystadleuaeth newidiadau i wasanaethau newyddion lleol y BBC yn y dyfodol.

Byddwn yn ystyried sefyllfa'r BBC yn y sector newyddion lleol fel rhan o'n hadolygiad o gyfryngau lleol. Lle bo'n briodol, byddwn yn defnyddio ein hadroddiadau blynyddol i ddiweddaru ein barn ar sefyllfa'r BBC yn y sectorau gwahanol.